Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:38, 18 Mai 2022

Diolch, Llywydd. Weinidog, ar 11 Mai, fe wnes i a Jayne Bryant gyfarfod ag aelodau NEU Cymru ar gyfer sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynglŷn ag effaith pwysau gwaith ar iechyd meddwl a lles staff mewn ysgolion. Canfu arolwg diweddar o’u haelodau fod 95 y cant o addysgwyr yn gweithio mwy na’r oriau yn eu cytundeb, a bod 44 y cant o addysgwyr yn ystyried o ddifrif gadael y sector addysg. Canfu’r arolwg hefyd fod 79 y cant o'r ymatebwyr yn ansicr bod ganddynt gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a dywedodd 62 y cant nad yw eu cyflogwr yn gwneud unrhyw beth i leihau eu llwyth gwaith.

Er bod peth cefnogaeth wedi dod gan y Llywodraeth o ran cefnogi iechyd a lles staff, y neges glir a gefais ganddynt oedd nad oedd hyn yn ddigonol, ac mai'r peth pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yw lleihau llwyth gwaith. Oes unrhyw gynlluniau ar waith i gefnogi’n bellach iechyd meddwl athrawon a staff mewn ysgolion drwy leihau llwyth gwaith, a sicrhau nad ydym yn colli mwy o athrawon?