Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 18 Mai 2022.
Ie, credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Mae popeth rwy'n ei wybod o fod wedi ymweld â'r coleg—ac roeddwn yn falch iawn o allu agor yr Academi STEAM yn swyddogol ar gampws Pencoed—yw bod gan y coleg ffocws gwirioneddol ar sicrhau ei fod yn hygyrch i'w fyfyrwyr, yn amlwg, ond hefyd yn gyffredinol i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu. Ceir ymdeimlad cryf o genhadaeth mewn perthynas â hynny. Felly, byddwn yn disgwyl i'r blaenoriaethau y mae Altaf Hussain wedi'u nodi yn ei gwestiwn fod yn ganolog i'w hystyriaethau mewn perthynas â hyn. Credaf fod y cynllun arfaethedig ei hun yn gatalydd ar gyfer adfywio economaidd, a chredaf y bydd effaith hynny i'w theimlo'n fwyaf cyffredinol os caiff y blaenoriaethau y mae wedi'u nodi yn ei gwestiwn eu bodloni, fel y cânt, rwy'n siŵr.