Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'n fawr y cyhoeddiad heddiw a nodi'n benodol pa mor falch oeddwn i o glywed un gair yn benodol yn cael ei ailadrodd gan y Gweinidog, sef 'llawenydd'. Mae'r pwyslais, felly, ar bwysigrwydd cerddoriaeth o ran iechyd a lles pawb ohonom yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei groesawu, ac yn arbennig, felly, yng nghyd-destun argyfwng costau byw dybryd a hefyd argyfwng tlodi plant, dwi'n croesawu'n benodol pa mor bwysig yw'r pwyslais ar fynediad cydradd i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru i addysg gerddoriaeth, ynghyd â'r pwyslais ar fynediad cydradd i blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol. Yr unig beth roeddwn i'n gresynu o ran eich datganiad chi, o glywed am eich llais bariton hyfryd, ac mae'n biti, oedd eich bod chi heb ganu rhan o'r datganiad, ond, yn sicr, mae'r ffaith bod y pwyslais ar lawenydd yng nghyd-destun mor llwyd i gynifer o deuluoedd yn cael ei groesawu'n fawr.
Oherwydd y gwir amdani ydy bod yna argyfwng o ran cerddoriaeth mewn ysgolion. Mae Estyn wedi canfod mai cerddoriaeth oedd un o'r pynciau a effeithiwyd fwyaf gan y pandemig, ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod yr argyfwng wedi bodoli cyn hynny. Ers 2014, mae nifer y disgyblion sy'n cymryd TGAU mewn cerddoriaeth wedi disgyn bron 20 y cant, ac, o ran lefel A, bron 40 y cant, gan greu risg o ran dyfodol y sector cerddoriaeth yng Nghymru. Ymhellach, dengys ymchwil fod 50 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion preifat yn derbyn gwersi cerddoriaeth cyson o gymharu â 15 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion gwladol. Mae hynna wedyn yn cael ei adlewyrchu o ran y niferoedd sydd yn mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus yn y byd cerddoriaeth. Mae'r buddsoddiad yma, felly, i'w groesawu'n fawr o ran gwneud iawn am ddegawdau o dan-gyllido gwasanaeth a oedd yn cael ei weld tan heddiw fel rhywbeth neis i'w gynnig yn hytrach na rhywbeth hanfodol o ran datblygiad pob plentyn a pherson ifanc.
Hoffwn holi rhai pethau ymarferol, felly, i'r Gweinidog, o ran pethau fel rôl Estyn i'w chwarae, o ran sicrhau bod pob ysgol yn manteisio'n llawn ar hyn trwy gymryd i ystyriaeth ddarpariaeth cerddoriaeth ysgolion fel rhan o'i adolygiadau. Dwi'n cymryd, oherwydd y cysylltiad gyda'r cwricwlwm newydd, y bydd hynny, ac mi fyddai'n dda cael cadarnhad. Hefyd, dwi'n croesawu bod yna sôn o ran gwerthuso ac ati, ond mae hi'n allweddol bwysig ein bod ni'n deall effaith hyn, oherwydd, os nad oes mynediad wedi bod am gyn gymaint o amser, mae'n mynd i gymryd amser i ddisgyblion fod eisiau, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd y bydd yna fwlch o ran rhai disgyblion, ac ati.
Dwi hefyd yn croesawu eich bod chi'n rhoi pwyslais ar yr ystod o offerynnau, oherwydd dydy pob offeryn ddim yn siwtio pawb. Dwi'n meddwl bod hynny'n beth pwysig. Rydyn ni'n gweld yn aml, hyd yn oed pan fydd yna ddarpariaeth gerddoriaeth mewn ysgolion rŵan, efallai fod un offeryn penodol, ac os nad ydych chi'n caru'r offeryn hwnnw, yna dydych chi ddim yn mynd i garu cerddoriaeth. Mae'r ystod yna yn eithriadol o bwysig, hefyd.
Gaf i hefyd holi, o ran y cynllun, a oes yna fwriad o ran sicrhau mynediad cydradd i bawb o ran y gofodau i ymarfer? Oherwydd un o'r heriau hefyd, wrth gwrs, ydy cael y gofod adre. Os ydych chi'n byw mewn fflat neu rywle efo waliau tenau, ac ati, mae cael rhywun yn cwyno—. Oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod, pan fyddwch chi'n dechrau dysgu offeryn, dydy e ddim, efallai, y sŵn mwyaf pleserus yn y byd, ond mae'n bwysig iawn ichi allu gwneud y camgymeriadau hynny rhag chwaith gael eich herio i beidio ymarfer. Felly, oes yna fwriad o ran y gofodau ymarfer, ac ydy hynna'n rhan o ymestyn y diwrnod ysgol ac ati, a'r cyfle efo cerddoriaeth? Ydy hynna'n rhan o'r bwriad hefyd?
Fel chi, Weinidog, roeddwn i'n rhywun yn bersonol a wnaeth fanteisio ar wasanaeth gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol, gan gael cyfle i gael gwersi sielo, clarinét a thelyn drwy'r ysgol, a benthyg offerynnau am y cyfnod hwnnw, oherwydd mae offerynnau yn gallu bod yn ddrud ofnadwy hefyd. Dwi'n cofio gallu benthyg telyn am £30 am flwyddyn, oedd yn golygu eich bod yn gallu cael y cyfle. A dwi'n meddwl bod y rhan yna i'w groesawu'n fawr yn y cynllun hefyd.
Mi oedd pwyntiau Laura Anne Jones yn deg iawn o ran yr hirdymor, felly. Mae hwn yn dair blynedd, a byddwn i'n croesawu'n fawr meddwl sut ydyn ni'n sicrhau wedyn barhad buddsoddiad o'r fath, oherwydd mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a chyffrous, yn fy marn i. Dwi'n meddwl mai un o'r heriau fydd gweld wedyn sut ydyn ni'n gallu cynnal y gwasanaeth a'r cyfleoedd, a hefyd o ran pethau fel bod mewn cerddorfeydd. Yn aml, mae yna dripiau yn yr haf yn gysylltiedig â hynny, sydd yn gallu bod yn gostus iawn. Dwi'n meddwl y bydd yna lot o bethau y byddwn ni'n dysgu wrth i hyn fynd rhagddo, sydd yn rhywbeth i ni ei groesawu a gwerthuso.
Hoffwn innau dalu teyrnged i Rhianon Passmore a gwaith y pwyllgor diwylliant, ac mae'n rhaid i fi, wrth gwrs, sôn am Bethan Sayed yn benodol. Dwi'n gweld o 'trydar' heddiw ei bod hi'n croesawu hyn yn fawr, a phe bai hi yma heddiw, buasai hithau ar ei thraed yn ei groesawu. Felly, dwi'n edrych ymlaen at weld sut bydd hyn yn mynd, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cadw golwg a gwerthuso a hefyd sicrhau parhad fel bod y mynediad cydradd yna'n parhau. Diolch.