Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch i'r Gweinidog eto am ei datganiad. Gwyddom fod cymunedau ledled Cymru o ddyffryn Conwy i Rondda Cynon Taf wedi ei gwneud hi'n gwbl glir, dros yr adegau y maen nhw wedi gweld achosion brawychus o lifogydd, bod arnyn nhw eisiau gweld ymchwiliadau annibynnol yn cael eu cynnal. Yn wir, roedd deiseb a ddechreuwyd yn 2020 yn galw am ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, ac er bod tua 6,000 o lofnodion, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cydweithredu. Yn yr un modd, mae galwadau am ymchwiliad i lifogydd yn nyffryn Conwy wedi'u rhwystro o'r blaen gan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Gallaf atgoffa'r Gweinidog o'm rhan yn codi pryderon am achosion o lifogydd yn nyffryn Conwy. O 2016, cawsom nifer o broblemau llifogydd difrifol, ac ar y pryd, roeddem yn galw am gynnal ymchwiliadau annibynnol. Roedd llawer o sôn bryd hynny ynghylch pa mor dda roedd adroddiadau adran 19 mewn gwirionedd yn helpu i roi gwybod i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'n cymunedau pam roedd y digwyddiadau hyn yn parhau i ddigwydd.
Credaf mai un o'r pethau yr ydych chi'n dal i'w weld yn ei gydnabod yn eich datganiad yw bod ymchwiliadau adran 19 yn rhan annatod o sut mae Cymru yn rheoli perygl llifogydd, ond nid oes amserlen statudol ar gyfer cynnal neu gwblhau ymchwiliadau adran 19. Gwn am lifogydd yn fy etholaeth i—. Credaf fod un digwyddiad wedi gweld tua 60 i 70 o gartrefi wedi'u distrywio'n fawr, a gall gymryd hyd at ddwy flynedd ar gyfer y canlyniadau, yr ymatebion i'r adrannau 19 hynny. Felly, rwy'n gobeithio, gan fod yr Athro Evans bellach yn adolygu adroddiadau adran 19, mai un o'r pethau sylfaenol a ddaw o hynny fydd bod hynny'n gyfnod rhy hir o lawer, ac y dylai'r pethau hyn ddigwydd mor gyflym â phosibl.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn llafar eu cefnogaeth i ymchwiliadau annibynnol yn nyffryn Conwy a'r Rhondda, felly bydd yn ddiddorol gwybod beth yw eu barn yn awr. Nid yw'r cytundeb cydweithio yn addo ymchwiliadau priodol, dim ond yr adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol. Er y byddwn yn falch pe gallech amlinellu cylch gorchwyl yr adolygiad, a allwch chi gadarnhau y bydd pob adroddiad adran 19 a gyhoeddir yn dilyn llifogydd yn ystod gaeaf 2021 yn rhan o'r adolygiad hwn? Rwy'n ymwybodol nad yw argymhellion yr adroddiad hwnnw wedi'u gweithredu a'u cyflawni'n llawn hyd yma. Ydych chi'n cytuno y dylai'r gwaith ar yr argymhellion presennol barhau tra bo'r adolygiad hwn yn cael ei gynnal?
Roeddwn, wrth gwrs, yn aelod o'r ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd mis Chwefror 2020, a nododd ein hadroddiad a gyhoeddwyd yn 2020 bryd hynny fod swm y cyllid refeniw yn golygu nad oedd yr awdurdodau yn agos at fod yn gwbl barod a chydnerth, ac mae hynny er gwaethaf y newidiadau diarwybod yn yr hinsawdd y gwyddom y byddant yn ein hwynebu, ond dydym ni ddim yn gwybod y graddau. Yn wir, mae awdurdodau'n cael yr un faint o gyllid refeniw waeth beth fo'r perygl o lifogydd yn eu hardal. Felly, byddwn yn dweud wrth y Gweinidog fod angen inni wneud hyn yn awr lle mae'n cyfrif. Er enghraifft, derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 4.54 y cant o'r cyllid refeniw cenedlaethol, er bod ganddo 21 y cant o'r perygl llifogydd dŵr wyneb cenedlaethol i'w reoli. Roedd y pwyllgor a minnau'n glir y dylai dull Llywodraeth Cymru o ddyrannu refeniw ar gyfer llifogydd ystyried y perygl llifogydd presennol a'r perygl o lifogydd yn y dyfodol mewn ardaloedd awdurdodau lleol.
Mae gennyf gwestiwn i chi, Gweinidog. Fis Chwefror diwethaf, fe wnaethoch chi egluro bod dyrannu refeniw blynyddoedd y dyfodol yn seiliedig ar berygl llifogydd a/neu erydu arfordirol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol yn rhywbeth y gallech ei ystyried. Ydych chi wedi penderfynu ystyried y perygl o lifogydd a ragwelir? Fel yr eglurodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn 2020, mae bellach yn bwysicach nag erioed i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid fod â threfniadau cadarn ar waith i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath. Ond rydych yn gwybod beth yw fy marn i: dylem fod yn llawer mwy rhagweithiol a pheidio â chanolbwyntio ar fesurau adweithiol.
Mae tua 2,298 eiddo yng Nghymru, Llywydd, mewn perygl mawr o lifogydd llanw, mae 9,652 eiddo mewn perygl mawr o lifogydd afon, ac mae 35,278 eiddo mewn perygl mawr o lifogydd oherwydd dŵr wyneb. Yn wir, mae dros 245,000 eiddo ar hyn o bryd, wrth i mi siarad yma heddiw, mewn perygl o lifogydd yng Nghymru. Gyda chymaint o risg i'w rheoli, credaf y byddai ein cenedl yn elwa o gael corff sydd gant y cant yn canolbwyntio ar liniaru llifogydd. Ac yn hytrach na disgwyl i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru, sydd â chyfrifoldebau amrywiol, arwain ar lifogydd—a, gadewch inni fod yn onest, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cwestiwn, nid oes ganddyn nhw ddigon o staff—ydych chi'n cytuno bod rhywfaint o resymeg bellach, Gweinidog, dros sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol? Diolch.