Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 11 Mai 2022.
Mae'r nifer gynyddol o achosion o gamddefnydd alcohol, wrth gwrs, yn bryderus iawn. Mae o'n rhywbeth ddylai boeni pob un ohonom ni. Y gred ydy mai yfwyr risg uchel sydd wedi bod yn gyrru'r cynnydd diweddar mewn yfed alcohol, a hynny wedi arwain at y lefel uchaf ers 20 mlynedd o gamddefnydd alcohol. Rydyn ni'n gwybod am yr effaith niweidiol y gall camddefnydd alcohol ei gael ar ein hiechyd corfforol, yn ogystal â'n hiechyd meddwl ni. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod, rydyn ni'n gwybod bod y cyfnod clo yn arbennig wedi cael effaith ar faint mae pobl yn ei yfed, a hynny yn ei dro wedi cael effaith andwyol ar iechyd. Mi ddywedodd y British Liver Trust wrthyf i mewn digwyddiad Love Your Liver y tu allan i'r Senedd yn ddiweddar—dwi'n gwybod bod nifer o Aelodau wedi bod draw i hwnnw—fod yna gynnydd o 20 y cant wedi bod mewn marwolaethau o afiechydon yr iau yn gysylltiedig ag alcohol yn ystod y pandemig. Hynny ydy, mae'r niwed wedi cael ei ddangos yn nifer y marwolaethau yn barod mewn cyfnod mor gyfyngedig â dwy flynedd.
Mae yfed trwm, hirdymor hefyd yn gallu achosi newidiadau i'r ymennydd, yn achosi anawsterau rhesymu, cofio a deall. Mae o'n gallu hefyd arwain at niwed go iawn i'r ymennydd—brain damage, felly—sy'n gysylltiedig ag alcohol, ARBD, alcohol-related brain damage. Ac mae o'n gyflwr y mae'n bosib ei atal o rhag mynd yn waeth, os ydy claf yn gallu rhoi'r gorau i yfed alcohol, ac efo'r cymorth priodol ar yr amser iawn, mae'r mwyafrif o bobl yn gallu gwella rhywfaint hefyd. Ond er gwaethaf hynny, mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dweud wrthym ni mai dim ond ryw 16 y cant o ddioddefwyr sy'n cael diagnosis, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth, diffyg dealltwriaeth o'r cyflwr, ac agwedd anghyson, dywedwn ni, at driniaeth oherwydd absenoldeb y math o fodel triniaeth fyddai'n ddigonol i ateb y galw amdano fo. Maen nhw'n awyddus iawn i weld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi a chyflwyno pecyn ymwybyddiaeth ARBD—pecyn sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol De Cymru—a hynny ar frys.
Rŵan, mae'r berthynas rhwng alcohol ac iechyd meddwl yn un gwybyddus ond cymhleth iawn hefyd. Mae alcohol, wrth gwrs, yn cael ei ddefnyddio, weithiau, gan bobl i geisio—maen nhw'n meddwl—helpu rheoli symptomau gorbryder neu symptomau iselder. Ond, wrth gwrs, y gwir ydy bod yfed gormod yn debyg o waethygu'r symptomau hynny, ac mae gan iselder ac yfed yn drwm berthynas glos efo'i gilydd, a pherthynas sy'n atgyfnerthu ei gilydd hefyd, sy'n golygu, os ydy rhywun yn dangos arwyddion o un ai iselder neu yfed yn drwm, mae o'n debyg o gynyddu'r siawns y bydd person yn profi'r llall hefyd. Mae hi'n gydberthynas bryderus, ac mae rheoli yfed a chael y gefnogaeth gywir yn hanfodol i iechyd meddwl da.
Rŵan, mae'r cysylltiad clir rhwng y cyfnod clo a'r cynnydd mewn ffigurau camddefnydd alcohol yn dangos sut mae teimlo'n unig, bod ar wahân, a newidiadau mewn trefn, os liciwch chi, yn gallu effeithio yn ddifrifol ar unigolion a'u cyflwr meddwl nhw. Ac o fod wedi dysgu o'r profiad yma, dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn ceisio darparu cymorth i bobl. A dŷn ni'n sôn yn fan hyn am roi cymorth i bobl i atal ei hunain rhag niweidio eu hunain. Dyna ydy hyn, a dyna pam roeddem ni wedi dymuno, wrth i'r Bil isafswm pris alcohol fynd drwy'r Cynulliad, fel oedd o ar y pryd, gweld rhywbeth mewn deddfwriaeth a fyddai'n sicrhau bod yna arian yn dod yn sgil y ddeddfwriaeth, ac ymdrech yn cael ei wneud yn sgil y ddeddfwriaeth honno er mwyn taclo camddefnydd alcohol hefyd. Nid gosod er mwyn gosod pris oedd hyn; gosod deddfwriaeth mewn lle efo'r bwriad o newid perthynas pobl efo alcohol, ac mae'n bwysig iawn fod y camau hynny yn digwydd yn sgil y ddeddfwriaeth honno, i wneud yn siŵr bod pobl yn sylweddoli ac yn profi cefnogaeth, fel, yn anffodus, dydyn nhw ddim wedi gallu cael gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol.