– Senedd Cymru am 3:34 pm ar 17 Mai 2022.
Eitem 5 sydd nesaf—datganiad gan Weinidog yr Economi: ynni morol alltraeth. Galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gweithgarwch ar hyn o bryd yn y sector morol alltraeth sy'n datblygu yng Nghymru ac amlinellu uchelgais Llywodraeth Cymru o ran sicrhau manteision economaidd gwirioneddol o'r sector newydd a chyffrous hwn. Fe fyddaf i'n canolbwyntio heddiw ar effaith bosibl y sector ar economïau rhanbarthol o ran darparu swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel yma yng Nghymru.
Mae ein cefnogaeth i dechnolegau sy'n datblygu fel ynni morol alltraeth wrth hanfod ein rhaglen lywodraethu. Mae hynny'n caniatáu i ni integreiddio ein gweithgarwch ar draws adrannau i gyflawni er mwyn pobl Cymru. Yn y tymor byr, gwynt ar y môr sy'n debygol o estyn y cyfle economaidd mwyaf. Er enghraifft, rydym ni eisoes yn rhoi cartref i dair fferm wynt RWE oddi ar arfordir y gogledd, sy'n cynnal 240 o swyddi gweithrediadau a chynnal a chadw o ansawdd uchel ym mhorthladd Mostyn. Mae'r swyddi hyn, yn agos at y man lle defnyddir ffermydd gwynt, i'w disgwyl oherwydd y datblygiadau hyn. Er hynny, rydym ni'n ceisio anelu yn uwch at geisio denu ystod ehangach o gyfleoedd cyflogaeth mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, integreiddio tyrbinau gwynt a gweithgareddau lleoli. Yn y de mae gennym ni bedwar prosiect profi ac arddangos yn cael eu hadolygu yn y môr Celtaidd. Yn ogystal â hynny, mae Blue Gem Wind wedi cael trwydded gwely môr gan Ystâd y Goron i ddatblygu fferm wynt alltraeth arnofiol oddi ar arfordir deheuol sir Benfro.
I roi'r holl weithgarwch hyn mewn persbectif, rydym ar hyn o bryd yn cynhyrchu 726 MW o wynt ar y môr yng Nghymru. Mae gennym hefyd lif prosiect credadwy i gynhyrchu dros 2.8 GW o wynt ar y môr o gymysgedd o dechnolegau erbyn 2030. Os byddwn yn ymestyn y llinell amser i 2035, yna gallai'r llif prosiectau gynyddu i 6.8 GW. Nid yw hyn yn cynnwys y 5 GW o ddatblygiadau gwynt ar y môr y mae Llywodraeth Iwerddon yn ceisio'u cyflwyno erbyn 2030, ac mae hyn yn debygol o godi i 30 GW dros y tymor hwy.
Mae hwn yn gyfle allforio y mae porthladdoedd yn y gogledd a'r de-orllewin mewn sefyllfa ddelfrydol i'w gefnogi a'i wasanaethu. Mae ein gwaith hyd yma yn awgrymu y gallai hyd at 1,400 o swyddi cyfwerth ag amser llawn gael eu cynnal gan 500 MW o brosiectau gwynt ar y môr arnofiol. Fodd bynnag, mae'r nifer yn is ar gyfer sector y tyrbinau â seiliau cadarn, lle mae'r dechnoleg a'r cadwyni cyflenwi yn fwy aeddfed.
Mae'r rhain yn ddatblygiadau cyffrous i Gymru. Fodd bynnag, rwy'n pryderu eu bod nhw ymhell o fod yn ddigon i ddatgloi'r buddsoddiad ar raddfa fawr sydd ei angen i adeiladu a thyfu ein seilwaith porthladd a grid. Mae angen i Lywodraeth y DU ac Ystad y Goron ddarparu gwelededd hirdymor yn y farchnad tu hwnt i 2050 er mwyn helpu i ddatgloi hyder buddsoddwyr. Rwy'n cydnabod bod cyflawni'r uchelgais hwn yn golygu y bydd angen i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat gydweithio'n agosach.
Yn bennaf oll, mae angen i ni ddatgloi'r potensial yn ein porthladdoedd. Mae cronfa fuddsoddi arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer porthladdoedd gwynt ar y môr arnofiol, sy'n werth £160 miliwn, yn fan cychwyn. Mae ein menter drawslywodraethol, rhaglen ynni'r môr, yn gweithio'n agos gyda'n pedwar prif weithredwr porthladdoedd a datblygwyr prosiectau i ddeall yn llawn yr hyn sydd ei angen ac, yn bwysig, ble y gallai Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth.
Rydym yn gwybod, er mwyn datgloi cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel ychwanegol, fod angen i ni sicrhau bod seilwaith porthladdoedd Cymru yn addas i'r diben ac yn cynnig ateb o'r dechrau i'r diwedd i ddatblygwyr. Gallai'r cytundeb yr wythnos diwethaf rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar borthladdoedd rhydd yng Nghymru gyfrannu'n werthfawr at ein gweledigaeth ehangach ar gyfer yr economi. Rwy'n disgwyl y bydd amrywiaeth o geisiadau uchelgeisiol ac arloesol o bob rhan o Gymru pan fyddwn yn cyhoeddi ein prosbectws. Rwy'n awyddus i annog cydweithio strategol rhwng porthladdoedd sy'n sicrhau'r cyfleoedd gorau sydd ar gael i'n heconomi.
Pwysigrwydd buddsoddi rhagweithiol yn ein seilwaith grid yw'r elfen gostus arall sydd y tu hwnt i'n cyfrifoldeb uniongyrchol ni. Dyna pam rydym yn arwain y prosiect grid Cymru yn y dyfodol i gyfrifo'r buddsoddiad grid strategol sydd ei angen i ddiwallu anghenion Cymru. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, y Grid Cenedlaethol ac Ofgem i geisio sicrhau bod seilwaith grid Cymru yn cael y buddsoddiad rhagweithiol sydd ei angen. Heb hyn, ni fyddwn yn gallu sicrhau'r manteision economaidd gorau o'r sector ac, ar yr un pryd, leihau'r effaith amgylcheddol.
Pan fydd gennym yr ysgogiadau angenrheidiol, byddwn yn buddsoddi i gefnogi ein busnesau i sicrhau eu potensial mwyaf. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar waith teg a datblygu'r gadwyn gyflenwi leol o fewn yr economi sylfaenol. Yn unol â hyn, rwyf wedi cyhoeddi buddsoddiadau o £0.5 miliwn yn ddiweddar yng nghyrff masnach Cymru a chyrff cysylltiedig y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys Ynni Môr Cymru, Clwstwr y Môr Celtaidd a'r Gynghrair Ynni ar y Môr. Mae gweithgarwch y gadwyn gyflenwi hefyd yn ganolog i'n cynllun gweithredu gweithgynhyrchu.
