Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:33, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddoch, ymhen pedair blynedd yn unig, ni fydd cymwysterau BTEC ar gael i'n dysgwyr yng Nghymru. Mae llawer o weithwyr proffesiynol mewn colegau yr ymwelais â hwy ledled Cymru yn pryderu fwyfwy nad oes unrhyw beth wedi'i gyhoeddi i gymryd eu lle. Gyda chyfnod mor fyr i fynd, ni chafwyd unrhyw gyfarwyddyd polisi clir gan y Llywodraeth hon yng Nghymru ac yn anffodus, ymateb Cymwysterau Cymru oedd 'Peidiwch â chynhyrfu.' Weinidog, mae angen i'n haddysgwyr wybod beth yw'r cynllun a byddent yn falch iawn pe gallech ein goleuo heddiw beth yw'r cynllun hwnnw.