8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 17 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:31, 17 Mai 2022

Doeddwn i ddim yn bwriadu siarad, achos dwi, yn sicr, yn hapus i gefnogi'r rheoliad yma, ond dwi eisiau ymateb i'r sylw a wnaed gan lefarydd iechyd y Blaid Geidwadol. Dwi'n meddwl ei bod hi'n gwbl synhwyrol i ddefnyddio deddfwriaeth yn y modd cyfyngedig yma. Dŷn ni'n gweld o'n cwmpas ni, hyd yn oed yn y Siambr yma, sut mae defnydd o orchuddion wyneb yn newid ac yn esblygu ac yn organig, a phobl yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â gwisgo gorchuddion wyneb yn ddibynnol ar y sefyllfa o'u cwmpas nhw. Ond pan dŷn ni'n sôn am leoliadau iechyd a gofal, lle mae'r bobl fwyaf bregus yn mynd iddyn nhw, yn gorfod mynd iddyn nhw, mae'n gwneud perffaith synnwyr i fi ein bod ni'n defnyddio'r warchodaeth yma am y cyfnod pellach yma, ac am y rheswm, i mi, cwbl amlwg hwnnw, a dŷn ni'n hapus i gymeradwyo'r rheoliad yma.