Mae sgiliau a datblygu'r gweithlu yn faes hollbwysig arall. Rydym eisoes wedi cyhoeddi ein bwriad i gyhoeddi cynllun gweithredu sgiliau sero net yn ddiweddarach eleni. Rydym o'r farn bod datblygu'r cynllun yn gyfle unigryw i sicrhau newid cyfiawn tuag at sero net. Er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo, bydd angen i ni hefyd greu partneriaethau cymdeithasol cryf, ac rydym yn parhau i weithio gydag undebau llafur i sicrhau ein bod yn cael y gorau i'n gweithlu. Bydd technolegau ynni'r môr o donnau a llanw sy'n datblygu yn gwneud gwahaniaeth hefyd. Byddan nhw'n atgyfnerthu cymwysterau Cymru fel canolfan ragoriaeth ac yn ein helpu i adeiladu economi gryfach a gwyrddach.
Mae ein cronfa ynni'r môr o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop wedi buddsoddi £105 miliwn ar draws 13 o brosiectau. Er enghraifft, yn ddiweddar fe wnaethom ni gyhoeddi buddsoddiad o £31 miliwn ym mhrosiect seilwaith Morlais Menter Môn oddi ar arfordir Ynys Môn. Pan ddywedaf 'ni', rwyf wrth gwrs yn golygu'r cyhoeddiad a wnaed gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog newid hinsawdd.
Byddwn hefyd yn edrych ar ein strategaeth arloesi newydd yn ddiweddarach eleni i atgyfnerthu'r pwyslais ar dechnolegau'r môr sy'n datblygu, gan gynnwys cynhyrchu hydrogen o ynni'r môr ar y môr. Rydym yn gwybod bod arloesi'n sbarduno gwelliant ac yn lleihau costau'n gyflym. Mae tyrbinau gwynt ar y môr ar seiliau cadarn yn llwyddiant oherwydd buddsoddiad cynnar sydd bellach yn darparu ynni adnewyddadwy cost-effeithiol a glân ar raddfa sylweddol. Dylid ailadrodd y llwyddiant hwn ar draws technolegau'r môr eraill ar y môr.
Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau eithriadol o uchel ar gyfer dyfodol y sector hwn a'i effeithiau economaidd gyda Chymru ac ar ei chyfer. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, dylanwadu arni a'i lobïo i sicrhau bod manteision economaidd i Gymru yn parhau i ddeillio o'r sector cyffrous a hanfodol hwn. Hyderaf y cawn ni gefnogaeth drawsbleidiol ar yr amcan eang hwnnw. Rwy'n awyddus i Gymru elwa'n economaidd ar dechnoleg y môr ar y môr ac i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol am genedlaethau lawer i ddod. Mae hyn yn rhan allweddol o greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae ynni'r môr ar y môr yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb arbennig ynddo, o gofio'r etholaeth yr wyf i'n ei chynrychioli a'r cyfleoedd y mae'r rhan benodol honno o arfordir Cymru yn eu cynnig i'r sector ac, yn wir, i economi Cymru. Yn wir, mae'r Gweinidog wedi sôn am y datblygiadau diweddaraf mewn cysylltiad â Blue Gem Wind yn sir Benfro, y gwnes i gyfarfod â nhw yn ddiweddar iawn, ac rwy'n falch o fod yn gweithio'n agos gyda nhw ar eu prosiectau arloesol. Wrth gwrs, mae angen i ni weld mwy o weithgarwch fel hyn ledled Cymru.
Yn ôl adroddiad 'Cyflwr y Sector 2021' Ynni Môr Cymru,
'Gyda'r lefel gywir o gefnogaeth a buddsoddiad i alluogi arloesedd parhaus, gallai Cymru ddod yn un o'r lleoedd gorau a hawsaf i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y môr.'
Rydym yn gwybod, pan fydd Llywodraethau'n buddsoddi mewn technolegau a datblygiadau ar y môr, ei bod yn gwneud y prosiectau hynny yn fwy deniadol i fuddsoddiad gan y sector preifat, ac felly efallai y gwnaiff y Gweinidog ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cyllid yn y maes hwn wrth symud ymlaen? Er enghraifft, a fydd cronfa benodol o gyllid ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru yn cael ei datblygu bellach?
Yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gyda rhanddeiliaid, maen nhw wedi ei gwneud yn glir i mi fod angen diwygiadau cynllunio morol hefyd i gyflawni prosiectau yn gynt fel y gall Cymru gynnal mantais gystadleuol. Yn benodol, byddai prosesau symlach ar gyfer cynllunio a chydsynio morol yn helpu i sicrhau y gellir cyflawni prosiectau yn nyfroedd Cymru cyn prosiectau llawer mwy mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, efallai y bydd y Gweinidog yn dweud wrthym pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r dirwedd cynllunio morol fel na fyddwn yn colli cyfle o ran prosiectau yma yng Nghymru.
Mae adroddiad cyflwr y sector Ynni Môr Cymru hefyd yn dweud wrthym
'O'r cwmnïau sydd wedi adeiladu neu sy'n adeiladu dyfeisiau yng Nghymru ar hyn o bryd... mae o leiaf 50% o'u cadwyn gyflenwi wedi dod o Gymru'.
Felly, rydym yn gwybod bod cyfleoedd enfawr i fusnesau yma yng Nghymru. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud ychydig mwy wrthym am y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau'r cyfleoedd gorau i fusnesau'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen.
Mae datganiad heddiw yn cyfeirio'n briodol at ein porthladdoedd a'u seilwaith, ac os ydym eisiau i Gymru fod yn chwaraewr byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy morol, yna mae angen i ni sicrhau bod ein porthladdoedd yn cael eu cefnogi'n well. Er mwyn darparu ynni'r môr ar y môr yn nyfroedd Cymru ac er mwyn i Gymru wireddu'r manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd ar gael, mae angen buddsoddi mewn seilwaith porthladdoedd ar frys i alluogi'r prosiectau sy'n datblygu i fod yma yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol y gallai diffyg cyfleusterau lleol addas yn y gorllewin ar hyn o bryd adael datblygwyr heb fawr o ddewis ond sicrhau technoleg o wledydd eraill fel Sbaen a Ffrainc, lle mae seilwaith porthladdoedd yn fwy datblygedig.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at gronfa porthladdoedd gwynt arnofiol Llywodraeth y DU, sy'n werth £160 miliwn, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad porthladdoedd yng Nghymru a sicrhau y bydd Cymru'n cael cymaint o arian â phosibl o'r cyllid penodol hwnnw.
