Part of 2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 11 Mai 2022.
Rydym yn ymgysylltu ag ystod eang o bartneriaid i ddeall effaith ardoll dwristiaeth, gan gynnwys tendro am waith ymchwil economaidd annibynnol. Bydd awdurdodau lleol unigol yn cael pŵer i benderfynu a fyddant yn codi ardoll yn eu hardaloedd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r cynnig y mae'r Aelod yn ymwybodol ohono, ac y mae, yn wir, wedi gofyn cwestiynau blaenorol yn ei gylch.