Ynni Rhad a Glân

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 1:37, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn, Laura. Rydym yn defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni i ddatblygu system ynni lân, glyfar a hyblyg ar gyfer y dyfodol, gyda chynhyrchu ynni adnewyddadwy wrth ei gwraidd. Roedd strategaeth ynni Llywodraeth y DU yn gyfle a gollwyd yn ein barn ni i bennu llwybr credadwy ar gyfer cynyddu cynhyrchiant pob math o ynni adnewyddadwy gan gefnogi defnyddwyr drwy'r argyfwng costau byw yr ydym yn ei wynebu ar hyn o bryd.