Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 17 Mai 2022.
Fel y gwyddom eisoes, mae Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae rhan flaenllaw yn fyd-eang o ran ynni'r môr, gyda 1,200km o arfordir a hyd at 6GW o gapasiti cynhyrchu drwy botensial ffrwd tonnau a llanw. Os ydym am gyrraedd sero net erbyn 2050, neu efallai cyn hynny, mae angen i ni gynyddu'n aruthrol yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog mewn llythyr at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith fod gwaith wedi bod ar y gweill ers 2019 i ysgogi cynhyrchu ynni'r llanw adnewyddadwy yn y moroedd o amgylch Cymru ac i helpu i gefnogi mathau eraill o gynhyrchu ynni'r môr. Fel y mae adroddiad diweddar ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru gan bwyllgor newid hinsawdd y Senedd yn ei gwneud yn glir, gan gyfeirio at dystiolaeth gan Jess Hooper, bu diffyg cymorth polisi ar gyfer datblygiadau amrediad llanw gan Lywodraeth y DU, a bod graddfa fawr rhai prosiectau yn golygu nad oedden nhw'n dod o fewn cymhwysedd Llywodraeth Cymru, megis prosiect morlyn llanw'r gogledd. Yr hyn sy'n amlwg yw bod diffyg pwerau, diffyg cymorth polisi a diffyg adnoddau ariannol, heb sôn am gyfyngiadau difrifol ar y grid, bylchau mewn sgiliau a seilwaith porthladdoedd annigonol, yn ein dal yn ôl o ddifrif pan ddaw'n fater o wireddu ein potensial ynni'r môr yn llawn, ein gallu i ymateb i'r hinsawdd, a'n gallu i adeiladu economi wyrddach a thecach drwy hynny. Onid dyma'r amser i geisio mwy o bwerau dros brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr? Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa sgyrsiau y mae wedi eu cael gyda'i gyd-Weinidogion yn Llywodraeth Cymru yn ogystal â Llywodraeth y DU, ynghylch datganoli pwerau ymhellach dros brosiectau ynni ar raddfa fawr, felly'r rhai sydd dros 350MW, a yw'n cytuno bod angen rhagor o bwerau arnom er mwyn gwireddu ein potensial ar gyfer datblygu ynni ar y môr?
Nawr, mae'r adroddiad hefyd yn nodi nifer y swyddi a fydd yn cael eu creu drwy ynni adnewyddadwy ar y môr, gydag Ynni Môr Cymru yn datgan y disgwylir i wynt ar y môr yn unig greu 3,000 o swyddi erbyn 2030, os manteisir ar y cyfle i symud yn gynnar. Dywedodd David Jones o Simply Blue Energy, oherwydd yr angen a ragwelir am swyddi yn y sector, sef, gyda llaw, 70,000 erbyn 2026 i gyflwyno'r rhaglen bresennol, fod ei gwmni wedi ymgysylltu ag ysgolion lleol ac addysg bellach, gan ganolbwyntio ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a datblygu sgiliau. Fel rhan o astudiaeth ddofn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar ynni adnewyddadwy, cadarnhaodd y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022. Wel, wrth gwrs, rydym yng ngwanwyn 2022, ac, er fy mod i'n croesawu ymrwymiad parhaus y Llywodraeth i gyflawni'r cynllun hwnnw, a wnaiff y Gweinidog ddarparu amcangyfrif bras newydd ynghylch pryd y byddwn yn gweld y cynllun hwn? Oherwydd er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau o ran sero net, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig fydd mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn yr economi werdd, a byddai gen i ddiddordeb pe bai'r Gweinidog yn darparu amserlenni hefyd ar gyfer gweithredu a thargedau'r Llywodraeth o ran creu swyddi gwyrdd yn y sector erbyn 2050 cyn gynted â phosibl.
Yn olaf, yn ôl ffigurau UKRI ei hun ar gyfer 2018 a 2019, gwariodd cynghorau ymchwil ac Innovate UK £5.4 biliwn ledled y DU, dim ond £131 miliwn o hwnnw a wariwyd yng Nghymru. Roedd hyn yn cyfateb i 2.4 y cant o'r cyfanswm a £42 y pen, y ffigur isaf o'r fath ymysg gwledydd a rhanbarthau tebyg y DU. Pe bai gwariant ymchwil yn cael ei ddatganoli a'i fwydo drwy fformiwla Barnett, yna gallai Llywodraeth Cymru ddisgwyl cael dyraniad sy'n cyfateb i tua 5.9 y cant o'r cyfanswm. O gofio bod Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y DU o ran cyllid ymchwil ac arloesi, hoffwn glywed a yw'r Gweinidog, neu yn hytrach sut y mae'n bwriadu cynyddu cyllid ymchwil ac arloesi yn sector ynni'r môr i'w helpu i ddatblygu a sicrhau canlyniadau cadarnhaol.