– Senedd Cymru am 3:08 pm ar 11 Mai 2022.
Eitem 5 heddiw yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, yr Holodomor. Galwaf ar Alun Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7994 Alun Davies, Rhun ap Iorwerth, Samuel Kurtz, Jane Dodds
Cefnogwyd gan Janet Finch-Saunders, Jenny Rathbone, Mark Isherwood, Peter Fox, Vikki Howells
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua 4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33.
2. Yn nodi ymhellach bod y newyn hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb Sofietaidd.
3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl Wcráin ar ran pobl Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth o ddioddefaint pobl Wcráin.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i Jane Dodds a Sam Kurtz, sy'n cyd-gyflwyno'r cynnig heddiw, ac i Rhun ap Iorwerth, a fydd yn crynhoi'r ddadl a gawn y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar hefyd i Janet Finch-Saunders, i Jenny Rathbone, i Mark Isherwood, i Peter Fox ac i Vikki Phillips—Vikki Howells—a gefnogodd y cynnig hwn yn ogystal.
Mae'n bwysig trafod, ac mae'n bwysig dadlau. Mae'n bwysig cofio, ac mae'n bwysig addysgu a dysgu. Ond mae hefyd yn bwysig peidio ag ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol ac ail-fyw erchyllterau'r gorffennol. I lawer ohonom, ac efallai fy mod yn siarad ar fy rhan fy hun, gan imi gael fy ngeni 20 mlynedd ar ôl D-day, cefais fy magu yng nghysgod yr ail ryfel byd. Fe'm magwyd yng nghysgod gwrando ar oroeswyr yn siarad am yr Holocost. Cawsom ein dysgu yn uniongyrchol beth yw ystyr hil-laddiad. Ni feddyliais erioed y byddem yn gweld hil-laddiad eto, ond mae wedi digwydd. Bûm yn dyst iddo yn Rwanda ac yn yr hen Iwgoslafia. Rydym yn gweld llofruddiaeth dorfol, llofruddiaeth ar raddfa ddiwydiannol, ar ein sgriniau heddiw, heno, yn ddyddiol. Nid yn unig y mae'n anghredadwy, ond mae'n gwbl annerbyniol ein bod yn parhau i wrando ac i gofio, ond byth i ddysgu. Y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y gallwn ddysgu am yr hyn a ddigwyddodd yn Wcráin 90 mlynedd yn ôl, ond hefyd, wrth ddysgu am yr hyn a ddigwyddodd 90 mlynedd yn ôl, mae gweithredoedd a chanlyniadau'r hyn a ddigwyddodd yr adeg honno'n adleisio ar hyd y blynyddoedd ac yn atseinio heddiw. Mae'r hyn a ddigwyddodd 90 mlynedd yn ôl yn digwydd heddiw.
Ar ddiwedd y cyfnod hwn, gorfododd Stalin lawer o bobl Wcráin, miliwn o bobl Wcráin, i adael eu cartrefi a'u pentrefi, a chawsant eu cludo, eu gorfodi drwy rym, i fynd o Wcráin i Rwsia. Mae hynny'n digwydd heddiw. Mae'n digwydd eto. A phan siaradwn am hil-laddiad, a phan siaradwn am ddioddefaint dynol, gadewch inni gofio hefyd nad oedd yr un o'r pethau hyn yn ddamweiniol. Canlyniad i ddewis bwriadol oeddent. Penderfynodd Stalin y byddai'n cyflawni hil-laddiad yn erbyn pobl Wcráin. Roedd y cynhaeaf yn dda. Nid oedd argyfwng gyda'r cynhaeaf yn y blynyddoedd hynny, 90 mlynedd yn ôl. Nid oedd prinder grawn, prinder hadau, prinder cyflenwadau. Roedd ganddynt ddigon o fwyd i fwydo eu hunain ac i gael eu hadnabod fel basged fara Ewrop a'r byd. Digwyddodd yr argyfwng a bu farw miliynau o bobl oherwydd bod Stalin wedi ceisio dileu gwlad Wcráin a phobl Wcráin, a gwyddom nad ef oedd yr unig un a gyflawnodd lofruddiaeth dorfol, oherwydd, sawl mil cilometr oddi wrtho, roedd unben arall yn cynllunio'r un weithred yn erbyn Ewropeaid, yn erbyn Iddewon Ewrop. Rydym wedi gweld hil-laddiad yn Ewrop, a rhaid inni ddysgu, ac nid cofio'n unig, a dysgu na ddylai byth ddigwydd eto.
