1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 17 Mai 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dair wythnos yn ôl, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i nad oes argyfwng yn y sector bwyd, ar ôl i mi godi'r pwysau ar y cadwyni cyflenwi amaethyddol gyda chi. Ddoe, dywedodd llywodraethwr Banc Lloegr fod teuluoedd yn wynebu cynnydd apocalyptaidd i brisiau bwyd o ganlyniad i broblemau yn y gadwyn gyflenwi wedi eu hachosi gan y gwrthdaro yn Wcráin. Pwy sy'n iawn, chi neu lywodraethwr Banc Lloegr?
Wel, rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid yn camddeall yr hyn yr oedd gan lywodraethwr Banc Lloegr i'w ddweud. Yr hyn yr oedd yn cyfeirio ato oedd y cynnydd i gost bwyd oherwydd digwyddiadau yn Wcráin ac, fel y dywedodd yn eglur iawn wrth y pwyllgor, oherwydd Brexit. Nawr, mae gwahaniaeth rhwng yr argyfwng a achoswyd gan gostau bwyd cynyddol a diffyg cyflenwad bwyd mewn archfarchnadoedd. Rydym ni'n dal i gael sicrwydd gan ei Lywodraeth ef yn y DU nad oes argyfwng yn y cyflenwad. Mae hynny'n wahanol i'r pwynt yr oedd Banc Lloegr yn ei wneud ddoe, sef effaith straen y gadwyn gyflenwi ar brisiau bwyd. Dyna'r anhawster yr oedd llywodraethwr Banc Lloegr yn canolbwyntio ei sylwadau arno.
Roeddwn i'n gwneud y pwynt i chi dair wythnos yn ôl a chwe wythnos yn ôl, oherwydd y gwrthdaro yn Wcráin, fod pwysau enfawr ar y darlun chwyddiant, bod ffermydd yn gorfod prynu hadau, gwrteithiau a chynhyrchion eraill sy'n cyfrannu yn uniongyrchol at y gadwyn fwyd wrth i'r cynhyrchion terfynol gyrraedd y silffoedd. Fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i, Prif Weinidog, nad oes argyfwng yn y sector bwyd. Rwyf i'n awgrymu i chi fod argyfwng yn y sector bwyd, fel y cyfeiriodd llywodraethwr Banc Lloegr ato ddoe, ond fe wnaeth eich Llywodraeth chi ddiystyru y syniad a gyflwynais i chi ynghylch trefnu uwchgynhadledd fwyd, i ddod â ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr at ei gilydd er mwyn i ni allu trafod yn union yr hyn a oedd ei angen gan y Llywodraeth a phob sector yn y gadwyn fwyd i ymateb i'r pwysau unigryw sydd wedi dod i'r amlwg dros y tri mis diwethaf. Felly, yn absenoldeb cytundeb rhyngom ni ynghylch y termau yr oedd y llywodraethwr yn cyfeirio atyn nhw yn ei gyfarfod pwyllgor dethol yn y Trysorlys ddoe, a allwch chi amlinellu i mi ba gamau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi'r sector amaethyddol wrth wynebu'r pwysau anhygoel o ran prisiau ar fewnbynnau sy'n peryglu'r cyflenwad bwyd, wrth symud ymlaen, yn y chwech, 12 a 18 mis nesaf?
Wel, i ailadrodd yr hyn a ddywedais i, Llywydd, oherwydd nid wyf i eisiau i'r hyn a ddywedais i'r tro diwethaf gael ei gamddeall na'i gamliwio, roedd y pwynt a oedd yn cael ei wneud i mi yn flaenorol yn ymwneud â phrinder bwyd yn cael ei gyflenwi drwy'r siopau i ddinasyddion Cymru, ac rydym ni'n parhau i gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU nad yw hynny'n wir, ac nad oes unrhyw brinder cyflenwadau hanfodol ar y gorwel. Mae hwnnw yn bwynt gwahanol i'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud, sydd, yn fy marn i, yn un teg am bwysau chwyddiant ym mhen siop y gadwyn gyflenwi, ond hefyd yn y costau y mae'n rhaid i ffermwyr eu hysgwyddo.
