Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 17 Mai 2022.
Wel, rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid yn camddeall yr hyn yr oedd gan lywodraethwr Banc Lloegr i'w ddweud. Yr hyn yr oedd yn cyfeirio ato oedd y cynnydd i gost bwyd oherwydd digwyddiadau yn Wcráin ac, fel y dywedodd yn eglur iawn wrth y pwyllgor, oherwydd Brexit. Nawr, mae gwahaniaeth rhwng yr argyfwng a achoswyd gan gostau bwyd cynyddol a diffyg cyflenwad bwyd mewn archfarchnadoedd. Rydym ni'n dal i gael sicrwydd gan ei Lywodraeth ef yn y DU nad oes argyfwng yn y cyflenwad. Mae hynny'n wahanol i'r pwynt yr oedd Banc Lloegr yn ei wneud ddoe, sef effaith straen y gadwyn gyflenwi ar brisiau bwyd. Dyna'r anhawster yr oedd llywodraethwr Banc Lloegr yn canolbwyntio ei sylwadau arno.