Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae ynni'r môr ar y môr yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb arbennig ynddo, o gofio'r etholaeth yr wyf i'n ei chynrychioli a'r cyfleoedd y mae'r rhan benodol honno o arfordir Cymru yn eu cynnig i'r sector ac, yn wir, i economi Cymru. Yn wir, mae'r Gweinidog wedi sôn am y datblygiadau diweddaraf mewn cysylltiad â Blue Gem Wind yn sir Benfro, y gwnes i gyfarfod â nhw yn ddiweddar iawn, ac rwy'n falch o fod yn gweithio'n agos gyda nhw ar eu prosiectau arloesol. Wrth gwrs, mae angen i ni weld mwy o weithgarwch fel hyn ledled Cymru.
Yn ôl adroddiad 'Cyflwr y Sector 2021' Ynni Môr Cymru,
'Gyda'r lefel gywir o gefnogaeth a buddsoddiad i alluogi arloesedd parhaus, gallai Cymru ddod yn un o'r lleoedd gorau a hawsaf i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y môr.'
Rydym yn gwybod, pan fydd Llywodraethau'n buddsoddi mewn technolegau a datblygiadau ar y môr, ei bod yn gwneud y prosiectau hynny yn fwy deniadol i fuddsoddiad gan y sector preifat, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cyllid yn y maes hwn wrth symud ymlaen? Er enghraifft, a fydd cronfa benodol o gyllid ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru yn cael ei datblygu bellach?
Yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gyda rhanddeiliaid, maen nhw wedi ei gwneud yn glir i mi fod angen diwygiadau cynllunio morol hefyd i gyflawni prosiectau yn gynt fel y gall Cymru gynnal mantais gystadleuol. Yn benodol, byddai prosesau symlach ar gyfer cynllunio a chydsynio morol yn helpu i sicrhau y gellir cyflawni prosiectau yn nyfroedd Cymru cyn prosiectau llawer mwy mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, efallai y bydd y Gweinidog yn dweud wrthym pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r dirwedd cynllunio morol fel na fyddwn yn colli cyfle o ran prosiectau yma yng Nghymru.
Mae adroddiad cyflwr y sector Ynni Môr Cymru hefyd yn dweud wrthym
'O'r cwmnïau sydd wedi adeiladu neu sy'n adeiladu dyfeisiau yng Nghymru ar hyn o bryd... mae o leiaf 50% o'u cadwyn gyflenwi wedi dod o Gymru'.
Felly, rydym yn gwybod bod cyfleoedd enfawr i fusnesau yma yng Nghymru. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud ychydig mwy wrthym am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau'r cyfleoedd gorau i fusnesau'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen.
Mae datganiad heddiw yn cyfeirio'n briodol at ein porthladdoedd a'u seilwaith, ac os ydym eisiau i Gymru fod yn chwaraewr byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy morol, yna mae angen i ni sicrhau bod ein porthladdoedd yn cael eu cefnogi'n well. Er mwyn darparu ynni'r môr ar y môr yn nyfroedd Cymru ac er mwyn i Gymru wireddu'r manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ar gael, mae angen buddsoddi mewn seilwaith porthladdoedd ar frys i alluogi'r prosiectau sy'n datblygu i fod yma yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol y gallai diffyg cyfleusterau lleol addas yn y gorllewin ar hyn o bryd adael datblygwyr heb fawr o ddewis ond sicrhau technoleg o wledydd eraill fel Sbaen a Ffrainc, lle mae seilwaith porthladdoedd yn fwy datblygedig.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gronfa porthladdoedd gwynt arnofiol Llywodraeth y DU, sy'n werth £160 miliwn, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad porthladdoedd yng Nghymru a sicrhau y bydd Cymru'n cael cymaint o arian â phosibl o'r cyllid penodol hwnnw.
Nawr, mae hyn yn fy arwain i at gysylltiadau rhynglywodraethol cryf, sy'n rhan annatod o nodi a sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posibl i'r prosiectau hynny. Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y cytundeb yr wythnos diwethaf gyda Llywodraeth y DU ar sefydlu polisi porthladdoedd rhydd yng Nghymru, ac rwy'n croesawu'r cytundeb a'r ymgysylltu rhynglywodraethol cadarnhaol sydd wedi digwydd i gyrraedd y pwynt hwn. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud y bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn cael effaith economaidd sylweddol ac y bydd yn creu swyddi ac yn denu diwydiant ac arloesedd newydd i'r ardal. Gwn fod y ddwy Lywodraeth bellach yn gweithio gyda'i gilydd i gyd-gynllunio'r broses ar gyfer dewis safleoedd porthladd rhydd a bydd gan y ddau lais cyfartal ym mhob penderfyniad drwy gydol y broses weithredu. Felly, er y gallai fod yn ddyddiau cynnar, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi rhagor o fanylion am y cam nesaf yn y broses benodol honno.
Mae'r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd buddsoddi'n rhagweithiol yn ein seilwaith grid, sydd, wrth gwrs, y tu allan i gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Felly, efallai y gwnaiff hefyd ddweud ychydig mwy wrthym am brosiect y grid yng Nghymru yn y dyfodol a sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.
Nawr, rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd cynllun gweithredu sgiliau sero net yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod datblygu'r cynllun yn gyfle unigryw i sicrhau pontio teg i sero net. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith sydd wedi ei wneud i ddatblygu'r cynllun hyd yn hyn fel y gallwn ni gael syniad o sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu marchnadoedd llafur lleol wrth symud ymlaen.
Yn olaf, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, a fydd yn bwysig wrth ddatblygu technolegau'r môr sy'n dod i'r amlwg. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud mwy wrthym am y cyllid a gaiff ei ddyrannu i gefnogi'r strategaeth benodol honno fel y gallwn fod yn siŵr bod ganddi'r adnoddau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae gan Gymru y ddaearyddiaeth i fod yn chwaraewr rhyngwladol yn y maes hwn, ond mae angen cefnogaeth arni gan ei Llywodraeth ar bob lefel, ac, ar y nodyn hwnnw, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gydag ef ar yr agenda bwysig hon? Diolch.