Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 17 Mai 2022.
Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf y prynhawn yma, Gweinidog. Rydw i, wrth gwrs, yn falch o glywed bod nifer yr achosion o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty'n gostwng hefyd. Ni fyddwn ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r rheoliad hwn y prynhawn yma, gan ein bod yn credu nad oes angen ymestyn y rheoliad a'r ddeddfwriaeth hon. Os ydych chi'n credu ei bod yn briodol gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gallai hyn fod wedi'i gyhoeddi drwy ganllawiau, yn hytrach nag ymestyn y rheoliad.