Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gen i, roedd yna achos bychan o rannu pennau ysgrifennu yn y fan yna, felly ymddiheuriadau.
Mae tai fforddiadwy, clyd a chynnes yn hanfodol i iechyd a lles pawb yng Nghymru. Mae cartrefi iach yn gosod sylfaen sefydlog a diogel i unigolion a theuluoedd ac yn diwallu anghenion yr aelwyd. Maen nhw'n rhoi llecyn i ni deimlo yn ddiogel a chysurus, a'n cysylltu ni â'r gymuned, â gwaith a gwasanaethau.
Mae buddsoddi mewn cartrefi iach yn fuddsoddiad sy'n gweithio yn galed i ni. Fe ddaw chwarter ein hallyriadau carbon ni oherwydd y sector tai. Mae adeiladu cartrefi newydd hyd at safonau carbon isel a di-garbon yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae adeiladu cartrefi newydd yn creu swyddi a phrentisiaethau, ac yn ysgogi twf economaidd.
Ac fel gwasanaeth ataliol, mae cartrefi iach yn lleihau'r pwysau sydd ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth. Mae cartrefi iach yn lleihau clefydau cronig, yn gwella iechyd meddwl, yn lleihau cwympiadau a damweiniau, ac yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn gynnar.
Ers 2018, rydym ni wedi buddsoddi £145 miliwn yn rhaglen gyfalaf y gronfa gofal integredig, gan ddarparu tai arbenigol i bobl hŷn, pobl â dementia, pobl ag anabledd dysgu, plant ag anghenion cymhleth, a gofalwyr di-dâl. Fe wnaethom ni fuddsoddi hefyd mewn llety gofal canolraddol yn y gymuned, a seilwaith gofal cymdeithasol hanfodol.
Bore yma, fe ymwelais i â Thŷ Glas y Dorlan yng Nghwmbrân. Gyda grant o £1.7 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru o'r Gronfa, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a chymdeithas tai Bron Afon wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu datblygiad hynod a all gael effaith ddofn ar iechyd a lles yn Nhorfaen. Mae'r datblygiad yn cynnwys chwe fflat gofal ychwanegol i bobl hŷn ar y trydydd llawr, a 13 o fflatiau ailalluogi ac adsefydlu tymor byr gyda drws ffrynt i bob un. Mae'r fflatiau ailalluogi hyn yn cynnig lleoliad tebyg i gartref i bobl sy'n camu i lawr o ysbyty, ac yn amgylchedd lle gellir cefnogi pobl a allai fod yn ystyried gofal preswyl i ddysgu sgiliau newydd ar gyfer parhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae Tŷ Glas y Dorlan yn ganolfan ar gyfer gofal a gwasanaethau therapiwtig i'r gymuned gyfan. Datblygiadau fel Tŷ Glas y Dorlan yw'r rheswm pam ein bod ni'n cynyddu ein buddsoddiad mewn tai a llety arbenigol yn sylweddol yn ystod y tymor Seneddol hwn, i gefnogi ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddarparu tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal.
Rwy'n cyhoeddi heddiw'r gronfa tai â gofal, cronfa bedair blynedd sy'n adeiladu ar raglen gyfalaf y gronfa. Yng nghyllideb eleni, dyrannwyd £182 miliwn gennym dros y tair blynedd nesaf i fyrddau partneriaethau rhanbarthol i ddarparu tai â gofal. Ein nod ni yw cynyddu cyfanswm y stoc o dai gofal ychwanegol yng Nghymru hyd at draean dros y pedair blynedd nesaf, i ymateb yn uniongyrchol i boblogaeth sy'n heneiddio. Fe fydd hynny'n ein galluogi ni i gyflymu ein polisi hirsefydlog o helpu pobl ag anabledd dysgu, sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, a chyflyrau niwrolegol eraill, i fyw yn annibynnol, pan fo hynny'n bosibl, yn eu cartref eu hunain.
Fe fyddwn ni'n buddsoddi hefyd mewn llety gofal canolraddol, fel yr hyn a ddarperir yn Nhŷ Glas y Dorlan, yn ogystal â llety i bobl nad ydyn nhw'n barod am annibyniaeth lawn eto, ac sy'n ei chael hi'n anodd cynnal cartref weithiau, fel tenantiaeth yn y sectorau rhentu preifat neu gymdeithasol. Mae hyn yn eu gwneud nhw'n agored i niwed a phrofi digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n gadael gofal, oedolion ifanc ag anableddau dysgu, a phobl ag anghenion iechyd emosiynol neu les meddyliol. Fe all buddsoddi mewn llety dros dro i'r grwpiau hyn gynorthwyo o ran atal digartrefedd a'r holl niwed y gall hynny ei achosi.
Fe fyddwn ni'n buddsoddi hefyd i gefnogi ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu cyn agosed i'w cartrefi â phosibl ac yng Nghymru pan fyddo hynny'n ymarferol. Yn rhy aml, mae pobl ifanc sy'n agored i niwed sydd ag anghenion uwch ac ymddygiadau heriol yn cael eu dynodi mewn lleoliadau sydd y tu allan i'r sir neu mewn gwlad arall, hyd yn oed. Mae'r rhain yn ddrud echrydus, ac nid yw dros £200,000 y flwyddyn i bob plentyn yn rhywbeth anghyffredin, ac mae'n niweidiol i'w lles nhw, gan eu torri i ffwrdd oddi wrth deulu a ffrindiau, a thorri cysylltiadau â gwasanaethau iechyd a gofal lleol. Mae'n rhaid i fyrddau partneriaethau rhanbarthol fynd i'r afael â'r angen am lety lleol fel mater o frys.
Mae'r gronfa tai â gofal yn rhan o becyn o gyllid trawslywodraethol ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol, sy'n cynnwys y gronfa integreiddio rhanbarthol iechyd a gofal cymdeithasol a'r gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso. Mae'r pecyn hwn yn werth cyfanswm o £255 miliwn yn 2022-23.
Gyda'r cyllid hwn fe ddaw heriau o ran arweinyddiaeth allweddol i fyrddau partneriaethau rhanbarthol. Y cyntaf yw cynyddu gwerth y ffrydiau ariannu cyfunol hyn i'r eithaf, gan ddefnyddio refeniw a chyfalaf i ysgogi newid sylfaenol. A'r ail yw meithrin partneriaethau cryfach gyda thimau tai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, fel bydd darparwyr tai cymdeithasol yn rhan annatod o'r dull o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal. A'r trydydd yw gwneud penderfyniadau craff o ran buddsoddi i gefnogi ein blaenoriaethau trawsbynciol ac sy'n ein rhoi ni ar ben ffordd i Gymru iachach, fwy cydnerth a charbon isel. Diolch.