Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Mae hi'n iawn i ddweud bod y sefyllfa wedi bod, ers cyfnod, yn rhywbeth roedden ni eisiau mynd i'r afael ag e. Rwy'n cofio, pan oeddwn i yn yr ysgol, cael manteisio ar wersi cerddoriaeth am ddim ac, fel yr Aelod, yn gallu benthyg offeryn pres, heb orfod prynu un ein hunain fel teulu. Mae'r tirwedd wedi newid yn sylweddol, yn anffodus, ers hynny wrth gwrs. Ac mae'r pwyllgorau, yn cynnwys pwyllgor Bethan, fel y gwnaeth yr Aelod sôn, wedi gwneud gwaith yn y Senedd ddiwethaf i'n helpu ni i siapo hyn. Mae wedi bod yn werthfawr iawn. Hoffwn i hefyd sôn am y gwaith a wnaeth fy rhagflaenydd i, Kirsty Williams, o ran buddsoddi mewn offerynnau a hefyd sefydlu Anthem, sydd wedi bod yn gyfraniad i'r tirwedd pwysig hwn.
O ran y gwaith y byddwn ni'n gwneud gyda chyrff eraill, tu hwnt i ffiniau'r gwasanaeth, bydd rôl gan awdurdodau lleol, gan Estyn, gan y consortia i helpu siapo sut y mae gwaith y gwasanaeth yn cyffwrdd ag anghenion y cwricwlwm ac ati. O ran creu adnoddau, byddwn ni'n gweithio gydag Estyn ar y rheini er mwyn creu adnoddau hyfforddiant proffesiynol, er enghraifft, i'r tiwtoriaid allu darganfod y ffyrdd gorau o sicrhau bod hynny'n digwydd. Mae'r elfen o werthuso, rwy'n credu, yn bwysig iawn yn hyn o beth, oherwydd mae'n fuddsoddiad sylweddol, ac mae'r strwythur sydd gyda ni yn un sy'n tyfu o'r llawr i fyny, yn hytrach nag o'r top i lawr. Felly, mae hynny'n gyffrous. Mae'n caniatáu arbrofi, mae'n caniatáu approaches lleol, a byddwn ni'n dysgu o'r rheini beth sydd yn gweithio orau ac, efallai, beth sydd ddim mor llwyddiannus. Mae hynny'n anorfod, buaswn i'n dweud. Felly, mae'r broses yma o werthuso wrth i ni fynd yn bwysig, rwy'n credu, fel ein bod ni'n gallu gwneud newidiadau er mwyn ymateb i'r arfer orau fydd yn cael ei dangos. Ac rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud bod yn rhaid gwneud hynny mewn cyd-destun o edrych ar beth sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf hefyd. Mae hynny wedi cael impact.
Mae'r pwynt o ran gofodau ymarfer yn bwysig. Rwy'n credu bod hyn yn rhan o'r agenda ehangach sydd gyda ni fel Llywodraeth o ran ysgolion sydd â ffocws cymunedol ac sy'n agored tu hwnt i oriau cyfyng y diwrnod ysgol i ganiatáu i'w hadnoddau gael eu defnyddio yn y ffyrdd y mae hi'n sôn amdanyn nhw yn ei chwestiwn.
Jest yn bwynt olaf, mae'r ymrwymiad yma yn ymrwymiad tair blynedd. Dim ond cyllideb tair blynedd sydd gennym ni i unrhyw beth ar hyn o bryd, felly dyna'r rheswm am hynny. Wrth gwrs, buaswn i eisiau gweld parhad o'r math yma o wasanaeth y tu hwnt i hynny. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd hwn yn gyfnod lle byddwn ni ar drywydd newydd nawr. Felly, rwy'n siŵr y gwelwn ni lwyddiant dros y tair blynedd nesaf ac y byddwn ni'n moyn adeiladu ar hynny.