5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Holodomor

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:37, 11 Mai 2022

Mi wnaeth y Llywodraeth Sofietaidd wadu bodolaeth y newyn yma tan ddiwedd y 1980au, ond mae o wedi ei selio ar gof pobl Wcráin ers 90 mlynedd. Mae'n bwysig ein bod ni'n cofio hefyd.

I gloi, y tristwch, wrth gwrs, y tu hwnt i eiriau, ydy nad rhywbeth sydd wedi ei gladdu am byth yn hanes ydy hyn. Dyma ni yn 2022. Yr wythnos diwethaf, mi adroddodd swyddog o'r Cenhedloedd Unedig bod lluoedd Rwsia yn dwyn a dinistrio grawn yn Wcráin a allai arwain eto at brinder bwyd yno. Ac wrth gwrs, mae miloedd ar filoedd yn marw dan law'r gormeswr heddiw, a miliynau lawer yn dioddef. Rydym ni'n gofyn heddiw am raglen goffáu. Mae'n rhaid i bobl gael dysgu beth ddigwyddodd, ac, wrth wneud hynny, gadewch i ni fod yn gwbl ddiamwys ein bod ni'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd efo pobl Wcráin heddiw, wrth iddyn nhw gofio'r bennod erchyll yma yn eu gorffennol ac aildeimlo'r galar o 90 mlynedd yn ôl, tra, ar yr un pryd, yn brwydro am eu dyfodol.