Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 17 Mai 2022.
Prynhawn da, Brif Weinidog. Diolch i Sam am godi'r mater yma. Dwi'n falch o weld materion gofal cymdeithasol plant yn cael eu trafod yma. Dwi'n pryderu'n fawr, Brif Weinidog, am y sefyllfa yng ngwasanaethau plant ein hawdurdodau lleol. Pa gymorth mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i awdurdodau lleol, fel sir Benfro, i sicrhau bod gwasanaethau ar seilwaith cadarn, a beth sydd ar gael i gynnig cefnogaeth i'r bobl sy'n gweithio mor galed ar gyfer ein plant? Diolch yn fawr iawn.