Nawr, mae hyn yn fy arwain i at gysylltiadau rhynglywodraethol cryf, sy'n rhan annatod o nodi a sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posibl i'r prosiectau hynny. Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y cytundeb yr wythnos diwethaf gyda Llywodraeth y DU ar sefydlu polisi porthladdoedd rhydd yng Nghymru, ac rwy'n croesawu'r cytundeb a'r ymgysylltu rhynglywodraethol cadarnhaol sydd wedi digwydd i gyrraedd y pwynt hwn. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud y bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn cael effaith economaidd sylweddol ac y bydd yn creu swyddi ac yn denu diwydiant ac arloesedd newydd i'r ardal. Gwn fod y ddwy Lywodraeth bellach yn gweithio gyda'i gilydd i gyd-gynllunio'r broses ar gyfer dewis safleoedd porthladd rhydd a bydd gan y ddau lais cyfartal ym mhob penderfyniad drwy gydol y broses weithredu. Felly, er y gallai fod yn ddyddiau cynnar, efallai y gwnaiff y Gweinidog roi rhagor o fanylion am y cam nesaf yn y broses benodol honno.
Mae'r Gweinidog hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd buddsoddi'n rhagweithiol yn ein seilwaith grid, sydd, wrth gwrs, y tu allan i gylch gwaith Llywodraeth Cymru. Felly, efallai y gwnaiff hefyd ddweud ychydig mwy wrthym am brosiect y grid yng Nghymru yn y dyfodol a sut y mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo.
Nawr, rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd cynllun gweithredu sgiliau sero net yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae'r Gweinidog yn iawn i ddweud bod datblygu'r cynllun yn gyfle unigryw i sicrhau pontio teg i sero net. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith sydd wedi ei wneud i ddatblygu'r cynllun hyd yn hyn fel y gallwn ni gael syniad o sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu marchnadoedd llafur lleol wrth symud ymlaen.
Yn olaf, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, a fydd yn bwysig wrth ddatblygu technolegau'r môr sy'n dod i'r amlwg. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn dweud mwy wrthym am y cyllid a gaiff ei ddyrannu i gefnogi'r strategaeth benodol honno fel y gallwn fod yn siŵr bod ganddi'r adnoddau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Felly, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae gan Gymru y ddaearyddiaeth i fod yn chwaraewr rhyngwladol yn y maes hwn, ond mae angen cefnogaeth arni gan ei Llywodraeth ar bob lefel, ac, ar y nodyn hwnnw, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a dweud fy mod i'n edrych ymlaen at weithio'n adeiladol gydag ef ar yr agenda bwysig hon? Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei gyfres o gwestiynau. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb y pwyntiau mor gryno ag y gallaf. Byddaf yn dechrau gyda'r pwynt o wahaniaeth a'r strategaeth arloesi. Byddwn yn ymgynghori ar hynny, gobeithio cyn bo hir, felly byddwch chi'n gweld y strategaeth ddrafft, a bydd angen i ni wedyn ystyried y sylwadau a wnaed cyn i ni nodi'r math o ddewisiadau cyllid y bydd angen i ni eu gwneud ynghylch hynny. Ond, fel yr ydym ni wedi ei nodi o'r blaen yn y Siambr hon, mae ein strategaeth arloesi wedi ei chefnogi yn y gorffennol gan gronfeydd Ewropeaidd, cronfeydd strwythurol, nad ydyn nhw ar gael i ni mwyach, ac nid oes dim byd ar sail gyfatebol wedi eu disodli. Yr hyn y bydd angen i ni ei wneud, serch hynny, yw bod yn fwy llwyddiannus o ran cael arian o gronfa cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi'r DU sydd ar gael. Mae dros £20 biliwn i fod ar gael dros gyfnod o flynyddoedd, ac mewn cyfnodau blaenorol mae hwnnw wedi mynd o amgylch de-ddwyrain Lloegr i raddau helaeth, o amgylch y triongl euraid, a hefyd i un neu ddau o sefydliadau yn yr Alban yn llythrennol. Mae hynny'n fater i ni; bydd angen i ni gael mwy allan o'r cronfeydd cyllid hynny yn y DU i ddisodli'r arian na roddwyd i ni ar sail gyfatebol ar ôl i ni adael yr UE.
O ran gweddill eich pwyntiau a'ch cwestiynau, rwy'n credu bod ymgysylltu llawer mwy adeiladol i'w wneud nad yw'n cynnwys beirniadu Llywodraeth y DU yn uniongyrchol. Felly, rwy'n credu wrth i chi edrych ar y dewisiadau buddsoddi, bydd angen buddsoddiad preifat, i Lywodraeth Cymru gefnogi rhai dewisiadau buddsoddi hefyd, ond hefyd i Lywodraeth y DU. Er enghraifft, eich cwestiwn am y grid: wel, y rheswm pam yr ydym yn mynd drwy broses grid Cymru yn y dyfodol yw deall ble a pham y dylid gwneud dewisiadau buddsoddi strategol, a, hebddyn nhw, bydd hynny'n llesteirio ein gallu i ysgogi nid yn unig y pŵer ei hun ond y cyfle economaidd hefyd. Nid ydym yn dymuno i'r holl ffynhonnell lanio ar gyfer y môr Celtaidd, er enghraifft, fod ar arfordir Dyfnaint neu Wlad yr Haf, felly bydd angen i ni gael seilwaith grid sy'n addas i'r diben ar gyfer yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y dyfodol, ac mae hynny'n golygu buddsoddiad rhagweithiol. Dyma'r pwynt y mae fy nghyd-Aelod Julie James wedi'i wneud yn rheolaidd, nid yn unig mewn cyfarfodydd mewnol ond gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU. Heb i'r math hwnnw o ddewis gael ei wneud, bydd yn ein dal yn ôl.
