Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 18 Mai 2022.
Wel, rwy'n credu mai effaith gyfunol diwygiadau'r cwricwlwm a'r diwygiadau ADY yw—. Bydd y ffocws ar lythrennedd yn sbarduno gwelliant yn y maes hwn, a bydd yr hyfforddiant sydd ar gael drwy'r rhaglen dysgu proffesiynol yr ydym wedi bod yn buddsoddi ynddi yn paratoi ein gweithlu addysgu yn benodol i ganfod dyslecsia a chefnogi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol. Wrth gwrs, ceir amrywiaeth o anghenion yn gysylltiedig â dyslecsia ac anghenion cymharol ysgafn fydd gan rai, a bydd angen ymyrraeth fwy sylweddol ar eraill. Ond ethos y cwricwlwm newydd, yn ogystal ag ethos y diwygiadau ADY, yw sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu cyn belled ag y bo modd mewn lleoliad prif ffrwd ym mywyd yr ysgol ac yn yr ystafell ddosbarth. Ac felly, credaf mai effaith gyfunol y ddau ddiwygiad fydd ffocws o'r newydd ar y maes hwn.