Y Bwlch Sgiliau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 2:44, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch ichi am yr adloniant a ddarparwyd gennych ddoe wrth ichi guro'r drwm gyda'r Prif Weinidog am eich rhaglen gerddorol. Byddaf yn gofyn cwestiwn ichi am hynny'n fuan iawn yn y dyfodol. Ond am y tro, Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd gan academyddion am gynlluniau i ddisodli ffiseg, cemeg a bioleg fel pynciau ar wahân a chael un dyfarniad gwyddoniaeth integredig yn eu lle. Rhybuddiodd un academydd, ac rwy'n dyfynnu, y gallai 'gorsymleiddio' gwyddoniaeth ar lefel TGAU olygu bod Cymru

'yn methu meithrin gwyddonwyr gwych yn y dyfodol', ac ehangu'r bwlch sgiliau presennol mewn pynciau STEM. Weinidog, rwyf wedi siarad â nifer o fyfyrwyr ar wahanol lefelau ac nid ydynt am i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno. Maent am gael yr opsiwn o allu cael un wyddoniaeth i'w hastudio, megis bioleg, cemeg neu ffiseg, beth bynnag fo'u diddordeb. Mae'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg wedi galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn Lloegr drwy ymgorffori sgiliau peirianneg a thechnoleg mewn addysg gynradd. Felly, Weinidog, fy nghwestiwn i yw: pa sicrwydd y gallwch ei roi nad yw newidiadau i addysgu gwyddoniaeth yn gyfystyr â gorsymleiddio, beth rydych chi'n ei ddweud wrth y myfyrwyr sydd am arbenigo mewn un wyddoniaeth yn unig, ac a wnewch chi ystyried y cynnig i ymgorffori sgiliau peirianneg a thechnoleg mewn addysg gynradd? Diolch.