Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 11 Mai 2022.
Mae yna gynnig digon syml o'n blaenau ni heddiw. Dwi a'r meinciau yma'n sicr yn cytuno nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun digonol i fynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dŷn ni newydd, yn yr wythnosau diwethaf, weld y cynllun, ac mae yna elfennau, wrth gwrs, sydd yn bositif. Un, bod gennym ni gynllun o'r diwedd, ar ôl aros yn rhy hir amdano fo, ac mae yna gynlluniau mewn rhai meysydd sydd yn mynd i helpu, does yna ddim amheuaeth am hynny, ac, yn bwysig, mae gennym ni dargedau sydd yn ein galluogi ni i fesur llwyddiant neu fel arall yr hyn mae'r Llywodraeth yn bwrw ati i'w gyflwyno, er bod yna dyllau yn y targedau yna, ac mi ddown ni yn ôl at hynny yn y man.
Am lawer yn rhy hir, mae'r NHS yng Nghymru wedi cael ei gloi mewn rhyw fath o gylch dieflig lle mae o'n gwegian o dan y pwysau o ddydd i ddydd, a Gweinidog ar ôl Gweinidog yn methu â sicrhau bod y camau cywir yn cael eu rhoi mewn lle i ostwng y pwysau yna, yn gyntaf drwy gyfres o gamau ataliol, ac wedyn, yn ail, i sicrhau cynaliadwyedd yn y ffordd mae'r gwasanaeth yn gweithio o ran gweithlu, yn fwy na dim byd arall, efallai. Felly, mae'r pwysau'n mynd yn fwy, a'r anghynaliadwyedd yn dwysáu.
Os oes yna un pwynt sydd wir yn bwysig i'w wneud ar ddechrau fy nghyfraniad i, y pwynt hwnnw ydy fod hyn i gyd yn wir cyn i'r pandemig daro, dipyn dros ddwy flynedd yn ôl. Beth mae'r pandemig wedi'i wneud ydy amlygu fwy nag erioed o'r blaen y diffyg cynaliadwyedd yna, ac amlygu mewn ffordd fwy graffig nag erioed yr anghydraddoldebau sydd yn gyrru pwysau mor drwm ar wasanaethau iechyd. Y canlyniad, wrth gwrs, ydy bod rhestrau aros rŵan yn fwy nag y maen nhw erioed wedi bod o’r blaen. Mae bron i chwarter y boblogaeth, bron i 700,000 o bobl, ar restr aros—60 y cant o’r rheini’n aros am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol.
Mae’r oedi yma yn gynnar yn y daith drwy’r system iechyd, yr oedi mewn apwyntiadau diagnostig a llawdriniaethau wedyn wedi cael effaith gatastroffig ar gymaint o’r rheini sydd yn aros. Dŷn ni'n gwybod gymaint mwy sy’n canfod canser yn hwyr erbyn hyn, ac yn cael diagnosis ar ôl mynd i'r adran frys, yn hytrach na bod wedi gallu cael diagnosis cynnar fel rhan o lwybr, y math o lwybr canser sydd ei angen. Mae'r gobaith goroesi canser, wrth gwrs, gymaint llai wrth gyflwyno yn hwyr.
Yn ôl at y ffigur yma: y 700,000 o bobl sydd ar y rhestrau aros. Ydy, mae o'n gynnydd o 50 y cant ers cyn y pandemig, oherwydd y pandemig, ond mi oedd yn 450,000 cyn y pandemig, felly allwn ni ddim meddwl am unrhyw strategaeth gan y Llywodraeth fel rhywbeth sydd i fod i fynd â ni nôl i le'r oedden ni ddwy flynedd yn ôl. Mae’r Llywodraeth yn dweud bod eu cynllun nhw yn uchelgeisiol, ond dwi'n ofni bod yna sawl elfen yn fan hyn sydd yn codi cwestiynau difrifol am ba mor uchelgeisiol ydy o mewn gwirionedd. Yn gyntaf, mae rhaid i gynllun fy mherswadio i fod y Llywodraeth yn mynd i drawsnewid ei hagwedd tuag at waith ataliol er mwyn tynnu pwysau oddi ar yr ysbytai.
Ydy, mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw eisiau gwthio'r agenda ataliol, a dwi'n credu'r Llywodraeth, ond dwi ddim yn gweld hynny yn y cynlluniau. Dwi angen cael fy mherswadio bod yna agwedd newydd a chodi gêr fel erioed o’r blaen mewn perthynas â hyfforddi, denu a chadw staff iechyd. Ond dwi ddim yn gweld y codi gêr hwnnw, er, eto, dwi ddim yn amau bod y Gweinidog eisiau ei weld o, ac mi ddylwn i fod yn dweud 'iechyd a gofal' yn fan hyn, wrth gwrs.
Dwi ddim yn gweld chwaith yng nghynlluniau'r Llywodraeth yr ymrwymiad cwbl hanfodol yma i wneud integreiddio iechyd a gofal yn rhan ganolog o'r datrysiad i'r ôl-groniad. Oes, mae yna waith yn mynd rhagddo fo ar hyn o bryd ar greu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Dwi'n hyderus bod y gwaith sy'n digwydd yn sgil y cytundeb cydweithio yn mynd i ddwyn ffrwyth yn y pen draw, ond mae diffyg cyfeiriad digonol at ofal yn y cynllun gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar gan y Llywodraeth yn rhywbeth sy'n fy mhoeni i yn fawr.
Ac o ran y targedau, wel, mae amser yn brin. Fel y dywedais i yma yn ddiweddar, dwi'n bryderus iawn fod y targedau newydd yma yn mynd i eithrio rhai arbenigeddau—orthopaedics, er enghraifft, sydd mor broblematig, dŷn ni'n gwybod. Beth dŷn ni hefyd yn gwybod ydy bod y gweithlu orthopaedics yng Nghymru wedi darparu cynllun ar gyfer Llywodraeth Cymru, a bod y cynllun hwnnw ddim yn cael ei weld yn y cynllun sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth. Gwrandewch ar y rheini sydd ar y rheng flaen mewn iechyd yng Nghymru; wedyn, o bosib, y bydd gennym ni gynlluniau a all ddwyn ffrwyth yn y pen draw.