Fodd bynnag, yn ogystal â hynny, bydd angen i ni weld rhai o'r dewisiadau buddsoddi hynny a'r llinell welediad y soniais amdani yn y datganiad am beth yw hyd llinell gyflenwi'r dyfodol, faint o drwyddedau a fydd ar gael. Bydd hynny wedyn yn golygu y bydd gan fuddsoddwyr ddigon o ffydd i wneud buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith porthladdoedd, oherwydd rydych chi'n iawn, mae porthladdoedd eraill mewn sefyllfa wahanol o ran maint yr hyn y bydd angen iddyn nhw ymdrin ag ef. Nawr, mae hynny'n gyfle gwirioneddol i borthladdoedd Cymru, i gael y buddsoddiad hwnnw wedi ei wneud ac yna i sicrhau y gall porthladdoedd dŵr dwfn sy'n agosach at y cyfleoedd yn y môr Celtaidd a môr y Gogledd fanteisio arnyn nhw mewn gwirionedd, ac rwyf i'n sicr yn dymuno gweld hynny'n digwydd—felly, llinell welediad gliriach gyda thymor hwy a fydd yn caniatáu i ddewisiadau buddsoddi preifat gael eu gwneud a hefyd yr achos dros fuddsoddiad y sector cyhoeddus pan fo angen hwnnw. A phan ddaw'n fater o roi ein harian ar ein gair o ran hynny, wrth gwrs, mae'r cyhoeddiad y cyfeiriais ato ar gyfer arian y rhaglenni Ewropeaidd y mae'n rhaid i ni gytuno arno—y £31 miliwn sy'n mynd i Morlais i sicrhau bod y seilwaith yno fel y gallan nhw lanio'r ynni—wel, mae hynny yn dangos yn wirioneddol ein bod ni wedi bod yn barod i wneud buddsoddiadau sylweddol gydag arian yr ydym yn ei reoli i sicrhau bod y cyfleoedd hynny'n cael eu gwireddu.
Bydd y pwynt pellach a wnes i ac y gwnaethoch chi ofyn amdano, am sgiliau ar gyfer y sector hefyd, yn bwysig iawn. Felly, mae hynny'n golygu gweithio gyda darparwyr, gweithio gyda'r sector, ac yna deall sut mae gennym lif prosiect ar gyfer caffael sgiliau. Nawr, yr anhawster yw, heb olwg gliriach ar y llif prosiect o ran ble fydd y gwaith yn mynd, bydd angen i ni ddeall sut a ble yr ydym yn ceisio rhoi sgiliau newydd i bobl i sicrhau eu bod yn barod i ymgymryd â'r swyddi pan fyddan nhw'n dod. Felly, bydd gallu cynllunio hynny'n llwyddiannus gyda'n gilydd yn bwysig iawn, ac rwy'n credu y bydd y cynllun sgiliau sero net y byddwn yn ei ddarparu yn ddiweddarach eleni yn ddefnyddiol wrth wneud hynny, ond bydd y sgyrsiau gyda'r sector ymlaen llaw hyd yn oed yn bwysicach.
O ran y dirwedd cynllunio morol, byddwch chi'n ymwybodol bod y Gweinidog cyfrifol yn y Siambr hefyd—rwy'n edrych ymlaen at ei hail ddatganiad o'r dydd—ond rydym wedi cyhoeddi'r cynllun morol cyntaf i Gymru yn ddiweddar, sy'n nodi polisi cynllunio. Ond rwy'n gwybod, yn ogystal â mantais sicrwydd, fod y Gweinidog Newid Hinsawdd bob amser yn barod i ystyried a allwn gael system well a fydd yn cyflawni'r cyfleoedd economaidd sydd ar gael a'r effaith y gallwn ei chael ar newid hinsawdd, ac ar yr un pryd y cydbwysedd â'r amgylchedd naturiol hefyd.
O ran yr hyn yr ydym wedi ei wneud i helpu'r gadwyn gyflenwi, nodais yn fy natganiad ein bod ni wedi buddsoddi tua £0.5 miliwn i gefnogi'r gadwyn gyflenwi. Dyna'r arian yr ydym wedi ei roi i Ynni Môr Cymru yr wyf i wedi ei gymeradwyo, ynghyd ag arian ar gyfer Cynghrair Ynni ar y Môr, sy'n ymdrin â'r gadwyn gyflenwi ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Felly, unwaith eto, ceir sgwrsio gweithredol rhwng ein swyddogion ynghylch sicrhau bod y cyfleoedd hynny yn rhai dilys, a bod y gadwyn gyflenwi yn lleol, gan gynnwys llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint, yn gallu manteisio ar hynny, a ninnau'n helpu i sicrhau bod busnesau'n barod ac yn gallu manteisio ar y cyfle.
Ac rwyf am orffen gyda dau bwynt, yn gyflym, Dirprwy Lywydd. Hynny yw, o ran y gronfa seilwaith porthladdoedd, mae'n gam ymlaen i'w groesawu, ond nid yw'r meini prawf cymhwysedd ar gael eto. Felly, ni allaf siarad llawer â chi am y meini prawf, nad ydyn nhw wedi eu cyhoeddi eto, ond rydym yn obeithiol y byddan nhw'n cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos yr haf hwn i ganiatáu i bobl wedyn ystyried gwneud cais, ac rydym yn awyddus iawn i borthladdoedd Cymru gael cyfran briodol o'r arian hwnnw a fydd ar gael.
Ac o ran porthladdoedd rhydd, mae'n beth da ein bod ni wedi dod i gytundeb ar delerau sy'n dderbyniol i'r ddwy Lywodraeth. Byddwn yn benderfynwyr ar y cyd, bydd cyllid cyfartal â chyllid porthladdoedd rhydd yn Lloegr, a bydd y prosbectws ar gyfer ceisiadau yn dod i'r amlwg dros yr haf. Ac rwy'n credu y bydd yn bwysig gweld ceisiadau sy'n ein helpu ni i gyflawni ein huchelgeisiau ac sy'n cyd-fynd â fframweithiau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y cyfleoedd ym maes ynni'r môr yn ogystal â gwaith teg. Ond bydd gen i fwy i'w ddweud am hynny pan fyddwn yn gallu darparu'r prosbectws ar y cyd mewn gwirionedd.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw.
Fel y gwyddom eisoes, mae Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae rhan flaenllaw yn fyd-eang o ran ynni'r môr, gyda 1,200km o arfordir a hyd at 6GW o gapasiti cynhyrchu drwy botensial ffrwd tonnau a llanw. Os ydym am gyrraedd sero net erbyn 2050, neu efallai cyn hynny, mae angen i ni gynyddu'n aruthrol yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog mewn llythyr at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith fod gwaith wedi bod ar y gweill ers 2019 i ysgogi cynhyrchu ynni'r llanw adnewyddadwy yn y moroedd o amgylch Cymru ac i helpu i gefnogi mathau eraill o gynhyrchu ynni'r môr. Fel y mae adroddiad diweddar ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru gan bwyllgor newid hinsawdd y Senedd yn ei gwneud yn glir, gan gyfeirio at dystiolaeth gan Jess Hooper, bu diffyg cymorth polisi ar gyfer datblygiadau amrediad llanw gan Lywodraeth y DU, a bod graddfa fawr rhai prosiectau yn golygu nad oedden nhw'n dod o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru, megis prosiect morlyn llanw'r gogledd. Yr hyn sy'n amlwg yw bod diffyg pwerau, diffyg cymorth polisi a diffyg adnoddau ariannol, heb sôn am gyfyngiadau difrifol ar y grid, bylchau mewn sgiliau a seilwaith porthladdoedd annigonol, yn ein dal yn ôl o ddifrif pan ddaw'n fater o wireddu ein potensial ynni'r môr yn llawn, ein gallu i ymateb i'r hinsawdd, a'n gallu i adeiladu economi wyrddach a thecach drwy hynny. Onid dyma'r amser i geisio mwy o bwerau dros brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr? Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa sgyrsiau y mae wedi eu cael gyda'i gyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru yn ogystal â Llywodraeth y DU, ynghylch datganoli pwerau ymhellach dros brosiectau ynni ar raddfa fawr, felly'r rhai sydd dros 350MW, a yw'n cytuno bod angen rhagor o bwerau arnom er mwyn gwireddu ein potensial ar gyfer datblygu ynni ar y môr?