Pan edrychwch ar y ffordd systematig y gweithiodd y Llywodraeth Sofietaidd i sicrhau bod pobl yn newynu—cafodd pentrefi eu rhwystro, cafodd pentrefi eu hatal rhag cael y bwyd a oedd ym mhobman o'u cwmpas. Gwelsom fod newyn yn cael ei ddefnyddio fel gweithred fwriadol gan Lywodraeth i godi arswyd ar bobl, ac yna meddyliwch am yr hyn sy'n digwydd ar yr arfordir heddiw, arfordir deheuol Wcráin heddiw, lle defnyddir meddylfryd gwarchae a gwarchae yn erbyn pobl heddiw. Unwaith eto, clywn atsain ar draws y blynyddoedd.
Y nod oedd chwalu gwrthsafiad pobl Wcráin yn erbyn cyfunoliad, a hefyd yn erbyn cael eu hymgorffori'n llwyr yn rhan o Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd—difodiant cenedl Wcráin. A châi pawb a wrthwynebai Stalin eu diddymu, eu llwgu i farwolaeth fel gweithred fwriadol gan Lywodraeth. Ac mae'n bwysig ein bod yn agor ein llygaid i hil-laddiad o'r fath ac yn siarad y gwir am yr hyn sy'n digwydd. Cofiwn hynny yr wythnos hon, yma yn ein Senedd. Roedd gwaith Gareth Jones yn datgelu'r hyn a ddigwyddodd yn ganolog i addysgu'r byd am yr hyn a ddigwyddodd yn y dyddiau hynny, a chredaf ein bod i gyd yn ddiolchgar i'r llyfrgell genedlaethol ac i Martin Shipton am ysgrifennu ac am sicrhau bod pobl yn clywed geiriau Gareth Jones eto ar draws y blynyddoedd. Gwelodd y newyn â'i lygaid ei hun. Gwelodd bobl mewn newyn enbyd, ac adroddodd am ddioddefaint dynol yn ei helaethder.
'Cerddais drwy bentrefi a 12 fferm gyfunol. Ym mhobman, y gri oedd, "Nid oes bara. Rydym yn marw"', ac ymledodd y geiriau hynny ar draws y byd, nid yn unig ar draws Ewrop, ond draw i'r Unol Daleithiau hefyd, felly daeth pobl i wybod am yr hyn a ddigwyddodd. [Torri ar draws.] Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud nad oeddwn yn gwybod fawr ddim am y newyn ofnadwy hwn a achoswyd gan y gyfundrefn Sofietaidd yn Wcráin tan yn weddol ddiweddar, pan gefais gyfle i wylio'r ffilm, Mr Jones, a oedd yn darlunio'n dda iawn y sefyllfa ofnadwy a ddioddefodd pobl, y marwolaethau, y dioddefaint, ond hefyd ymdrechion arwrol Cymro o'r Barri a ddefnyddiodd ei newyddiaduraeth i wneud yn siŵr fod y neges yn cael ei chlywed. A ydych yn cytuno â mi mai un peth y mae angen inni ei sicrhau yma yng Nghymru ar gyfer holl genedlaethau'r dyfodol yw hyrwyddo gwaith newyddiadurwyr da fel Gareth Jones a sicrhau nad yw ein plant, cenedlaethau'r dyfodol, yn cael cyfle i fethu gweld pwysigrwydd y mathau hyn o ddigwyddiadau yn ein hanes y mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn dysgu ohonynt? Oherwydd yn sicr nid oeddwn yn gwybod dim amdano. Euthum drwy system addysg Cymru ac ni chlywais ddim. Rhaid inni beidio â gadael i hynny ddigwydd eto.
A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae Darren Millar yn ei wneud? Ac wrth gwrs, nid damwain yw hynny, gan mai'r hyn a wnaeth Stalin, ar ôl cyflawni hil-laddiad, oedd gwahardd gwybodaeth a chuddio ei weithredoedd yn Wcráin. Ac arhosodd y gwaharddiad ar wybodaeth a gychwynnwyd gan y Llywodraeth Sofietaidd yn 1933, rwy'n credu, yn ei le tan 1987. Ac nid yw'n syndod, pan fydd pobl yn ceisio cyflawni'r gweithredoedd arswydus hyn yn erbyn poblogaeth, eu bod wedyn yn ceisio cuddio eu gweithredoedd a chuddio eu rhan yn y gweithredoedd hynny. Gwelsom yr un peth yn digwydd ar draws Ewrop yn 1944 a 1945. Ac roedd yn bwysig—[Torri ar draws.]