Nawr, cawsom uwchgynhadledd fwyd dim ond yr wythnos diwethaf, efallai na wnaeth ei sylwi; cafodd ei chadeirio gan fy nghyd-Weinidog Jane Hutt. Daeth ag ystod eang o fuddiannau ynghyd i siarad am chwyddiant yn y gadwyn cyflenwi bwyd, a sut y gallwn ni yng Nghymru weithio gyda'n gilydd i gefnogi hynny. Dim ond ar sail y DU gyfan y gellir mynd i'r afael â'r darlun ehangach, a chynhelir cyfarfodydd wythnosol rhwng y pedair gwlad lle mae George Eustice, Gweinidog arweiniol Llywodraeth y DU, yn cymryd rhan ochr yn ochr â Lesley Griffiths a Gweinidogion o'r Alban a chynrychiolwyr o Ogledd Iwerddon. Ac rydym ni, felly, yn gweithio gyda'n gilydd i weld sut y mae'r pwysau hynny ar brisiau hadau, ar brisiau gwrtaith—. Maen nhw i gyd yn bwyntiau teg iawn y mae arweinydd yr wrthblaid yn eu gwneud a byddwn yn mynd i'r afael â nhw gyda'r pedair gwlad, ac mae Cymru bob amser o gwmpas y bwrdd pan gynhelir y trafodaethau hynny.
Mae llif arian parod yn elfen hanfodol o unrhyw fusnes, Prif Weinidog, ac wrth i ni gyrraedd tymor plannu tyngedfennol yr haf/hydref, mae angen yr hyder ar ffermwyr fod ganddyn nhw'r llif arian parod i brynu'r stoc, y stoc bridio neu'r hadau, i gynllunio ar gyfer y tymor tyfu nesaf fel bod cynhaeaf i'w gael y flwyddyn nesaf. Mae Llywodraeth y DU yn Lloegr wedi symud y ffenestr ar gyfer talu'r cynllun taliadau sylfaenol ymlaen i fis Gorffennaf er mwyn gallu lleddfu'r pwysau llif arian parod hwnnw. A wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd camau tebyg yma yng Nghymru er mwyn gallu talu arian cynllun taliadau sylfaenol i gyfrifon banc ffermwyr, er mwyn iddyn nhw allu bod yn hyderus i wneud yr archebion am y gwrtaith, yr hadau a'r stoc sydd eu hangen arnyn nhw, wrth ddechrau'r ffenestr hollbwysig honno yn yr hydref? Mae hwnnw yn gam uniongyrchol y gall Llywodraeth Cymru ei gymryd gan fod gennych chi gyfrifoldeb drosto.
Wel, Llywydd, record Llywodraeth Cymru o dalu'r cynllun taliadau sylfaenol, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei wybod, yw'r gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod y gorau ers blynyddoedd lawer, ac yn sicr yn llawer iawn gwell nag y mae dros ein ffin. Rydym ni'n parhau i gael trafodaethau bob wythnos gydag undebau'r ffermwyr yma yng Nghymru, a gyda buddiannau ffermio eraill. Bydd fy nghyd-Weinidog Lesley Griffiths, wrth gwrs, yn edrych i weld a oes camau y gallwn ni eu cymryd sy'n ymateb i'r pwysau sydd ar y sector, a byddaf yn gwneud yn siŵr bod yr awgrym penodol y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei wneud yn rhan o'r trafodaethau hynny.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, nododd Prif Weinidog y DU ei fwriad i ddiswyddo 91,000 o weithwyr, mwy nag un o bob pump o gyfanswm gwasanaeth sifil y DU, dros y tair blynedd nesaf. Byddai hyn yn golygu colli dros 6,000 o swyddi yma yng Nghymru. A yw Llywodraeth y DU wedi rhannu manylion eu cynigion â chi ynglŷn â ble y bydd eu bwyell yn disgyn yma yng Nghymru, neu ai'r cyntaf y gwnaethoch chi ei glywed am hyn, fel y gweithwyr dan sylw, oedd drwy'r Daily Mail? A fu unrhyw ohebiaeth gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r posibilrwydd o breifateiddio'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe, Swyddfa Basport Ei Mawrhydi neu asiantaethau eraill sydd wedi eu lleoli yng Nghymru? Os caiff y cynigion hyn eu rhoi ar waith, a allai cyfanswm y swyddi sy'n cael eu colli yng Nghymru yn y pen draw fod hyd yn oed yn uwch na'r ffigur o 20 y cant yr awgrymodd Brif Weinidog y DU? Ac a yw'n syndod bod Llywodraeth San Steffan wedi tynnu ei Fil ar hawliau gweithwyr o Araith y Frenhines yr wythnos diwethaf pan nad yw'n ymddwyn fawr gwell na P&O Ferries?
