2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phrinderau yn y proffesiwn addysgu? OQ58052
Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaethau addysg gychwynnol i athrawon a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod recriwtio i raglenni addysg gychwynnol i athrawon yn bodloni'r lefelau a ddymunir ar gyfer gweithlu'r dyfodol.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r rhai sy'n gweithio mewn ysgolion sy'n poeni ynglŷn â bodloni disgwyliadau ar gyfer atebolrwydd mewn perthynas ag Estyn, a chyflwyno'r cwricwlwm yng Nghymru wrth ymrafael â materion capasiti. Gwn fod pryder gwirioneddol ynghylch y prinder staff sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig athrawon gwyddoniaeth, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Felly, a gaf fi ofyn i chi: beth yw eich cynlluniau hirdymor i wella recriwtio a chadw staff yn yr arbenigeddau hyn, yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael ar unwaith i ysgolion sy'n cael trafferth yn y tymor byr? Diolch.
Wel, diolch am hynny, a chredaf ei fod yn bwynt cwbl bwysig, fel y clywsom eisoes heddiw. Gobeithio y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod—byddaf yn cyhoeddi cynllun 10 mlynedd yn fuan iawn a fydd yn nodi'r camau y bwriadwn eu cymryd mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau eraill i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol, ond yn benodol hefyd yn y meysydd a nododd yn ei chwestiwn fel rhai lle y ceir pwysau penodol. Credaf ein bod wedi gosod sylfeini eithaf cadarn dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, sy'n darparu hyd at £5,000 i fyfyrwyr hyfforddi i addysgu pynciau uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chymhellion ychwanegol ar gael i'r myfyrwyr hynny os ydynt yn addysgu mewn meysydd lle y ceir prinder penodol, fel y rhai y soniodd amdanynt yn ei chwestiwn. Ond hefyd rwy'n credu bod y cynlluniau sy'n seiliedig ar gyflogaeth a'r cynlluniau trosi o'r cynradd i'r uwchradd oll yn ychwanegu at allu ein gweithlu addysgu i addysgu'r pynciau hollbwysig hyn yn Gymraeg. Rwyf hefyd wedi gwahodd ysgolion i wneud cais am grantiau i gefnogi meithrin gallu mewn rhai rhannau o'r gweithlu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y flwyddyn ariannol hon, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n arwain at ddefnyddio ffyrdd arloesol yn yr ysgolion sydd dan bwysau arbennig i edrych ar ffyrdd creadigol o ymateb i'r heriau. Rydym hefyd wedi gosod targed i'n partneriaethau AGA i sicrhau bod 30 y cant o'r rhai sy'n dechrau cyrsiau yn fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, a bydd hwnnw'n darged a gaiff ei gynyddu'n raddol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod ein bod yn gweithredu, hyd yn oed heb fudd cynllun newydd, ond byddaf yn cyhoeddi cynllun newydd cyn bo hir ar gyfer ymgynghori yn ei gylch, ac edrychaf ymlaen at ei barn ar hwnnw.
Weinidog, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y rhai sy'n cymhwyso ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon, AGA, yng Nghymru yn dangos bod nifer y myfyrwyr sy'n cwblhau eu cwrs ym mhrifysgolion Cymru neu'r Brifysgol Agored wedi gostwng o 1,740 o fyfyrwyr yn 2010-11 i 1,030 yn 2019-20, gostyngiad o tua 41 y cant. Gyda'r gostyngiad hwnnw dros y cyfnod o 10 mlynedd, mae'r gronfa o dalent sydd ar gael i ysgolion recriwtio ohoni wedi crebachu. Felly, beth sydd wedi mynd o'i le, a beth sy'n cael ei wneud i'w unioni?
Mae'r ffigurau diweddaraf a welais yn dangos bod derbyniadau ar gyfer pynciau â blaenoriaeth uwchradd, sef y maes sy'n peri pryder allweddol, wedi cynyddu 8 y cant, a bod derbyniadau i hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y Gymraeg fel iaith, wedi cynyddu 45 y cant. Felly, dyna'r realiti ar lawr gwlad. Ond mewn gwirionedd, mae'r mater yn llawer mwy na'r ffigurau ar gyfer blwyddyn neu ddwy; mae'n angen strategol i gynyddu'r cyflenwad o bobl sy'n dod i mewn i'r proffesiwn sy'n gallu addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg, ond hefyd i sicrhau bod gennym gynorthwywyr addysgu sy'n gallu gwneud y gwaith pwysig a wnânt hwythau hefyd drwy gyfrwng y Gymraeg. A chredaf fod angen creadigrwydd mawr a chredaf fod angen gwneud pethau'n wahanol—chwilio am gymhellion ariannol; ei gwneud yn haws i bobl hyfforddi, trosi o'r gwaith y gallent fod yn ei wneud eisoes; hefyd edrych ar roi gwybod i bobl ifanc wrth iddynt fynd drwy'r ysgol beth yw'r opsiynau iddynt addysgu yn Gymraeg, a marchnata, os mynnwch, addysgu yn Gymraeg a thrwy'r Gymraeg fel opsiwn. Felly, edrychaf ymlaen at sylwadau'r Aelod ar y cynllun pan gaiff ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn ei gylch yn fuan iawn.