Hoffwn ddweud bod rôl newyddiadurwyr yn datgelu'r gweithredoedd hil-laddol ofnadwy hyn yn gwbl allweddol. Ac a fyddech yn cytuno hefyd fod marwolaeth Shireen Abu Akleh ym Mhalesteina, gan luoedd Israel yn ôl pob tebyg, yn enghraifft arall o'r modd y mae newyddiadurwyr yn peryglu eu bywydau er mwyn adrodd ar beth sy'n digwydd? Ac yn amlwg, mae'n digwydd bob dydd ymhlith newyddiadurwyr o bob cwr o'r byd yn Wcráin.
Mae'r hawl sydd gennym heddiw i drafod y materion hyn mewn diogelwch a rhyddid yn hawl na ddylem byth ei chymryd yn ganiataol. Mae ein gallu i gael y ddadl hon wedi'i wreiddio yn ein gwybodaeth, ac un o'r ofnau mawr a deimlaf heddiw—er ein bod bob amser wedi anghytuno weithiau ar draws y Siambr mewn gwahanol bleidiau a mannau am ein dehongliad o hanes a'n gwybodaeth am hanes, rydym bob amser wedi cytuno ynglŷn â lle mae hanes yn dechrau a beth yw hanes. Yr hyn a welwn heddiw yw gwyrdroi hanes mewn pob math o wahanol ffyrdd, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i gytuno ar y ffeithiau o leiaf yn y Siambr hon, ac yn dehongli'r ffeithiau hynny mewn ffyrdd gwahanol o bosibl. Ond mae rôl newyddiaduraeth ar hyd y blynyddoedd bob amser wedi bod yn ganolog i'n dealltwriaeth o hanes a'n dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd. Ac mae hynny'n arbennig o wir, wrth gwrs, yn y rhannau o'r byd lle mae unbenaethau a lle y ceir ymosodiadau ar y boblogaeth sifil.
Fe geisiaf ddod â fy sylwadau i ben, Ddirprwy Lywydd. Yn 2006, datganodd Senedd Wcráin mai hil-laddiad oedd hyn. Roedd yn ymgais fwriadol i ddinistrio gwlad a chenedl. Dilynwyd y newyn gan yr alltudiaethau, a oedd yn ymgais, unwaith eto, i ddinistrio pobl Wcráin. Rwy'n gobeithio heddiw y gallwn gofio'r gweithredoedd hynny, cofio'r dioddefaint, a gobeithio, drwy wneud hynny, y gallwn unwaith eto adnewyddu ein hymrwymiad i bobl Wcráin. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi siarad yn angerddol ac yn deimladwy am ei deulu a'u profiad dros y misoedd diwethaf. Gwn y bydd yn parhau i ddweud wrth ei deulu ac eraill yn Wcráin am ein cefnogaeth i'w brwydr heddiw. A gobeithio mai'r hyn a allai ddeillio o'n sgwrs y prynhawn yma ac o'n profiad ar yr adeg hon yw cyswllt o'r newydd rhwng ein pobl, ac ymrwymiad o'r newydd i gofio, ac nid yn unig i gofio, ond i ddysgu hefyd. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r ddadl amserol a phwysig hon, gan ei bod yn digwydd mewn wythnos pan fo Rwsia wedi dathlu diwrnod buddugoliaeth ar 9 Mai, y diwrnod y sicrhaodd Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd fuddugoliaeth dros yr Almaen Natsïaidd a diwedd yr ail ryfel byd gyda'r gwledydd cynghreiriol eraill. Mae'r arddangosiad hwn o rym milwrol drwy orymdeithiau yn ffordd o ddangos cryfder yn erbyn y Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd, ac fel ymarfer curo'r frest i dawelu meddwl ei dinasyddion ei hun fod y fam Rwsia'n dal i allu gweithredu'n ddilyffethair.