Wel, Llywydd, y tro diwethaf i mi gael trafodaeth gydag unrhyw Weinidog y DU am swyddi gwasanaeth sifil, i glywed y Gweinidog hwnnw yn clodfori bwriadau Llywodraeth y DU i wasgaru swyddi gwasanaeth sifil o gwmpas y wlad, ac i ddod â mwy o gyflogaeth i Gymru a lleoedd eraill y tu allan i Lundain oedd hynny. Am stori wahanol yw hon mewn gwirionedd. Mae 80 y cant o'r swyddi gwasanaeth sifil yng Nghymru yn swyddi sydd y tu allan i Lywodraeth Cymru. Mae Adam Price yn llygad ei le, Llywydd, pe baem ni hyd yn oed yn cymryd toriad cymesur o 91,000 Prif Weinidog y DU, y byddai gennym ni 6,000 yn llai o swyddi yma yng Nghymru. Y pryder, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddweud, yw y byddem ni'n ysgwyddo nifer anghymesur o uchel o doriadau swyddi yma yng Nghymru. Yn wyneb anawsterau a achoswyd ganddyn nhw eu hunain, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn troi ar unwaith, mewn ffordd ddifeddwl, at y mathau o atebion y mae wedi rhoi cynnig arnyn nhw mewn mannau eraill ac sydd wedi methu mor ofnadwy, ac sy'n bygwth rhai o'r asiantaethau hynny sy'n llawn pobl sy'n gweithio'n galed iawn, a wnaeth gymaint yn ystod y pandemig i barhau i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus, ac yn eu bygwth â phreifateiddio.
Gallwch fod yn siŵr y byddwn ni'n cyfathrebu yn uniongyrchol â Gweinidogion a fydd, os byddan nhw'n bwrw ymlaen â'u cynllun—ac rwy'n gweld llawer o ASau Torïaidd yn dweud nad ydyn nhw'n credu y bydd hyn byth yn digwydd—ac os byddan nhw'n penderfynu mai Cymru fydd y gwely prawf ar ei gyfer, yna byddan nhw'n wynebu gwrthwynebiad cryf yma, yn Llywodraeth Cymru, ac yn sicr os ydyn nhw'n meddwl y byddwn ni'n derbyn cyfran anghymesur o doriadau swyddi, faint y bydd hynny yn mynd yn groes i unrhyw honiadau y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud ynghylch ffyniant bro mewn rhannau helaeth o'r wlad y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr.
Yn hytrach nag un o achosion yr argyfwng costau byw, gweithwyr y sector cyhoeddus yw ei ddioddefwyr, fel pob gweithiwr arall. Siawns nad torri eu swyddi, ond codi eu cyflogau gwirioneddol—yn enwedig i'r rhai ar y cyflogau isaf—ddylai fod y pwyslais brys yn awr. Felly, beth allwn ni yng Nghymru ei wneud i helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd?
Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru ill dau wedi ymrwymo i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i bob aelod o staff. Y llynedd, Heddlu Dyfed-Powys oedd heddlu cyntaf Cymru i fod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig, ond nid yw pob cyflogwr sector cyhoeddus yng Nghymru wedi gwneud hynny eto. Beth am, Prif Weinidog, eu gwahodd nhw i gyd i'r uwchgynhadledd costau byw nesaf, a gofyn iddyn nhw beth y byddai'n ei gymryd i wneud Cymru yn genedl cyflog byw gwirioneddol, gan ddechrau gyda'r sector cyhoeddus cyfan, neu o leiaf y rhan honno ohono y mae gennym ni yng Nghymru, nid San Steffan, reolaeth drosti?
Wel, Llywydd, yn dilyn y digwyddiad blynyddol lle cyhoeddir y cyfrifiad cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, ysgrifennais at arweinwyr pob corff sector cyhoeddus yng Nghymru, yn eu hannog i ddod ymlaen fel cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol. Nawr, y pwynt a wnes i yn fy llythyr oedd fy mod i'n barod i gydnabod bod gwahanol gyrff—gwahanol awdurdodau lleol, er enghraifft—ar wahanol rannau o'r sbectrwm o ran y daith tuag at achrediad cyflog byw gwirioneddol. Mae Cyngor Caerdydd yn enghraifft gynnar eithriadol o lwyddiant yn y maes hwnnw, ond rwy'n cydnabod nad yw pawb yn dechrau o'r un lle. Yr hyn nad wyf i'n barod i'w gydnabod yw ateb sy'n dweud nad oes cynllun i gael achrediad cyflog byw gwirioneddol. Felly, dyna oedd pwyslais fy llythyr nid yn unig i arweinwyr awdurdodau lleol, ond i arweinwyr sefydliadau sector cyhoeddus o bob math yng Nghymru. Mae hon yn daith y mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod arni, er y bydd rhai mewn gwell sefyllfa i gyrraedd pen y daith honno nag eraill.