Nawr, mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer y swyddi a fydd yn cael eu creu drwy ynni adnewyddadwy ar y môr, gydag Ynni Môr Cymru yn datgan y disgwylir i wynt ar y môr yn unig greu 3,000 o swyddi erbyn 2030, os manteisir ar y cyfle i symud yn gynnar. Dywedodd David Jones o Simply Blue Energy, oherwydd yr angen a ragwelir am swyddi yn y sector, sef, gyda llaw, 70,000 erbyn 2026 i gyflwyno'r rhaglen bresennol, fod ei gwmni wedi ymgysylltu ag ysgolion lleol ac addysg bellach, gan ganolbwyntio ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a datblygu sgiliau. Fel rhan o astudiaeth ddofn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ynni adnewyddadwy, cadarnhaodd y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022. Wel, wrth gwrs, rydym yng ngwanwyn 2022, ac, er fy mod i'n croesawu ymrwymiad parhaus y Llywodraeth i gyflawni'r cynllun hwnnw, a wnaiff y Gweinidog ddarparu amcangyfrif bras newydd ynghylch pryd y byddwn yn gweld y cynllun hwn? Oherwydd er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o ran sero net, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig fydd mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn yr economi werdd, a byddai gen i ddiddordeb pe bai'r Gweinidog yn darparu amserlenni hefyd ar gyfer gweithredu a thargedau'r Llywodraeth o ran creu swyddi gwyrdd yn y sector erbyn 2050 cyn gynted â phosibl.
Yn olaf, yn ôl ffigurau UKRI ei hun ar gyfer 2018 a 2019, gwariodd cynghorau ymchwil ac Innovate UK £5.4 biliwn ledled y DU, dim ond £131 miliwn o hwnnw a wariwyd yng Nghymru. Roedd hyn yn cyfateb i 2.4 y cant o'r cyfanswm a £42 y pen, y ffigur isaf o'r fath ymysg gwledydd a rhanbarthau tebyg y DU. Pe bai gwariant ymchwil yn cael ei ddatganoli a'i fwydo drwy fformiwla Barnett, yna gallai Llywodraeth Cymru ddisgwyl cael dyraniad sy'n cyfateb i tua 5.9 y cant o'r cyfanswm. O gofio bod Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y DU o ran cyllid ymchwil ac arloesi, hoffwn glywed a yw'r Gweinidog, neu yn hytrach sut y mae'n bwriadu cynyddu cyllid ymchwil ac arloesi yn sector ynni'r môr i'w helpu i ddatblygu a sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
Diolch am y cwestiynau. Rwy'n credu eu bod mewn tri neu bedwar categori eang. O ran ynni'r llanw, ydym, rydym yn credu bod gan Gymru gyfle gwirioneddol o hyd i fod ar flaen y gad o ran sector sy'n datblygu. Mae'n destun gofid a ddeellir yn dda o safbwynt y Llywodraeth hon nad yw morlyn Abertawe wedi cael cefnogaeth o'r blaen, gan gynnwys yn dilyn adolygiad gan gyn-Weinidog ynni Ceidwadol, a'i ddisgrifiodd fel prosiect 'dim difaru'. Mae angen o hyd i ni allu defnyddio prosiect llanw sylweddol i ddeall a dysgu o hynny am y defnydd pellach a'r fantais economaidd y gellir eu hennill yn ogystal â chynhyrchu ynni ohono, wrth gwrs. Mae gennym ddiddordeb yn y prosiect Blue Eden y mae cyngor Abertawe yn arwain y gwaith ymgysylltu â datblygwyr arno. Mae'n ymddangos bod ganddyn nhw fuddsoddwr preifat sy'n barod i wneud hynny. Yr her i ni yw maint pob prosiect, fel y gwnaethoch chi ei nodi. Rydym yn credu y dylai'r Llywodraeth hon gael rhagor o bwerau o ran cydsynio. Rydym hefyd wedi bod yn glir ynglŷn â'n barn y byddai'n well gennym gael rhagor o bwerau ar Ystad y Goron. Nid yw'r un o'r pethau hyn yn syndod ac mae'r Prif Weinidog, fi fy hun, ac yn wir y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi dweud hynny droeon.
Fodd bynnag, yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau'r cyfleoedd gorau'r sydd gennym o fewn ein pwerau presennol i wneud popeth a allwn mewn ffordd a fydd yn helpu i weld y prosiectau cyntaf hynny'n cael eu lansio, oherwydd, heb y prosiect graddfa sylweddol cyntaf, byddwn yn dal i fod yn sôn am botensial a beth os a beth allai fod. Rydym ni yn gwybod, o safbwynt ynni'r llanw, fod gennym ni lawer i fanteisio arno a llawer i edrych ymlaen ato. Yn sicr, rwy'n dymuno bod mewn sefyllfa lle rydym yn dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd gyda gwynt ar y tir a gwynt ar y môr sefydlog. Mae'r symudwyr cynnar yn bobl a fuddsoddodd yn gynnar ac yna fanteisio llawer ar ymchwil a datblygu ac, yn wir, gweithgynhyrchu. Byddai'n llawer gwell gen i pe bai Cymru wedyn yn allforio'r dechnoleg honno a gwybodaeth i rannau eraill o'r byd yn hytrach na phrynu cyfres aeddfed o dechnoleg y mae rhywun arall wedi ei datblygu a'r holl enillion economaidd a ddaw yn sgil hynny.