Yn y cyfnod Sofietaidd, defnyddiwyd y diwrnod buddugoliaeth i nodi trechu ffasgaeth, a chryfder a rhinweddau canfyddedig comiwnyddiaeth. Diolch byth, cyn diwedd yr ugeinfed ganrif, canfuwyd bod comiwnyddiaeth yn ideoleg beryglus a dyna sut y mae llawer yn ei gweld erbyn hyn, ideoleg a adawodd filiynau o'r bobl Sofietaidd yn byw o dan reolau didostur, wedi colli eu rhyddid a miliynau'n fwy wedi marw, ar ôl cael eu hanfon i'r gwlagau. Mae rhai ohonom yn y Siambr hon yn ddigon ifanc i beidio â bod wedi byw drwy flociau dwyreiniol a gorllewinol Ewrop—yn wir, fe'm ganwyd tua 12 diwrnod cyn diddymu'r Undeb Sofietaidd—ond pan ddigwyddodd yr hyn a ddisgrifiodd Churchill fel hyn:
'O Stettin yn y Baltig i Trieste yn yr Adriatig, mae llen haearn wedi disgyn ar draws y cyfandir', rhaid inni gofio'r adeg honno.
Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau yn Wcráin ar hyn o bryd, digwyddiadau y mae'r gorllewin wedi rhybuddio yn eu cylch ers tro byd, yn sicr yn gwneud inni sylweddoli'r perygl y mae gwladwriaeth amheus gydag arweinydd anwadal yn ei greu i'r heddwch y mae llawer ohonom wedi'i gymryd yn ganiataol ers cenhedlaeth, ac y cyfeiriodd yr Aelod dros Flaenau Gwent ato. Naw deg mlynedd yn ôl, dangosodd yr Holodomor yr effaith ddinistriol y gall arweinydd sy'n awchu am bŵer, sy'n ysu i ddal ei afael ar bŵer, ei chreu os na chaiff ei rwystro. Mae'r Aelod dros Flaenau Gwent eisoes wedi sôn am yr effaith ddinistriol a gafodd y newyn hwn ar y bobl a oedd yn byw yn Wcráin Sofietaidd yn y 1930au.
Os nad ydym yn unedig yn erbyn rhyfel anghyfreithlon Putin yn y rhan honno o'r byd, bydd llawer yn Wcráin a thu hwnt mewn perygl eto. Wrth gwrs, mae'r Senedd hon wedi dangos ei hymrwymiad clir i sefyll gydag Wcráin. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn un o'r gwledydd gorllewinol a arweiniodd ar arfogi a chefnogi lluoedd milwrol Wcráin, ac fe wnaeth y Senedd hon yn iawn i annog Llywodraeth y DU i fynd ymhellach i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Mae gweld Prif Weinidog Prydain yn cerdded strydoedd Kyiv wrth ochr yr Arlywydd Zelenskyy, ac yn arweinydd gorllewinol cyntaf i annerch Senedd Wcráin, yn dangos bod y gefnogaeth y mae ein gwlad wedi'i rhoi i Wcráin a'i phobl sofran wedi cael croeso.
Fel eraill yn y Siambr hon a ledled Cymru, mae gennyf berthnasau a anwyd y tu allan i'r ynysoedd hyn, a gwn ganddynt hwy yn uniongyrchol am y dinistr y gall rhyfel ei achosi. Dyna pam y mae'n hanfodol nad yw'r un camgymeriadau a wnaed yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn cael eu hailadrodd lai na 100 mlynedd yn ddiweddarach. Fe ddylem ac fe allwn ddechrau gwneud yn well drwy'r iaith a ddefnyddiwn. Yn rhy aml, defnyddir yr ymadroddion 'asgell dde eithafol' ac 'asgell chwith eithafol' wrth gyfeirio at y rhai yr ydym yn anghytuno â hwy. Mae defnyddio'r disgrifiadau hyn mewn modd mor ddifeddwl yn gwneud anghymwynas â'r rhai a fu farw o dan reolaeth cyfundrefnau ac unbenaethau awdurdodaidd asgell dde eithafol ac asgell chwith eithafol go iawn. Yr asgell dde eithafol yw'r hyn a welsom yn yr Almaen Natsïaidd ac yn Sbaen yn ystod y 1930au a'r 1940au. Yr asgell chwith eithafol yw'r hyn a welsom yn yr Undeb Sofietaidd, lle'r arweiniodd camau bwriadol at yr Holodomor erchyll neu'r newyn arswydus, gan arwain at farwolaeth tua chwe miliwn o bobl Wcráin. Llofruddiodd y cyfundrefnau hyn filiynau lawer o'u pobl eu hunain, pobl a oedd yn euog o ddim byd mwy na methu cydymffurfio ag ideolegau gwyrdroëdig eu harweinwyr.
