Plant a Phobl Ifanc Dyslecsic

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:29, 18 Mai 2022

Rydyn ni wrthi'n datblygu sgiliau'r gweithlu addysg ac wedi darparu adnoddau a chanllawiau dwyieithog ychwanegol er mwyn helpu ymarferwyr i gyflawni anghenion addysgol dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol yn well, gan gynnwys dyslecsia yn hynny. Rydyn ni hefyd yn ceisio sefydlu'r hawl i brawf sgrinio dyslecsia newydd i bob oed yng Nghymru.