Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 18 Mai 2022.
Mae fy swyddogion yn nhîm y rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau gyda Choleg Pen-y-bont am y datblygiad hwn, ac yn bersonol, rwy'n falch iawn fod y coleg yn bwriadu cyflymu'r broses o gyflawni prosiect llwybrau yn y dyfodol, a allai wella ei gynnig addysgol a chefnogi'r gwaith o adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr .