Part of the debate – Senedd Cymru am 6:58 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch yn fawr. Rwy'n ddiolchgar am gyfle'r ddadl fer hon heddiw i drafod mater pwysig mynediad at wasanaethau iechyd. Nawr, o dan Lywodraeth Lafur yma yng Nghymru mae mwy o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill bellach yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag erioed o'r blaen: dros 104,000 o bobl ac 89,000 o staff cyfwerth ag amser llawn—3,600 yn fwy o staff nag ar yr un pryd y llynedd. Ac ymhell o fod yn gwbl ddiwerth, ers 2016 mae nifer y staff meddygol a deintyddol wedi cynyddu 21 y cant. Mae nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd wedi cynyddu 9 y cant, mae'r staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol wedi cynyddu 24 y cant, a staff ambiwlans wedi cynyddu 39 y cant. Rydym yn hyfforddi 69 y cant yn fwy o nyrsys nag yr oeddem yn ei wneud cyn 2016, a'r wythnos diwethaf, rwy'n gobeithio eich bod wedi nodi inni recriwtio 400 o nyrsys rhyngwladol newydd.
Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon, ac nid niferoedd yn unig sy'n mynd i warantu llwyddiant. Mae'n ymwneud â sut y mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cydweithio ac yn defnyddio eu sgiliau, gan gynnwys eu sgiliau Cymraeg, yn y ffordd fwyaf effeithiol i gleifion. Felly, mae gennym ymrwymiad rhaglen lywodraethu i sicrhau gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n adeiladu ar ymrwymiadau blaenorol. Mae gweithgaredd yn canolbwyntio ar y model gofal sylfaenol i Gymru, sy'n ymwneud â phobl yn cael y gofal cywir gan y gweithiwr proffesiynol neu'r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion penodol, yn eu cartrefi neu mor agos i'w cartrefi â phosibl.
Nawr, mae hyn yn golygu y bydd mwy a mwy o bobl ond yn teithio i ysbytai ar gyfer y gwasanaethau na ddylid eu darparu yn unman ond y lleoliadau hynny. Wrth i raglen y fframwaith clinigol cenedlaethol yrru llwybrau clinigol cenedlaethol, byddwn yn gwneud cynnydd cyflymach ar ailgydbwyso gwasanaethau, gan ariannu'r gweithlu i ffwrdd oddi wrth salwch ac ysbytai a thuag at iechyd a gofal yn nes at adref.
Nawr, yn yr amser sydd gennyf heddiw, ni allaf wneud cyfiawnder â'r ystod enfawr o bolisïau a gweithgaredd sy'n digwydd drwy ein rhaglenni cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol, ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng ac ar gyfer iechyd meddwl i gefnogi ailgydbwyso'r system, felly rwy'n mynd i dynnu sylw at y camau i wella mynediad at y gwasanaethau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu mynychu ac yn fwyaf cyfarwydd â hwy, sef ein gwasanaethau sylfaenol a chymunedol.
Er mwyn gwella mynediad at feddygon teulu, rydym wedi cyflwyno newid drwy'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol i gael gwared ar y tagfeydd ar ddechrau'r dydd. Rwyf wedi darparu cyllid ychwanegol o £4 miliwn bob blwyddyn dros y tair blynedd nesaf i adeiladu capasiti ym mhractisau meddygon teulu. Mae'r model gofal sylfaenol yn ymwneud â chynyddu'r ystod o wasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol sydd ar gael yn y gymuned. Nid meddygon teulu a nyrsys practis yw'r gweithwyr iechyd proffesiynol cywir bob amser ar gyfer anghenion rhywun, ac fel ffisiotherapydd, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn o hynny. Er enghraifft, optometrydd yw'r person cywir i drin problemau llygaid fel llygad coch; mae fferyllwyr cymunedol yn cynnig ystod gynyddol o wasanaethau, o dwymyn y gwair i ddulliau atal cenhedlu brys; mae cwyr clust sy'n achosi nam ar y clyw yn broblem gyffredin, ac rydym yn cynyddu argaeledd awdiolegwyr cymunedol.
Rwy'n ymwybodol iawn mai un o'r meysydd sy'n peri'r pryder mwyaf i bobl o ran eu hygyrchedd yw deintyddion. Mae rheoli gofynion mesurau rheoli heintiau COVID wedi golygu bod llawer llai o gapasiti mewn practisau deintyddol. Diwygio'r contract deintyddol yw ein prif ddull polisi o sicrhau hygyrchedd gwell, a byddwn yn creu mwy o gapasiti i gleifion newydd drwy symud oddi wrth yr hen drefn o archwiliadau chwe misol i bawb i wasanaeth sy'n seiliedig ar angen unigolion ac atal. I lawer o bobl y mae eu hiechyd y geg yn dda, dim ond unwaith bob dwy flynedd y mae angen iddynt gael archwiliad. Mae angen inni gyfathrebu hyn yn well i'r cyhoedd, ac rwy'n croesawu cefnogaeth yr Aelodau i gyfleu'r neges honno.
Y mis diwethaf, lansiais ein chwe nod newydd ar gyfer rhaglen gofal brys a gofal mewn argyfwng, ac rwy'n cefnogi hyn gyda buddsoddiad o £25 miliwn. Mae'r wyth canolfan gofal sylfaenol brys newydd ledled Cymru yn ddatblygiadau allweddol sy'n hwyluso gwell mynediad, gyda dwy arall yn agor cyn bo hir. Ac mae ein gwasanaeth ffôn 111 bellach ar gael ledled Cymru. Mae '111, pwyso 2', yn cyfeirio pobl at gymorth lles iechyd meddwl. Hefyd ym mis Ebrill, cyhoeddais ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal ysbyty wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros. Nawr, yn bwysig, mae'r cynllun hefyd yn arwydd o drawsnewid gwasanaethau yn y gymuned i gynnig gwahanol opsiynau a luniwyd i gynorthwyo unigolyn i wneud yr hyn sy'n bwysig iddynt hwy. Rydym yn symud yn raddol i gam newydd o'r model gofal sylfaenol. Mae'r cam hwn yn ymwneud â chynyddu gwelededd a datblygu gwasanaethau cymunedol, lle mae ffocws yr arweinyddiaeth a'r buddsoddiad ar iechyd, annibyniaeth ac integreiddio iechyd a gofal.
Mae papur diweddar gan Gronfa'r Brenin ar yr hyn y gallem ei ddysgu o'r pandemig yn nodi bod adferiad llwyddiannus a chynaliadwy yn bosibl os oes buddsoddiad yng nghadernid cymunedau a dulliau a arweinir gan y gymuned, gydag unigolion a chymunedau yn yr iechyd gorau posibl i ymdopi â'r hyn a ddaw nesaf.