Gyda'r iaith a ddefnyddir ar y cyfryngau cymdeithasol yn dal i ddigwydd heb ei hatal a lledaeniad casineb a chamdriniaeth yn dod yn llawer rhy gyffredin, mae'n bwysig ein bod ni fel gwleidyddion yn gwneud yn well ac yn ymrwymo i ddod yn fwy ymwybodol o'r iaith a ddefnyddiwn. Mae rhai wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i gwestiynu pam y mae'r Senedd yn trafod hyn heddiw. Fel cyd-noddwr y ddadl hon, dywedaf wrthynt yma nawr ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud yn well, i fod yn well. Drwy gydnabod yr Holodomor a'r ffordd warthus yr aeth yr Undeb Sofietaidd ati i lofruddio eu pobl eu hunain, rydym yn cadw troseddau ddoe yn agos at flaen ein meddyliau, gan fod y rhai na allant gofio'r gorffennol wedi'u condemnio i'w ailadrodd. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Alun Davies am ddod â'r ddadl bwysig hon i Senedd Cymru a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r drasiedi sy'n datblygu ar hyn o bryd yn Wcráin, ac rydym wedi trafod hyn droeon yn ystod yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig inni fyfyrio ar adegau yn y gorffennol pan wnaed pethau a danseiliodd ein dynoliaeth gyffredin.
Rydym yn coffáu profiadau o hil-laddiad ac erchyllterau yn y Siambr hon a ledled Cymru yn rheolaidd, ond ni wnaethom neilltuo amser sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i siarad am Holodomor. Ond wrth gwrs, mae fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, wedi tynnu ein sylw ar sawl achlysur at ddioddefaint pobl Wcráin yn ystod yr Holodomor, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol gref i'r cynnig hwn heddiw, a'r cyfraniadau i'r ddadl.
Mae naw deg mlwyddiant yr erchyllterau hyn a'r ffocws presennol ar Wcráin yn ysgogiad pwysig inni daflu goleuni ar anghyfiawnderau'r gorffennol a cheisio osgoi ailadrodd hanes—fel y dywedodd Alun Davies, nid gwrando a chofio yn unig, ond dysgu hefyd.
Un o'r ychydig newyddiadurwyr gorllewinol a adroddodd ar y newyn yn Wcráin a'i achosion oedd y Cymro, Gareth Jones. Roedd yn dod o'r Barri ac mae wedi'i gladdu ym mynwent Merthyr Dyfan. Cafodd ei anrhydeddu'n lleol, dan arweiniad Cyngor Tref y Barri, a bydd plac yn cael ei osod uwchben ei fedd neu yn y cyffiniau. Mae'n dal i gael ei ystyried yn arwr yn Wcráin a rhaid inni ddechrau codi ymwybyddiaeth o'i rybuddion heddiw.
Roedd Gareth Jones yn dyst i'r dioddefaint yn Wcráin, ac fe ddywedodd y gwir am yr arswyd a ganfu. I ddechrau, cyhoeddwyd ei straeon yn eang, ond yn ôl y sôn cafodd ei wrthod yn gyflym a'i anfon i'r anialwch newyddiadurol, ac mae llawer y byddwn yn ei ddysgu am hynny a'r rhesymau pam, rwy'n siŵr, yn y digwyddiad yma yn y Senedd yfory, i goffáu Gareth Jones, a noddir gan Mick Antoniw, a digideiddio hollbwysig yr archifau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r Aelodau'n bresennol, i ddysgu mwy am un o'n harwyr o Gymru sy'n aml heb gael y sylw y dylai fod wedi'i gael.
Mae'r cyfryngau rhyngwladol wedi newid yn ddramatig ers yr adeg yr oedd Gareth Jones yn newyddiadurwr, ac mae'n llawer haws inni weld â'n llygaid ein hunain y gweithredoedd barbaraidd y mae Putin wedi'u cyflawni yn Wcráin. Fodd bynnag, mae'n dal yn hanfodol ein bod yn tystio i galedi pobl Wcráin, ac yn gwneud popeth a allwn i warchod eu hawliau. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud llawer i estyn llaw cyfeillgarwch i Lywodraeth Wcráin, ac rydym yn eu cefnogi'n llwyr yn hynny o beth. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £4 miliwn at apêl Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau, wedi darparu cymorth meddygol ymhlith ymdrechion eraill yn Wcráin a'r rhanbarth, ac rydym yn cefnogi Wcreiniaid eu hunain i ddod i ddiogelwch ein cenedl noddfa.
Nid wyf yn mynd i ailadrodd yr hyn a wnawn i gefnogi deiliaid fisâu o Wcráin, oherwydd coffáu'r gorffennol a wnawn heddiw, ond rwyf am ddweud ein bod yn meddwl yn ofalus iawn ynglŷn â sut y gallwn gynorthwyo Wcreiniaid sy'n cyrraedd yma i gofnodi'r hyn y maent wedi'i brofi yn rhan o'r ymchwiliadau i droseddau rhyfel. Ni fyddwn yn troi cefn ar y rhai sydd wedi dioddef, fel a ddigwyddodd yn ystod Holodomor.
Mae'n amlwg fod gweithredoedd bwriadol yr Undeb Sofietaidd, wrth gyfunoli tir ac atafaelu adnoddau, wedi chwarae rhan allweddol yn achosi'r newyn. Fel y dywedodd Gareth Jones ar y pryd:
'Edrychwn ar y plant â'u coesau a'u breichiau afluniedig a theimlo trychineb y newyn a grëwyd gan ddynion a afaelodd am y wlad.'
Mae'r cysylltiad Cymreig â phobl Wcráin yn mynd yn ôl yn bell. Ymhell cyn Holodomor, teithiodd John Hughes i Donetsk i sefydlu gwaith haearn a glofeydd, yn rhan o'r hyn a elwid ar y pryd yn Hughesovka. Yn awr, gwelwn y ddinas honno sydd â dros 1 filiwn o drigolion yn cael ei bomio, ac mae ein calonnau'n gwaedu dros ei thrigolion. Mae hanes teulu Gareth Jones yn berthnasol yma. Roedd ei fam, Annie Gwen Jones, yn athrawes gartref i blant John Hughes yn Donetsk, a'i straeon am Wcráin a ysbrydolodd Gareth Jones, ei mab, i ymweld pan oedd yn ddigon hen. Graddiodd hithau o Brifysgol Aberystwyth fel ei mab, ac roedd yn ynad ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd a'r Cylch, ac mae'n cael ei hanrhydeddu'n fawr, fel ei mab, yn nhref y Barri. Hyd yn oed wrth sefydlu'r Siambr hon, ceir cysylltiadau ag Wcráin yn Calon Cymru, sydd yn y llawr yng nghanol ein Senedd. Fe'i crëwyd gan Alexander Beleschenko, artist o Abertawe a anwyd i rieni o Wcráin.
Syfrdanwyd pawb ohonom gan ddewrder pobl Wcráin yn ystod y gwrthdaro presennol. Yn ystod yr Holodomor, mae'n rhaid bod y dioddefaint yn aruthrol, ond adroddodd Gareth Jones am ddewrder y bobl, a ofynnodd am beidio â chael neb yn tosturio wrthynt am fod pobl mewn rhannau eraill wedi dioddef hyd yn oed yn waeth. Mae Wcreiniaid wedi dangos dro ar ôl tro fod ganddynt hawl i benderfynu eu dyfodol eu hunain, a byddwn yn sefyll gyda hwy yma yng Nghymru.
Cyn y gwrthdaro hwn, roedd Cymru'n gartref i oddeutu 500 o Wcreiniaid, ond cyn bo hir disgwyliwn fod yn gartref i fwy na 10 gwaith y nifer hwnnw. Byddwn yn eu croesawu ac yn dysgu o'u profiadau i gryfhau ein cymunedau. Er ei bod yn amlwg i'r cyhoedd yng Nghymru fod Putin wedi ymosod ar genedl sofran, nid yw'r anghyfiawnderau hanesyddol dyfnach a achoswyd gan Stalin, megis yr Holodomor, mor gyfarwydd i bobl. Rwy'n hapus i ymrwymo Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth a chofio'r drasiedi a ddigwyddodd yn Wcráin 90 mlynedd yn ôl. Fe gofiwn y dioddefwyr ac annog mwy o undod â'r bobl o Wcráin sydd bellach yn cael noddfa yng Nghymru.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi gwneud sylwadau mor feddylgar heddiw, a diolch am yr ymrwymiad yna gan y Gweinidog. Dwi'n falch ein bod ni fel Senedd yn gallu mynegi mewn ffordd mor unedig ein cydymdeimlad a'n solidariaeth ni efo pobl Wcráin wrth inni nodi 90 mlynedd ers yr Holodomor, sy'n cael ei alw'r 'newyn mawr' yn aml, ond, wrth gwrs, mae'r defnydd o'r gair 'newyn' yna'n awgrymu rhywbeth naturiol, pan ydyn ni'n gwybod yn iawn mai canlyniad i bolisi oedd hyn, y polisi o gyfunoleiddio neu collectivisation, a phenderfyniadau gwleidyddol a'u hanelwyd un ai'n bennaf neu yn llwyr at Wcráin.
Pan orchmynnodd Stalin gyfunoleiddio, Wcráin oedd y lle y daeth o ar draws y gwrthwynebiad mwyaf iddo fo, a'r lle y cafodd y polisi wedyn ei orfodi fwyaf ynddo fo yn fwyaf llym. Er bod newyn eang mewn ardaloedd eraill o'r Undeb Sofietaidd hefyd, yn Wcráin oedd y nifer uchaf o farwolaethau, wrth i'r wladwriaeth Sofietaidd gymryd miliynau o dunelli o rawn oddi arnyn nhw. Dydyn ni ddim yn gwybod faint yn union o bobl fu farw yn ystod yr Holodomor. Fel cyfaddefodd Khrushchev yn ei hunangofiant o, doedd na neb yn cyfri—no-one was keeping count. Ond mae'r hanesydd Robert Conquest yn defnyddio data o'r cyfrifiad Sofietaidd, yn amcangyfrif bod efallai 5 miliwn o bobl Wcráin wedi marw o ganlyniad. Mae'n amhosib dirnad y peth. Mi gafodd pentrefi cyfan eu dileu, fel rydyn ni wedi clywed, dinasoedd a ffyrdd yn frith o gyrff y rhai a adawodd eu pentrefi i chwilio am fwyd ond fu farw ar eu taith. Mi gafodd cefn gwlad Wcráin, gwlad y ddaear ddu, oedd yn cael ei ystyried yn un o'r tiroedd mwyaf ffrwythlon yn y byd, ei droi yn dir diffaith, tawel.
Swyddog Sofietaidd oedd Victor Kravchenko, a gafodd ei orchymyn i gymryd rhan yn y cyfunoliad. Mi wnaeth o ffoi i'r gorllewin yn ddiweddarach yn sgil yr hyn roedd e wedi'i weld ac effeithiau yr hyn welodd o yn rhanbarth Donbas yn ei Wcráin enedigol. Dyma sut ddisgrifiodd o be welodd e ym mhentref Petrovo:
'Roedd yr hyn a welais y bore hwnnw... yn anhraethol o erchyll. Ar faes y gad, mae dynion yn marw'n gyflym, maent yn ymladd yn ôl, cânt eu cynnal gan eu cyfeillion ac ymdeimlad o ddyletswydd. Yma, gwelais bobl yn marw'n araf ar eu pen eu hunain, yn marw'n erchyll, heb yr esgus eu bod yn aberthu dros achos. Roeddent yn sownd ac wedi'u gadael i newynu, pob un yn ei gartref ei hun, gan benderfyniad gwleidyddol a wnaed mewn prifddinas bell o amgylch byrddau cynadledda a gwledda.'
Ond, wrth gwrs, doedd hon ddim yn stori oedd yn gallu cael ei hadrodd yn gyhoeddus. Mi wnaeth y wasg Sofietaidd, fel rydyn ni wedi clywed, wadu bod unrhyw newyn wedi digwydd o gwbl. Yn anffodus, mi oedd yna ddigon yn y wasg orllewinol yn barod i gredu hynny hefyd.
Un dyn, wrth gwrs—rydym ni wedi clywed ei enw o droeon yma heddiw—wnaeth geisio tynnu sylw at y sefyllfa go iawn oedd y newyddiadurwr Gareth Jones o'r Barri. Mi oedd ganddo fo ddiddordeb yn Rwsia, fel rydym ni wedi ei glywed gan y Gweinidog, ers clywed hanesion ei fam pan oedd hi'n byw yn Hughesovka, bellach Donetsk. Mi ymwelodd ag Wcráin am y tro cyntaf yn 1930, dychwelyd sawl tro ar ôl hynny, yn penderfynu crwydro ar ei ben ei hun yn hytrach na chael ei arwain, fel cymaint o newyddiadurwyr tramor eraill, ar dripiau Potemkin gan swyddogion yr Undeb Sofietaidd, i weld beth roedden nhw eisiau iddyn nhw ei weld. A thrwy deithio ei hun, mi wnaeth o brofi yn uniongyrchol sgil-effeithiau'r newyn enbyd ar y trigolion. Mi oedd o'n gwerthfawrogi ei rym fel newyddiadurwr, ac, fel newyddiadurwr fy hun, dwi mor falch o'r hyn a wnaeth y Cymro yma dros Wcráin a thros newyddiaduraeth.
Mi adroddodd yn ôl am yr hyn welodd o drwy erthyglau papur newydd ym Mhrydain, America a'r Almaen. Mi esboniodd ei fod o wedi gorfod gadael oherwydd y dioddef a'r ffaith nad oedd bwyd yno. 'Mae cymaint o Rwsiaid yn rhy wan i weithio', meddai. Mi ddywedodd ei fod o wedi gweld pobl yn ymladd dros ddarn o groen oren a oedd ar lawr y trên. 'Wnes i ddim ymweld ag un pentref lle nad oedd nifer wedi marw', meddai fo. Ond drwy geisio datgelu i'r byd y pethau erchyll yr oedd Stalin yn ei wneud i'w bobl, mi ddenodd ddiddordeb heddlu cudd yr Undeb Sofietaidd. Mi gafodd ei wahardd rhag mynd i'r wlad honno eto, a, fwy na thebyg, am ei newyddiaduraeth, mi gollodd o ei fywyd yn pen draw.
Hyd yn oed ymysg ei gyfoedion yn y gorllewin, mi gafodd o ei gyhuddo o ddweud anwiredd. Mi awgrymodd un newyddiadurwr uchel ei barch efo The New York Times, Walter Duranty, oherwydd bod y Kremlin, pencadlys y Llywodraeth Sofietaidd, yn gwadu'r peth, bod stori Gareth Jones ddim yn wir. Yn ei ymateb iddo fo, mi ysgrifennodd Gareth Jones:
'A gaf fi… longyfarch Swyddfa Dramor yr Undeb Sofietaidd ar ei medrusrwydd yn cuddio’r sefyllfa go iawn yn Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd? Nid Rwsia yw Moskva (Moscow), ac mae gweld pobl sy'n cael eu bwydo'n dda yno yn tueddu i guddio'r Rwsia go iawn'.
Mi wnaeth y Llywodraeth Sofietaidd wadu bodolaeth y newyn yma tan ddiwedd y 1980au, ond mae o wedi ei selio ar gof pobl Wcráin ers 90 mlynedd. Mae'n bwysig ein bod ni'n cofio hefyd.
I gloi, y tristwch, wrth gwrs, y tu hwnt i eiriau, ydy nad rhywbeth sydd wedi ei gladdu am byth yn hanes ydy hyn. Dyma ni yn 2022. Yr wythnos diwethaf, mi adroddodd swyddog o'r Cenhedloedd Unedig bod lluoedd Rwsia yn dwyn a dinistrio grawn yn Wcráin a allai arwain eto at brinder bwyd yno. Ac wrth gwrs, mae miloedd ar filoedd yn marw dan law'r gormeswr heddiw, a miliynau lawer yn dioddef. Rydym ni'n gofyn heddiw am raglen goffáu. Mae'n rhaid i bobl gael dysgu beth ddigwyddodd, ac, wrth wneud hynny, gadewch i ni fod yn gwbl ddiamwys ein bod ni'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd efo pobl Wcráin heddiw, wrth iddyn nhw gofio'r bennod erchyll yma yn eu gorffennol ac aildeimlo'r galar o 90 mlynedd yn ôl, tra, ar yr un pryd, yn brwydro am eu dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.