Rwy'n credu bod hynny'n dod yn ôl at eich pwynt am gyllid arloesi, y cyfeiriwyd ato mewn cwestiynau gyda Paul Davies hefyd. O gofio ein bod wedi colli arian gan ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—ac mae'n ddiamheuol fod gennym ni lai o arian nag y byddem ni wedi ei gael fel arall—ein her ni yw, o gofio y cawsom ni ffrwd cyllid a ddaeth o hynny i'r sector arloesi yma, sut yr ydym yn cael rhywbeth yn ei le yn llwyddiannus. Nawr, fel y dywedais, y peth cadarnhaol yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu buddsoddi dros £20 biliwn dros nifer o flynyddoedd mewn arloesi. Yr her yw, os aiff allan yn yr un modd ag y mae wedi ei wneud o'r blaen—ac rydych chi wedi tynnu sylw at hyn—y bydd yr arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio i raddau helaeth yn y triongl euraid. Ac ar ôl i chi ddechrau cael system sy'n ailadrodd ei hun, wel, mae'n anodd iawn torri i mewn iddi. A'r agwedd gadarnhaol ar hyn yw nad ydym yn dweud, 'Rhowch arian i Gymru oherwydd ein bod ni'n ei haeddu.' Rydym yn dweud, 'Rhowch arian i Gymru oherwydd bod ymchwil ragorol gennym ni yma hefyd, o fewn ein sectorau, o fewn ein haddysg uwch ac, yn wir, o fewn ein sector busnes a chymwysedig hefyd. Felly, mae enillion gwirioneddol i'w gwneud mewn gwirionedd a'u gwneud yn agos at le yr ydych chi'n mynd i'w defnyddio hefyd.' Felly, rwy'n credu bod llawer o fanteision gwirioneddol synhwyrol a rhesymegol wrth wneud hynny. Felly, bydd gwireddu rhai o'r addewidion a wnaed, nid yn unig y peth iawn i'w wneud o safbwynt gwleidyddiaeth, mewn gwirionedd, dyma'r peth iawn i'w wneud o safbwynt budd economaidd a mantais hefyd.
Ac yn sicr, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau'n awyddus iawn i fanteisio ar y ffaith bod Cymru'n symud yn gynnar yn y sectorau hyn hefyd. Rwy'n credu bod gennym ni lawer i'w gynnig a llawer i'w ennill, a bydd y cynllun sgiliau sero net yn rhan o hynny. Ond, fel yr wyf i wedi ei ddweud, rydym yn disgwyl cyhoeddi hynny eleni. Rwy'n awyddus iawn ein bod yn gwneud pethau'n iawn. Byddai'n llawer gwell gen i pe baem ni mewn sefyllfa i'w gyhoeddi neu i roi amser pendant ar gyfer pryd y bydd yn dod allan yn awr. Ni allaf wneud hynny, ond yr hyn y byddaf yn ei wneud yw dweud, cyn gynted ag y byddwn wedi gwneud pethau'n iawn, y byddwn yn ei gyhoeddi, a byddaf yn hapus i nodi nid yn unig iddo ef ond i Aelodau eraill pryd y disgwylir i'r cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi.
Rydym bron â chyrraedd diwedd yr amser a neilltuwyd i ni, felly gofynnaf i'r Aelodau, oherwydd bod pump sy'n dymuno siarad o hyd, i beidio â gwneud areithiau, os gwelwch yn dda, ond i ofyn eich cwestiynau'n unig, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gryno yn ei atebion hefyd, er mwyn i mi allu galw ar bawb. Huw Irranca-Davies.
Dirprwy Lywydd, roeddech chi'n edrych yn syth arnaf i wrth ddweud hynny, nawr. [Chwerthin.] Byddaf yn ceisio bod yn gryno iawn, felly. A gaf i groesawu naws a sylwedd y datganiad hwn heddiw, gan ei fod yn ymddangos ei fod yn dangos bod ymdrech gwirioneddol i fod yn adeiladol iawn ac i ymgysylltu rhwng Llywodraethau, ond mae'n rhaid i mi ddweud hefyd yng nghyd-destun y fframwaith polisi yma yng Nghymru? Mae'r rhestr o bethau, af i ddim drwyddyn nhw i gyd, yn sgrechian bod angen i unrhyw fuddsoddiad, boed drwy arloesi yn y dyfodol gan Lywodraeth y DU, boed drwy ddatblygiad porthladdoedd rhydd, neu'n fuddsoddiad mewn porthladdoedd, gael ei wneud law yn llaw â Llywodraeth Cymru, ond hefyd y cyllid rhanbarthol presennol, fframwaith buddsoddi, partneriaid yng Nghymru, y buddsoddiad mewn sgiliau, ac ati. A bydd hynny'n rhoi cyfleoedd i Gymru ac i'r DU gyrraedd eu targedau ynni adnewyddadwy. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am ei sicrwydd bod yr hyn yr ydym wedi ei glywed yn cael ei adlewyrchu yma heddiw yn y Senedd hon, yn y Senedd hon i Gymru, yn cael ei adlewyrchu yn yr un modd mewn trafodaeth â Gweinidogion, yn San Steffan ac ar lawr y Senedd? Ac yn olaf, a wnaiff hefyd sicrhau—
Rydych chi—[Anghlywadwy.]
—bod agweddau amgylcheddol hyn hefyd yn cael eu diogelu? Mae pob un o'r sefydliadau hynny eisiau gweld hyn yn digwydd, fel WWF, fel yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, fel y Gymdeithas Cadwraeth Forol, ond maen nhw eisiau, Gweinidog, sicrhau ei fod yn cael ei wneud hefyd i ddiogelu'r bywyd gwyllt a'r fioamrywiaeth yr ydym yn dymuno eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
O ran eich pwynt olaf, dyna yn sicr y safbwynt y mae Gweinidogion Cymru yn ei arddel. Rydym yn awyddus iawn i weld y manteision economaidd. Rydym yn awyddus iawn i weld y manteision o ran ynni adnewyddadwy, gan wybod y bydd hynny'n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd o'n cwmpas. Ond, mae creu unrhyw fath o system cynhyrchu pŵer yn sefyllfa lle mae angen i chi feddwl beth yw'r effaith ar yr amgylchedd. Ac felly, rydych chi'n gweld hynny mewn tyrbinau ynni â seiliau cadarn, fe welwch chi hynny gyda rhai sy'n arnofio, ac felly dyna pam rydym yn awyddus iawn yn y datganiad polisi cynllunio morol i fod yn glir ynglŷn â'r cydbwysedd a'r hyn yr ydym yn disgwyl i ddatblygwyr allu ei ddangos ynghylch sut y byddan nhw'n mynd ati i ddefnyddio ac yna datblygu'r pŵer hwnnw.
