2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 11 Mai 2022.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd treth dwristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ58001
Rydym yn ymgysylltu ag ystod eang o bartneriaid i ddeall effaith ardoll dwristiaeth, gan gynnwys tendro am waith ymchwil economaidd annibynnol. Bydd awdurdodau lleol unigol yn cael pŵer i benderfynu a fyddant yn codi ardoll yn eu hardaloedd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r cynnig y mae'r Aelod yn ymwybodol ohono, ac y mae, yn wir, wedi gofyn cwestiynau blaenorol yn ei gylch.
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Fe fyddwch yn ymwybodol fod llawer iawn o bryder yng ngogledd Cymru am effaith yr argymhellion hyn ar gyfer treth dwristiaeth ar yr economi. Mae degau o filoedd o swyddi ledled y rhanbarth yn dibynnu ar y diwydiant twristiaeth a gwariant ymwelwyr. Un o'r pethau rhyfedd y mae pobl wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru wrando arno yw'r ffaith bod y rhan fwyaf o'r gwariant yn deillio o arosiadau dros nos. Mae'r rhai sy'n aros dros nos yn gwario mwy yn economi Cymru. Yr hyn y bydd eich argymhellion yn ei wneud mewn gwirionedd fydd cosbi pobl sydd eisiau aros dros nos. Ni fydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i'r farchnad ymwelwyr dydd. A ydych yn derbyn y gallai trethu unigolion sydd eisiau ymweld â Chymru dros nos i wario yn ein heconomi wneud llawer o niwed i'n sector twristiaeth, ac os yw'r asesiadau economaidd yr ydych yn eu comisiynu yn dangos y bydd hynny'n digwydd, a wnewch chi wrthdroi'r penderfyniad hwn i gyflwyno'r trethi gwarthus hyn ar sector sy'n rhan bwysig iawn o'r economi yn fy etholaeth a'r rhanbarth?
Fel y gŵyr yr Aelod, roedd y mater hwn yn rhan o'n maniffesto y pleidleisiodd pobl Cymru arno gwta flwyddyn yn ôl. Mae hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio sydd gennym gyda Phlaid Cymru, a Cefin Campbell, yn wir, yw'r Aelod arweiniol dynodedig ar hyn. Rydym yn manteisio ar brofiad rhyngwladol yn ogystal ag ymgysylltu â'r diwydiant twristiaeth lleol, academyddion ac arbenigwyr i gefnogi datblygiad yr ardoll. Fel a drafodwyd gennym o'r blaen, ac yn eich cwestiynau blaenorol, rwy'n gwybod, mae ardollau o'r math hwn yn gyffredin mewn amrywiaeth o ardaloedd y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon wedi ymweld â hwy, ledled Ewrop a Gogledd America. Mae'n annhebygol y byddwch yn gwybod eich bod yn cyfrannu at ardoll leol a bod honno wedyn yn cael ei defnyddio i fuddsoddi yn y cymunedau lleol hynny, er mwyn gwella profiad yr ymwelydd ymhellach yn ogystal â gwella'r effaith ar y gymuned ei hun.
Bwriedir cynnal ymgynghoriad llawn ar y cynnig yn yr hydref er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed i lywio'r gwaith o gynllunio a gweithredu ardoll dwristiaeth. Nid wyf yn derbyn rhagfynegiadau brawychus mynych yr Aelod mewn perthynas ag ardoll dwristiaeth a'i heffaith ar yr economi. Mae gennyf lawer mwy o ffydd ac optimistiaeth am ddyfodol ein heconomi dwristiaeth a'r gallu i gael economi dwristiaeth a fydd yn parhau i gyflogi pobl ar gyfraddau da, ac nid wyf yn credu y bydd yn cael effaith sylweddol neu niweidiol ar y gymuned lle mae twristiaeth yn digwydd.