Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Yn 2017, fe rybuddiodd awdurdodau lleol eu bod nhw'n disgwyl cynnydd bryd hynny yn y galw am dai â gofal dros y pum mlynedd nesaf. Yn wir, fe gyhoeddodd eich Llywodraeth Lafur Cymru chi adroddiad ar werthuso tai â gofal ychwanegol yng Nghymru ac roedd hwnnw'n nodi, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r rhan helaeth o awdurdodau lleol'
—a 18 o 22 oedd hynny—
'yn disgwyl cynnydd mewn galw am dai anghenion cyffredinol i bobl hŷn ac mae'r rhan fwyaf (16) yn disgwyl i'r galw am dai gofal ychwanegol gynyddu dros y pum mlynedd nesaf.'
Ymddangosodd proffil o'r fath drwy'r ymatebion gan gymdeithasau tai, ac roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a rheolwyr cynlluniau gofal ychwanegol yn cytuno bod y galw am ofal ychwanegol yn fwy na'r cyflenwad ohono. Felly, mae hi'n debyg ei bod yn rhaid gofyn, gan mai ni yw'r wrthblaid swyddogol: pam mae Llywodraeth Cymru wedi aros pum mlynedd ers cyhoeddiad yr adroddiad i wneud datganiad heddiw am y cyllid hwn?
Rwy'n cydnabod bod cyllid grant tai cymdeithasol a ddarparwyd ynghynt gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn bwysig o ran ysgogi rhyw gymaint o dwf. Yn wir, o 2017 ymlaen, mae tri chwarter y cynlluniau i gyd wedi cael eu datblygu ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau a sicrhau bod cyllid wedi cael ei neilltuo yn barod ar gyfer cefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau gofal ychwanegol yn 2006. Felly, a ydych chi o'r farn mai camgymeriad oedd rhoi terfyn ar dai â gofal gyda chyllid penodol, ac a yw hynny wedi cael effaith negyddol ar nifer y cartrefi o'r fath sydd gennym ni yng Nghymru heddiw? Ar hyn o bryd, yn ôl adroddiad annibynnol a baratowyd ar gyfer Llywodraeth Cymru, fe fydd yna brinder o tua 5,000 o unedau yng Nghymru erbyn 2035.
Mae cynlluniau tai â gofal yn cael eu lleoli fel arfer mewn dinasoedd a threfi, yn hytrach nag mewn ardaloedd gwledig, a hynny er bod 25.4 y cant y trigolion sy'n byw mewn siroedd gwledig yn 2019 yn 65 oed neu'n hŷn, sef cynnydd o 16.6 y cant yn y flwyddyn 2000. Mae arolwg cenedlaethol Cymru wedi adrodd bod tri chwarter y bobl dros 65 oed yn dweud eu bod nhw'n teimlo unigrwydd ar adegau. Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Associated Retirement Community Operators yn nodi bod preswylwyr tai â gofal yn profi lefelau is o unigrwydd, gyda dim ond 1 y cant o drigolion yn teimlo'n ynysig yn aml. Felly, onid yw hwnnw'n batrwm y dylem ni i gyd fod yn ystyried gweithio tuag ato?
Felly, o gofio y gall unigrwydd ac arwahanrwydd fod ar ei waethaf mewn cymunedau gwledig a bod siroedd gwledig yn gweld mwy o heneiddio poblogaethau, pa gamau y gallwch chi eu cymryd, Gweinidog, i weld cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cefnogi rhywfaint o ddatblygu cynlluniau yn ein hardaloedd mwy gwledig? Fe allai cynlluniau o'r fath yng nghefn gwlad Cymru ryddhau cartrefi i'r genhedlaeth iau. Fe fyddai hynny hefyd yn rhoi hwb i GIG Cymru.
Mae adroddiad wedi canfod bod preswylwyr sy'n byw mewn cynlluniau tai â gofal yn gweld lleihad o ran eiddiledd a chodymau o fewn dwy flynedd i fyw yn eu cartref, gyda gwell ymarfer corff a ffitrwydd, ac yn ogystal â hynny, i'r rhai sy'n byw mewn cymunedau ymddeol integredig, fe ostyngodd costau ymweliadau meddygon teulu, nyrsys ac ysbytai gan o gwmpas 38 y cant. Yn Llanrwst, mae gan ClwydAlyn Hafan Gwydir, cynllun gofal ychwanegol gyda chyfleusterau gwych, ac mae gan un ganolfan iechyd gyfagos a meddygfa meddygon teulu ar y safle. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, y dylid annog awdurdodau cynllunio nawr i ddyrannu tir yn ein cynlluniau datblygu lleol ni ar gyfer datblygiadau tai â gofal, ar gaeau wrth ymyl practisau meddygon teulu neu'n gyfagos, os na allan nhw fforddio rhoi'r gwasanaeth newydd hwnnw ar waith sy'n fwy o syrcas, ac fe allai pobl gael gafael ar eu hanghenion meddygol nhw hefyd?
Ac rydych chi'n ymwybodol mae'n debyg fod gan denantiaid anghenion amrywiol. Er enghraifft, mae angen cymorth gofal ar rai ohonyn nhw. Yng ngoleuni'r argyfwng gofal parhaus o ran prinder staff, yn arbennig ymysg rhai sy'n darparu gofal cartref ar aelwydydd, mae hi'n haws iddyn nhw fod â chleientiaid mewn un lleoliad yn hytrach na bod filltiroedd lawer ar wasgar. Felly, a fyddech chi'n cydnabod, drwy ddarparu cyllid i ddatblygu cynlluniau tai â gofal, y gallem ni ysgafnu peth ar y pwysau sylweddol sydd o ran gormodedd staff i ni—na, nid 'gormodedd' o gwbl—prinder ein gweithwyr gofal cartref sydd dan ormod o bwysau? A gadewch i ni weithio gyda'n gilydd; ystyr hyn yw bod â system tai â gofal fwy integredig yma yng Nghymru. Diolch i chi, Dirprwy Lywydd, a Gweinidog. Diolch.