O ran eich pwynt cyntaf, rwy'n awyddus iawn i ni weld datblygiad sy'n digwydd o fewn cyd-destun lle rydym wedi cytuno ar fframweithiau a ffyrdd o weithio y cytunwyd arnyn nhw eisoes. Mae gennym ni ranbarthau economaidd yng Nghymru sy'n cyd-fynd ag ymdrechion blaenorol y Gweinidog Newid Hinsawdd pan oedd yn Weinidog llywodraeth leol, ac maen nhw'n rhanbarthau y cytunwyd arnyn nhw, ac yr ydym ni wedi cytuno â Llywodraeth y DU, yn y gronfa ffyniant gyffredin—. Er yr holl bwyntiau o wahaniaeth sydd gennym, llwyddom i gytuno mai rhanbarthau Cymru fydd y rhanbarthau hynny ac nid rhai gwahanol, i gynllunio a gweithio gyda'n gilydd yn economaidd. Mae hynny'n bwysig iawn. Felly, bydd gan lywodraeth leol a'r cytundebau twf yr un ôl troed â'r rhanbarthau hynny, felly nid oes angen i ni gynllunio strwythurau newydd ac amgen. Ac rwy'n disgwyl y bydd y fframwaith polisi y byddwn yn parhau i'w ddatblygu yn dilyn y modd hwnnw, a byddwn yn parhau i fod yn bartneriaid adeiladol. Byddwn yn sefyll dros fuddiannau gorau Cymru, ond mae'n rhaid i ni geisio gweithio gyda phobl fel ein man cychwyn ac o ran i ble yr ydym yn dymuno mynd.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Mae'n dda ein bod yn croesawu'r ysgogiad ynni adnewyddadwy newydd hwn sydd ar ddod, ond a ydych chi'n credu ei bod yn ddigon bod yr ymchwil ddofn ar ynni adnewyddadwy dim ond yn ymrwymo i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid allweddol i nodi meysydd adnoddau strategol morol erbyn 2023, ac i ddarparu canllawiau i gyfeirio at feysydd priodol ac amhriodol i'w datblygu? Nawr, rydych chi'n gwybod ein barn ni ar y meinciau hyn: rydym ni'n dymuno gweld Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei gallu deddfwriaethol i greu dyletswydd gyfreithiol i lunio cynllun datblygu morol cenedlaethol ac i'w adolygu'n rheolaidd. Ac mae hynny'n cael ei gefnogi gan Cyswllt Amgylchedd Cymru, a ddywedodd wrth ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Seilwaith nad yw canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau, fel y'u cynigiwyd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, yn ddigonol. Mae'n rhaid i gynllun gofodol statudol edrych ar draws sectorau naill ai ar lefel ranbarthol neu genedlaethol i fynd i'r afael ag effeithiau cronnol ar ein hecosystemau morol gan bob defnyddiwr morol. Ac a wnewch chi hefyd —? Roeddwn i'n gallu gweld y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cytuno mewn gwirionedd bod yn rhaid cael y gweithio agos hwn rhwng ei hadran hi a'ch adran chi, ond a wnewch chi sicrhau bod dull gofodol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio morol, i lywio'r gwaith o leoli'r datblygiadau pwysig hyn i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf ecolegol sensitif? Diolch.
Wel, dyna'r dull yr ydym yn ceisio'i fabwysiadu. Rydym yn ceisio sicrhau bod datblygiadau'n digwydd mewn ardaloedd priodol sy'n ystyried effaith amgylcheddol datblygiadau. Dyna'r union bwynt sydd wedi ei wneud mewn ymateb i Huw Irranca-Davies; dyma'r union ddull y bydd Gweinidogion Cymru yn ceisio'i fabwysiadu. Rydym ni'n credu ei bod yn gwbl bosibl defnyddio mwy o'r potensial hwn i gynhyrchu ynni'n gyfrifol ac i gael y budd economaidd, heb beryglu ein hamgylchedd.
Diolch am y datganiad. Croesawaf y pwyslais ar y potensial i borthladdoedd elwa ar y genhedlaeth nesaf o gynhyrchu ynni ar y môr. Rwyf wedi siarad â datblygwyr fel BP, er enghraifft, gan annog buddsoddi yng Nghaergybi fel canolfan gwynt ar y môr. Bydd y Gweinidog wedi fy nghlywed droeon yn annog dadl onest am borthladdoedd rhydd a'r angen, er enghraifft, i Lywodraeth y DU ariannu porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn briodol, ac rwy'n falch iawn bod trafodaethau wedi arwain at y tro pedol hwnnw, pan fydd Cymru nawr yn cael ei thrin ar delerau cyfartal â phorthladdoedd Lloegr, y bydd Llywodraethau Cymru a'r DU yr un mor benderfynol o roi statws porthladd rhydd yng Nghymru. Roedd hi'n werth dal ein tir rwy'n credu, yn hytrach na derbyn y cynnig eithaf gwael ac amwys a oedd ar y bwrdd yn wreiddiol. Rwyf wedi ysgrifennu at Gyngor Sir Ynys Môn heddiw ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r awdurdod lleol a phartneriaid eraill i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i Gaergybi.
Cwestiwn byr iawn am ffrwd llanw, serch hynny. Rwy'n croesawu'r £31 miliwn o gyllid Ewropeaidd a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu parth arddangos llif llanw Morlais. Mae'r seilwaith yn mynd rhagddo, ond beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod rhwystrau'n cael eu dileu ac y gellir defnyddio'r dechnoleg ffrwd llanw ei hun cyn gynted â phosibl?
Iawn, felly ynghylch eich pwynt olaf, mae'n dibynnu pa rwystrau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rydym newydd gael sgwrs am yr effaith amgylcheddol, ac mae'n dibynnu pa rwystrau eraill yr ydych yn cyfeirio atyn nhw, boed hynny cyn ei ddefnyddio neu, mewn gwirionedd, y gallu i weithgynhyrchu a chynhyrchu ar raddfa sylweddol, a lle mae'r diddordeb gan gwmnïau. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth o gwmnïau eisoes yn ystyried defnyddio tyrbinau llif llanw—cwmnïau o Gymru hefyd. Felly, rydym yn awyddus iawn i weld hynny'n symud ymlaen, oherwydd, fel y dywedais, rydym yn dymuno cynhyrchu—. Y rheswm rwy'n gwneud y datganiad hwn heddiw yw oherwydd bod hyn yn ymwneud â chanolbwyntio ar y budd economaidd o gynhyrchu pŵer mewn ffordd lawer glanach. Os yw'r Aelod am gael trafodaeth fwy penodol ar rwystrau posibl, byddwn yn falch o gael y drafodaeth honno gydag ef a phartneriaid yn Ynys Môn a'r cyffiniau, lle rwy'n gwybod bod llawer o botensial.
O ran eich pwynt am borthladdoedd rhydd, nid oedd Llywodraeth Cymru byth yn mynd i gytuno i broses lle'r oedd porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn cael eu hariannu i raddau llai na phorthladdoedd rhydd yn Lloegr. Roeddem yn glir iawn ynglŷn â hynny. Rydym wedi bod yn gyson yn ein gofyniad, ac rydym wedi llwyddo i negodi rhywbeth sy'n bodloni ein hamcanion. Hoffwn ddweud, Dirprwy Lywydd, fod nifer o bobl yn y Siambr heddiw wedi bod yn hyrwyddo eu porthladdoedd lleol eu hunain fel buddiolwyr unrhyw gystadleuaeth porthladdoedd rhydd. Rwy'n deall pam y bydd Aelodau'n gwneud hynny. Y cytundeb ar hyn o bryd yw nad yw Llywodraeth y DU ond yn barod i ariannu un porthladd rhydd yng Nghymru, ond mae cyfle posibl os gwneir mwy nag un achos cymhellol y gallai fod yn bosibl iddo ddigwydd. Ac mae achosion cryf wedi eu gwneud yn y gogledd a'r de-orllewin, ac eraill rwy'n siŵr. Ni allaf gytuno ar un o'r achosion hynny, o gofio y gallwn fod yn Weinidog sy'n gwneud penderfyniadau ar y cyd, ynghyd â Gweinidog y DU, ar gais llwyddiannus. Rwyf eisiau wneud y pwynt hwnnw'n gwrtais i'r holl bobl hynny a fydd yn parhau i gyflwyno eu hachos lleol.
Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn eich bod yn dymuno symud yn gynnar ar hyn, sy'n rhywbeth rwy'n ei groesawu, ac o ystyried fy etholaeth i, hoffwn i ganolbwyntio ar wynt ar y môr arnofiol. Felly, sut gallwn ni ddefnyddio'r busnesau bach a chanolig eu maint sydd eisoes ar gael, yn y ffordd orau? Busnesau sydd eisoes wedi bod yn gweithio yn y diwydiannau hydrocarbon a phetrogemegol dros y blynyddoedd, a defnyddio eu gwaith pontio o ynni'r gorffennol, a defnyddio'r technolegau a'r sgiliau sydd ganddyn nhw er budd y gadwyn gyflenwi i ddatblygu'r diwydiannau hyn oddi ar arfordir sir Benfro? Diolch.
Diolch. Credaf fod llawer o botensial i bobl sydd wedi bod yn ymwneud â diwydiannau blaenorol sy'n annhebygol o fod yn ddiwydiannau a fydd yn bodoli yn y dyfodol yn y tymor hwy. Pobl sydd â sgiliau peirianneg, ymchwil a datblygu, mae cyfleoedd yn bodoli. Pan feddyliwch chi am y potensial ar gyfer hydrogen a'r seilwaith y bydd ei angen, bydd angen inni gael buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU, yn ogystal â buddsoddiad gan y sector preifat, i gael y seilwaith yn iawn.
Mae dewisiadau i'w gwneud ynghylch pa ran—os o gwbl—sydd i hydrogen nad yw'n wyrdd o ran sicrhau bod ein seilwaith yn iawn, er mwyn sicrhau nad ydym yn esgeuluso'r cyfle i ddatblygu hydrogen gwyrdd drwy gynhyrchu ynni ar y môr. Mae cyfleoedd economaidd gwirioneddol yn hynny i gyd, ac nid yw'n syndod bod yna bobl sy'n ymwneud â diwydiannau petrogemegol y presennol sydd â diddordeb buddsoddi yn y maes hwn.
Pan feddyliwch chi am nifer y bobl sy'n gwneud cais am drwyddedau, neu sydd eisoes wedi llwyddo i gael un: mae Nwy Prydain, Centrica, BP a Shell ac eraill i gyd yn y fan yma oherwydd bod arnyn nhw eisiau parhau i fod yn gwmnïau cynhyrchu ynni. Felly, er nad ydym ni yma i hyrwyddo'r diwydiant olew a nwy ymhellach, bydd angen inni weithio gyda chwmnïau olew a nwy i roi ystyriaeth briodol i'r hyn y maen nhw yn barod i'w wneud i fuddsoddi yn nyfodol ynni adnewyddadwy, a bydd hynny'n sicr o gynnwys etholaeth yr Aelod.
Ac yn olaf, Darren Millar.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, byddwch yn ymwybodol, yn ogystal â'r math o ynni llanw y soniwyd amdano yn y de, y bu trafodaeth hefyd am y posibilrwydd o forlyn llanw yn y gogledd, a allai, wrth gwrs, greu hyd at 22,000 o swyddi, yn ôl Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer hyd at filiwn o gartrefi. Byddai hyn yn digwydd o Brestatyn i Landudno, gan gynnig rhai manteision amddiffyn rhag llifogydd hefyd.
Er mwyn sicrhau'r buddsoddiad yna gwerth £7 biliwn i gyflawni'r prosiect hwnnw, mae angen rhywfaint o gyllid sbarduno o tua £50 miliwn i gynnal rhai asesiadau o'r effaith amgylcheddol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cyfrannu at hynny a gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cyflawni'r hyn a allai, yn fy marn i, fod yn brosiect hynod drawsnewidiol i ddiwydiant ynni'r DU gyfan?
Wel, cytunaf fod potensial sylweddol yn y gogledd a'r cyffiniau i gynhyrchu ynni sylweddol yn llwyddiannus o'r llanw gydag elw economaidd sylweddol. Ein her yw sut yr ydym ni'n gweithio gyda'r sector preifat a Llywodraeth y DU i roi hynny ar waith, ac mae'n mynd yn ôl at y pwynt bod angen prosiect arddangos ar raddfa sylweddol i helpu i gyflawni potensial y technolegau hynny. Dyna pam mae siom nag adeiladwyd morlyn Abertawe.
Ond, byddwn yn parhau i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU ac eraill. Rydym ni wedi dangos—er enghraifft, yn y buddsoddiad yr ydym ni wedi'i wneud ym Morlais—ein bod yn barod i barhau i fuddsoddi, i weld y diwydiant hwnnw'n dwyn ffrwyth yn y potensial enfawr sydd yna yn y gogledd, y de a'r gorllewin. Felly, ni allaf roi sicrwydd ichi am gyllid yn y dyfodol, ac efallai y bydd £50 miliwn yn swnio fel cyllid cychwynnol i chi, ond gallaf ddweud wrthych chi, wrth reoli cyllidebau o fewn y Llywodraeth, nad oes £50 miliwn dros ben. Ond, mae arnom ni eisiau cael sgwrs adeiladol, fel y dywedais, gyda Llywodraeth y DU a chyda'r sector preifat, i wireddu'r potensial economaidd sylweddol i Gymru a thu hwnt.
Diolch i'r Gweinidog.