1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Mai 2022.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella gwasanaethau diogelu plant yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ58036
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl fyrddau diogelu rhanbarthol ac awdurdodau lleol i gryfhau a gwella arferion diogelu ledled Cymru. Mae gweithdrefnau diogelu newydd i Gymru gyfan wedi eu datblygu gyda'r byrddau hynny, i sicrhau bod gwasanaethau yn nodi ac yn gweithredu gwersi yn well.
Prif Weinidog, mae 20 mlynedd wedi mynd heibio bellach ers llofruddiaeth drasig y plentyn wyth oed Victoria Climbié, yn nwylo ei hen fodryb a'i phartner yn Llundain. Amlygodd yr achos fethiannau gwahanol asiantaethau Llywodraeth a fethodd â mynd i'r afael â'r cam-drin parhaus yr oedd yn ei ddioddef gan ei theulu. Er na ddigwyddodd y llofruddiaeth hon yng Nghymru, nododd yr adroddiad a luniwyd gan yr Arglwydd Laming yn 2001 nifer o argymhellion ynghylch y ffordd orau o leihau'r siawns y bydd digwyddiadau erchyll o'r fath yn digwydd eto. Dim ond y llynedd, gwelsom lofruddiaeth ofnadwy y plentyn pump oed Logan Mwangi gan ei fam a'i lystad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, siaradais ag etholwyr a fynegodd eu pryderon nad oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn bod yn dryloyw nac yn atebol yn y ffordd yr oedden nhw'n ymdrin â materion diogelu. Yn wir, amlygodd adolygiad yr Arglwydd Laming fod gormod, a dyfynnaf,
'o ddryswch sefydliadol a "bwrw'r cyfrifoldeb"...i gredu y gellir sicrhau diogelwch plentyn dim ond drwy gyhoeddi mwy o ganllawiau.'
Prif Weinidog, pa fesurau sydd ar waith i sicrhau y gwrandewir ar y sylwadau hyn, a chenhedlaeth yn ddiweddarach, fod diwylliannau wedi newid? Diolch.
Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn atodol pwysig yna. Roedd achos Victoria Climbié ei hun yn un arall mewn cyfres faith o ymchwiliadau amddiffyn plant arwyddocaol. Yr un sylfaenol yn yr oes fodern oedd yr un i farwolaeth Maria Colwell yn ôl ym 1974, a cheir gwrthgyferbyniad cryf iawn rhwng yr hyn a ganfu ymchwiliad Colwell a'r hyn a ganfu ymchwiliad Climbié. Yn achos Colwell, canfu'r ymchwiliad fod marwolaeth y plentyn hwnnw wedi ei achosi yn rhannol oherwydd bod pob asiantaeth y daeth i gysylltiad â hi yn ystyried ei hun yn gyfrifol am ei lles ac ni wnaethon nhw rannu gwybodaeth â chyrff eraill; canfu Climbié bron yn union i'r gwrthwyneb. Yn yr achos hwnnw, gweithredodd unrhyw sefydliad y cyrhaeddodd achos Victoria Climbié ar ei ddesg, meddai'r Arglwydd Laming, cyn gynted ag y gallai i gael yr achos hwnnw oddi ar ei ddesg ac i ddwylo sefydliad arall. Cynlluniwyd ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ein hunain i raddau helaeth i geisio gwrthweithio'r ffordd honno o ddarparu gwasanaethau i blant, i wneud yn siŵr bod gwasanaethau plant yn gweithio gydag eraill i helpu i sicrhau diogelwch plant lle bynnag yr oedden nhw yng Nghymru.
Roedd cwestiwn gwreiddiol yr Aelod yn fy holi am orllewin Caerfyrddin. Pan ymwelais â gwasanaethau cymdeithasol sir Gaerfyrddin gryn amser yn ôl, gwnaeth y ffordd yr oedd y gwasanaethau hynny wedi eu trefnu i sicrhau, er enghraifft, fod addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o un gyfarwyddiaeth ac yn gweithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr bod buddiannau plant yn cael eu hybu a bod eu diogelwch yn cael ei hybu hefyd wrth i'r gwasanaethau hynny weithio gyda'i gilydd, argraff wirioneddol arnaf i. Felly, rwy'n credu bod enghreifftiau da o hynny yn digwydd ledled Cymru. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod hynny yn cael ei wneud yn gyson. Mae gennym ni gyfres o adroddiadau sydd wedi ein helpu gyda hynny yn fwy diweddar, gan gynnwys adroddiad y gweithgor cyfraith gyhoeddus. Llwyddais i gyfarfod â llywydd yr is-adran deuluol wythnos neu ddwy yn unig yn ôl, ynghyd â'r Barnwr Francis, prif farnwr llys teulu Cymru, i drafod cyfres o'r materion hyn. Byddwn yn parhau i weithredu ar y lefel Llywodraeth Cymru honno, ond hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid ar lefel awdurdod lleol ac ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd, y mae gan bob un ohonyn nhw ran i'w chwarae o ran gwneud yn siŵr bod y pwyntiau pwysig a wnaed gan Mr Kurtz yn cael sylw wrth ddarparu gwasanaethau yng Nghymru.
Prynhawn da, Brif Weinidog. Diolch i Sam am godi'r mater yma. Dwi'n falch o weld materion gofal cymdeithasol plant yn cael eu trafod yma. Dwi'n pryderu'n fawr, Brif Weinidog, am y sefyllfa yng ngwasanaethau plant ein hawdurdodau lleol. Pa gymorth mae'r Llywodraeth yn ei gynnig i awdurdodau lleol, fel sir Benfro, i sicrhau bod gwasanaethau ar seilwaith cadarn, a beth sydd ar gael i gynnig cefnogaeth i'r bobl sy'n gweithio mor galed ar gyfer ein plant? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i Jane Dodds. Rŷn ni'n rhoi cymorth i'r awdurdodau lleol mewn nifer o ffyrdd. Rŷn ni wedi rhoi mwy o arian iddyn nhw yn ystod y pandemig i'w helpu nhw i ymdopi â'r sefyllfa yna. Cyfeiriais yn yr ateb gwreiddiol i Sam Kurtz at y cyngor newydd rŷn ni wedi'i greu gyda'r byrddau i helpu pobl yn y rheng flaen yn y gwaith caled maen nhw'n ei wneud. Rŷn ni'n gweithio ar y foment gyda'n prifysgolion i weld a oes yna fwy rŷn ni'n gallu'i wneud i dynnu mwy o bobl i mewn i'r cyrsiau hyfforddiant sydd gyda ni yma yng Nghymru i greu'r gweithlu am y dyfodol. So, dwi'n cytuno gyda beth ddywedodd Jane Dodds. Mae'n faes anodd, ac mae pobl ar y rheng flaen yn gweithio mor galed i gydweithio gyda phobl eraill i roi help a chymorth iddyn nhw. Mae nifer o bosibiliadau ble rŷn ni'n gallu cydweithio gyda'n gilydd i wella'r sefyllfa sy'n ei hwynebu nhw'n bresennol.