Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 17 Mai 2022.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae Aelod dynodedig Plaid Cymru Siân Gwenllian a minnau wedi bod yn gweithio'n agos i ddatblygu cwmpas, dull cyflawni a chylch gorchwyl drafft ar gyfer sicrhau ymrwymiad y cytundeb cydweithio i gomisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol ac adroddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21. Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fod yr Athro Elwen Evans QC wedi cytuno i arwain yr adolygiad hwn. Yr Athro Evans yw un o fargyfreithwyr troseddol mwyaf blaenllaw'r DU. Arweiniodd yr erlyniad yn achos llofruddiaeth April Jones a'r tîm amddiffyn yn achos trychineb pwll y Gleision. Ar ôl arwain yn ddiweddar yr adolygiad annibynnol o derfysgoedd Mayhill y llynedd, mae'r Athro Evans yn dod â phrofiad ac awdurdod sylweddol i'r adolygiad hwn, ac rwyf wrth fy modd ei bod wedi cytuno i'w arwain.
Mae ymchwiliadau adran 19 yn rhan annatod o fframwaith rheoli perygl llifogydd Cymru, gan orfodi awdurdodau lleol i asesu achosion llifogydd arwyddocaol a'u galluogi i ddarparu modelau data, gwella cyfundrefnau cynnal a chadw neu nodi gwaith neu fesurau lliniaru. Nid oes amserlen statudol ar gyfer cynnal na chwblhau ymchwiliadau adran 19, ond mae ein strategaeth llifogydd yn ei gwneud yn glir y dylent fod yn gymesur â graddfa'r llifogydd ac ystyried y ddealltwriaeth o'r materion neu'r math o fesur adfer sydd ei angen. Bydd adolygiad yr Athro Evans yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn adroddiadau adran 19 ac adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun o'r llifogydd yn ystod 2020-21, a'i effeithiau a sut y gallai hyn lywio blaenoriaethau ar gyfer rheoli'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar asesu a blaenoriaethu'r argymhellion a wneir yn y gwahanol adroddiadau a bydd yn nodi argymhellion ar gyfer gweithredu gan y sefydliadau perthnasol.
Yn benodol, bydd adolygiad yr Athro Evans yn ystyried canfyddiadau allweddol, pryderon cyffredin, yn nodi meysydd i'w gwella ac arfer da, llwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd. Bydd yr adolygiad yn adeiladu ar adolygiadau blaenorol, yn edrych ar adroddiadau perthnasol eraill, canfyddiadau pwyllgorau'r Senedd a pholisi cenedlaethol, fel strategaeth llifogydd Cymru, yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau ac yn sicrhau'r gwerth gorau am arian. Mae'r Aelod dynodedig a minnau wedi gofyn i'r Athro Evans ystyried y cymorth sydd ei angen i gynnal yr adolygiad a'r amserlenni ar gyfer cyflawni. Rydym yn mynd i ganiatáu digon o amser i'r Athro Evans gasglu ac asesu'r dystiolaeth sydd ar gael cyn iddi ddod i gasgliad ynghylch pa mor hir y bydd yr adolygiad yn ei gymryd, fel y gall gynnig casgliad ystyrlon a chadarn. Edrychaf ymlaen at dderbyn canfyddiadau'r adolygiad fel y gall yr Aelod dynodedig a minnau ystyried y ffordd orau o weithredu ar ei argymhellion.
Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd y pwysau ar ein seilwaith presennol yn cynyddu'n sylweddol. Gyda hynny mewn golwg, mae gwaith ar y gweill hefyd i ddatblygu amcan y cytundeb cydweithio arall mewn perthynas â llifogydd—yr ymrwymiad i wahodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i asesu sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd cenedlaethol o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith erbyn 2050. Yn ei lythyr cylch gwaith diweddar, gofynnodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i Dr David Clubb, cadeirydd y comisiwn seilwaith, fwrw ymlaen â'r ymrwymiad hwn. Mae rhaglen waith y comisiwn bellach yn cael ei chwblhau. Bydd yr Aelod dynodedig a minnau'n trafod hyn ymhellach er mwyn helpu i lywio cwmpas a phwyslais adolygiad y comisiwn. Mae proses penodiadau cyhoeddus i benodi aelodau comisiwn y comisiwn seilwaith bellach ar y gweill, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Ochr yn ochr â hyn, mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Martin Buckle, yn bwrw ymlaen â dau adolygiad ar wahân a ragnodir gan ein strategaeth llifogydd. Mae'r cyntaf, sydd bron â'i gwblhau, wedi archwilio'r adnoddau ariannol sydd ar gael i awdurdodau rheoli perygl llifogydd er mwyn helpu i sicrhau'r cyfleoedd gorau poisbl i sicrhau cyllid a buddsoddi i gefnogi'r gwaith o gyflawni mesurau llifogydd. Rwy'n rhagweld y cyflwynir adroddiad terfynol y pwyllgor ym mis Mehefin.
Wrth ystyried yr effeithiau dinistriol llifogydd ledled Cymru ar ddechrau 2020, cydnabu'r strategaeth llifogydd, er bod fframwaith deddfwriaethol cadarn yn bodoli, nad yw'r ddealltwriaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau gwahanol gyrff yn gwbl ddealladwy i'r cyhoedd. Mae'r ail adolygiad sy'n cael ei gynnal gan y pwyllgor llifogydd yn canolbwyntio ar asesu cwmpas y cyfrifoldebau presennol o ran rheoli perygl llifogydd a'r angen am newidiadau deddfwriaethol. Bydd y pwyllgor yn dechrau ymgynghoriad ar ei adroddiad drafft ym mis Mehefin, gyda'r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yr hydref hwn. Mae'r adolygiadau hyn yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i addasu i'r peryglon cynyddol sy'n gysylltiedig â llifogydd a dŵr sy'n deillio o newid hinsawdd. Byddant yn ategu ein rhaglenni buddsoddi, canllawiau cynllunio newydd ar lifogydd, mentrau i wella systemau draenio cynaliadwy ac atebion sy'n seiliedig ar natur, yn ogystal â'r diwygiadau deddfwriaethol yr ydym yn eu cyflwyno i wella diogelwch tipiau glo.
Mae effeithiau newid hinsawdd eisoes yn cael eu teimlo ar draws ein cymdeithas a'r amgylchedd naturiol, a gallwn ddisgwyl i risgiau gynyddu yn y degawdau i ddod, hyd yn oed wrth i ni weithio i leihau ein hallyriadau a chyfyngu ar gynhesu byd-eang pellach. Yn ogystal â'r perygl cynyddol o lifogydd, gallwn hefyd ddisgwyl mwy o effeithiau o stormydd, tywydd poeth, sychder a thanau gwyllt. Mae ein hymateb i berygl llifogydd yn rhan o'n dull cyfannol o feithrin cydnerthedd yn wyneb effeithiau pellgyrhaeddol newid hinsawdd ar draws pob cymuned a sector. Ar yr un pryd, rydym yn benderfynol o sicrhau tegwch, o ran sut y teimlir effeithiau newid hinsawdd ei hun ar draws cymdeithas a'r byd, ac o ran baich y mesurau a gymerwn i fynd i'r afael ag ef.
Mae'r Llywodraeth hon a Phlaid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd er budd gorau ein cymunedau i ddysgu o'r gorffennol, gwneud newidiadau lle mae'r rhain yn angenrheidiol a datblygu arferion da. Bydd canlyniad yr adolygiadau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn ein galluogi i wella'r ffordd yr ydym yn diogelu rhag llifogydd er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd i bawb yng Nghymru. Diolch.