Edrychwn ymlaen at weithio gydag ef yn gadarnhaol i sicrhau'r weledigaeth honno ar gyfer Cymru cyn gynted â phosibl.
Heddiw yw'r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia, Rhyngffobia a Thrawsffobia, ac ar y diwrnod hwn mae'n bleser gwirioneddol dalu teyrnged i Jake Daniels, am fod yr unig ddyn i chwarae pêl-droed yn broffesiynol ar hyn o bryd sy'n agored am fod yn hoyw. Rwy'n teimlo'n siŵr y bydd ei ddewrder yn rhoi hyder i eraill ddilyn yn ei ôl troed.
Ar nodyn llai cadarnhaol, mae Canolfan Confensiwn Rhyngwladol Cymru, y mis hwn, yn rhoi llwyfan i'r telefangelydd Franklin Graham, sydd wedi galw dynion a menywod hoyw yn elyn sydd yma i ddifa ein cenedl, ac sydd hyd yn oed wedi canmol Vladimir Putin am ei bolisïau homoffobig. Nawr, efallai fod gan Mr Graham hawl i'w gredoau homoffobig, ond siawns nad oes ganddo hawl i gael llwyfan i'w mynegi mewn canolfan gynadledda sydd 50 y cant yn eiddo Llywodraeth Cymru. Onid yw hynny'n cyfleu'r neges anghywir gan Gymru—nid o heddwch ac ewyllys da, fel y byddwn ni'n ei wneud drwy'r Urdd yn Oslo yfory, ond un sy'n dweud bod homoffobia a chasineb rywsut yn dal i fod yn dderbyniol?
Wel, Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gytuno â'r hyn y mae Adam Price wedi ei ddweud am Jake Daniels? Mae wedi cymryd dyn ifanc 17 mlwydd oed i ddod ymlaen yn y ffordd honno, ac am wers yw honno i bobl eraill sy'n hŷn na'r dyn ifanc dewr iawn hwnnw, a gadewch i ni obeithio y bydd ei esiampl yn cael ei chlywed gan bobl eraill.
Rwy'n gresynu at y ffaith bod y digwyddiad y cyfeiriodd Adam Price ato yn mynd rhagddo, ond nid yw hynny yn benderfyniad i Lywodraeth Cymru. Nid ni sy'n rhedeg y ganolfan honno, a mater i'r rhai sy'n gyfrifol amdani yw gwneud y penderfyniadau hynny. Mae'n ddrwg gen i weld rhywun â'r safbwyntiau hynny yn cael llwyfan i'w mynegi yma yng Nghymru, ac yn sicr dydyn nhw ddim yn adlewyrchu unrhyw beth y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i'w gefnogi na'i gymeradwyo. Yn hytrach, nod ein cynllun, ein cynllun LGBTQ+ ar gyfer Cymru, yr ydym ni'n parhau i weithio arno ac wedi cael cyfres o drafodaethau ymgysylltiedig iawn gydag aelodau o'r gymuned honno ac eraill arno, yw ein gwneud yn genedl wirioneddol ystyriol o bobl LGBTQ+. Mae hynny yn sicr yn ymestyn i bobl ifanc, ac rwy'n diolch i arweinydd Plaid Cymru am yr hyn a ddywedodd am yr Urdd a'r neges o heddwch ac ewyllys da, y byddan nhw'n ei chyhoeddi yfory yn Oslo yn ystod eu canmlwyddiant. Mae'n record ryfeddol, record o fynegi barn a theimladau sydd yn aruthrol o wahanol i'r rhai yr ydym ni'n gresynu eu bod nhw'n cael eu clywed yma yng Nghymru, ac yn rhoi i ni, ochr yn ochr â'r hyn yr ydym ni wedi ei weld gan Jake Daniels heddiw, obaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol.