Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 18 Mai 2022.
Fel rhywun a fu'n gweithio ar reng flaen ein GIG ers dros ddegawd, gallaf dystio'n bersonol i'r straen enfawr sydd wedi bod ar ein systemau iechyd a gofal. A phan gafodd feirws marwol ei daflu i mewn i'r pair, mae'n wyrth lwyr na wnaeth y system dorri. Ond i ymroddiad fy nghyn-gydweithwyr yn y GIG y mae'r diolch na ddigwyddodd hynny, nid oherwydd unrhyw arweiniad o'r brig.
Mae'r rhan fwyaf o'r problemau sy'n wynebu ein GIG yn deillio o ddiffyg arweiniad. Y rheswm syml pam na all fy etholwyr a'ch etholwyr chi weld eu meddyg teulu, cael deintydd GIG, neu pam eu bod wedi cael eu llawdriniaeth wedi'i chanslo sawl gwaith, yw bod Llywodraethau olynol wedi methu cynllunio gweithlu integredig priodol. Mae'r colegau brenhinol a'r cyrff proffesiynol wedi bod yn rhybuddio ers o leiaf ddegawd nad ydym yn hyfforddi nac yn recriwtio digon o staff rheng flaen. Ac mae Llywodraeth Cymru yn dda iawn am greu rheolwyr, biwrocratiaid a biwrocratiaeth, ond maent yn gwbl ddiwerth pan ddaw'n fater o greu meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae pethau wedi gwella rhywfaint—rwy'n rhoi clod lle mae'n ddyledus—a chyda chreu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mae gennym gynllun gweithlu erbyn hyn o leiaf, ond mae arnaf ofn ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Yr wythnos diwethaf, rhyddhaodd y Coleg Nyrsio Brenhinol eu hadroddiad ar lefelau staff nyrsio, ac roedd ei gynnwys yn sobreiddiol, oherwydd dylai'r nifer fawr o nyrsys sy'n gadael y proffesiwn fod yn destun pryder i bawb ohonom. Ceir o leiaf 1,719 o swyddi nyrsio gwag ar draws byrddau iechyd Cymru, a, thros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gwario tua £0.75 biliwn ar staff asiantaeth. Mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dangos sut rydym yn colli bron cymaint o staff ag yr ydym yn eu recriwtio, a'r llynedd 0.1 y cant yn unig o gynnydd a welwyd yn y gweithlu. Cawsom lond llaw o nyrsys y llynedd pan fo angen miloedd. Collwyd 6 y cant o'r gweithlu nyrsys ardal rhwng mis Mehefin 2020 a mis Mehefin 2021 ac mewn arolwg o'i aelodau, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn tynnu sylw at y ffaith bod traean o nyrsys yn ystyried gadael y proffesiwn yn gynnar, a'r cyfan oherwydd pwysau cronig ar y gweithlu. Rydym mewn perygl gwirioneddol o greu dolen adborth negyddol—pobl yn gadael gofal iechyd oherwydd y pwysau yn sgil prinder staff. Ac nid nyrsys yn unig sy'n teimlo'r pwysau, mae'n ymestyn diddiwedd ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae meddygon teulu hefyd yn gadael y proffesiwn wrth y dwsin. Mae meddygon teulu'n ymddeol yn gynnar ac mae rhai hyd yn oed yn ildio eu trwydded feddygol, sy'n golygu na ellir eu galw o'u hymddeoliad ar adegau o argyfwng.
Fe'n rhybuddiwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain bron 10 mlynedd yn ôl fod angen inni recriwtio tua 200 o feddygon teulu y flwyddyn yng Nghymru. Am y rhan fwyaf o'r blynyddoedd yn y cyfamser, roeddem yn lwcus pe baem yn llwyddo i recriwtio hanner hynny. Ac oherwydd na lwyddwyd i fynd i'r afael â'r problemau recriwtio, crëwyd problem cadw staff. Yn 2019, cyn y pandemig, roedd bron chwarter y practisau a arolygwyd yn ystyried dychwelyd eu contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol. Ers y pandemig, mae pethau wedi gwaethygu'n fawr. Mae meddygon teulu'n rhybuddio y gallai'r straen fod yn drech na'r system, fod y pwysau'n anghymell pobl yn llwyr rhag ymuno â'r proffesiwn, ac mae un o bob wyth o'r rhai sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu yn dweud nad ydynt yn bwriadu gweithio mewn practis cyffredinol ar ôl cymhwyso fel meddygon, yn ôl arolwg barn diweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain.
Mae hyn i gyd yn cael effaith ddinistriol ar gleifion, gyda llawer ohonynt yn mynd yn salach oherwydd diffyg ymyrraeth gynnar. Dywed fy etholwyr wrthyf y gall gymryd wythnosau iddynt gael apwyntiad gyda'u meddyg teulu ac ni all practisau ymdopi â nifer y bobl sydd ar eu rhestrau. A phan fydd cleifion yn llwyddo i lywio eu ffordd drwy ofal sylfaenol, maent yn wynebu'r un heriau mewn gofal eilaidd. Roedd amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth eisoes yn eithriadol cyn COVID ac maent wedi cynyddu'n aruthrol ers hynny. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod un o bob pump ohonom ar restr aros am driniaeth GIG, mae dwy ran o dair o filiwn o bobl yn aros blynyddoedd am driniaeth i roi diwedd ar eu poen a'u dioddefaint, ac mae 691,000 o ddinasyddion Cymru'n cael eu gadael mewn limbo heb wybod pryd y bydd eu triniaeth yn dechrau. Faint o'r un o bob pump fydd yn marw oherwydd na chawsant driniaeth canser yn ddigon buan? Faint fydd yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i weithio oherwydd bod eu cyflwr wedi dirywio i'r fath raddau fel na allant weithredu yn y gweithle?
Dyma'r effeithiau gwirioneddol y mae oedi cyn cael triniaeth yn eu cael ar fywydau pobl. Mae cleifion yn marw, yn mynd yn ddall ac yn colli symudedd oherwydd na ellir eu trin yn ddigon buan. Ac ni ellir eu trin yn ddigon cynnar am nad oes gennym staff. Ar hyn o bryd mae dros 3,000 o swyddi gwag yn ein GIG a llawer yn fy mwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yng ngogledd Cymru. Mae gennym 10,000 yn llai o welyau nag a oedd gennym ar ddechrau'r ganrif, ac eto rydym yn aml wedi torri lefelau staffio diogel dros y misoedd diwethaf. Yn ystod yr wythnosau diwethaf gwelsom adrannau damweiniau ac achosion brys gyda llai na thraean o'r staff gofynnol, ac os ydym am adfer yn ddigonol o'r pandemig a bod yn barod ar gyfer y nesaf, os byddwn yn ddigon anffodus i gael un arall, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hyfforddi, recriwtio a chadw staff.
Mae arnom angen cynlluniau gwirioneddol integredig ar gyfer y gweithlu sy'n rhagweld y galw ar y gwasanaeth yn y dyfodol, a gadewch inni beidio ag anghofio bod yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol wedi ein rhybuddio am yr heriau sy'n ein hwynebu wrth i'n demograffeg newid. Nid ydym yn cynllunio ar gyfer diwallu anghenion heddiw, heb sôn am ymateb i heriau'r dyfodol. Mae arnom angen diwygio ein polisïau recriwtio a chadw staff o'r bôn i'r brig, a byddai o gymorth pe bai gennym bolisïau cadw staff yn y lle cyntaf.
Mae angen inni wneud gweithio ac aros ym maes iechyd a gofal yn gynnig mwy deniadol. Mae angen inni annog mwy o Gymry ifanc i ddilyn gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal. Mae arnom angen cynllun gweithlu sy'n edrych ar y darlun cyfan, o addysgu gwyddoniaeth i gynllunio ar gyfer ymddeol a phopeth rhyngddynt. Mae'n bryd cydgysylltu'r cyfan, ac mae hynny'n galw am arweiniad. Mae'n galw am Lywodraeth Cymru a all gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rwy'n annog y Gweinidog i fanteisio ar y cyfle hwn yn awr a gwneud cynllunio'r gweithlu yn brif flaenoriaeth, neu fel arall bydd fy mag post a'ch un chithau'n parhau i orlifo â chwynion ynghylch methu cael apwyntiad wyneb yn wyneb â meddyg teulu, am fethu gweld deintydd GIG, neu am fethu cael pecyn gofal addas ar gyfer perthynas oedrannus. Ni allwn fforddio colli rhagor o staff y GIG, ac ni all fy etholwyr aros yn hwy am driniaeth. Diolch yn fawr.