Mercher, 18 Mai 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da. Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno trwy...
Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd yw'r eitem gyntaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Cefin Campbell.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reolaeth lefelau dŵr yng nghronfa ddŵr Llyn Clywedog, Powys? OQ58059
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod ffynonellau newydd o ynni rhad a glân i Gymru yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl? OQ58049
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar. Mae'r cwestiynau yma i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Natasha Asghar.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur? OQ58051
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau plannu coed Llywodraeth Cymru? OQ58043
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy yng Ngogledd Cymru? OQ58037
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd aer yng Ngorllewin Clwyd? OQ58045
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog adeiladu tai newydd yn etholaeth Mynwy? OQ58063
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol ar gyfer prosiectau ynni'r llanw yng Nghymru? OQ58061
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf prynhawn yma gan Sioned Williams.
1. Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? OQ58054
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau’r Llywodraeth i gefnogi plant a phobl ifanc dyslecsic yn etholaeth Arfon? OQ58053
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch sut y gallai'r system addysg fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau? OQ58041
4. Pa ymgysylltiad y mae'r Gweinidog wedi'i gael â Choleg Pen-y-bont ar gynlluniau i ddatblygu'r campws? OQ58034
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phrinderau yn y proffesiwn addysgu? OQ58052
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro i ba raddau y caiff Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ei gweithredu? OQ58056
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM? OQ58062
8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i ganfod ac asesu anghenion addysgol arbennig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58055
Y cwestiynau amserol fydd nesaf. Mae'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma i'w ofyn gan James Evans ac i'w ateb gan Weinidog yr Economi.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brynu Fferm Gilestone yn Nhalybont-ar-Wysg? TQ622
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bederfyniad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) fod adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd wedi ei nodi fel gwasanaeth sydd angen gwelliant sylweddol? TQ624
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o unrhyw oblygiadau i Gymru o'r cyhoeddiad diweddar gan Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch y bwriad i ddeddfu i newid telerau protocol Gogledd...
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r un cyntaf gan Vikki Howells.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig....
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Pleidleisiwn yn gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar iechyd menywod. Galwaf am bleidlais a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a...
Symudwn yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Gareth Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag ysgolion yn Rhondda ynghylch iechyd a lles dysgwyr ifanc?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia