Ysbyty Glan Clwyd

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:15, 18 Mai 2022

Diolch yn fawr. Mae hwn yn adroddiad siomedig, ac mae'r methiannau mewn gofal sydd wedi eu nodi yn annerbyniol. Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau i ni fod trefniadau goruchwyliaeth cadarn nawr mewn lle. Rŷn ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd weithio gydag Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru i gyflymu gwelliannau, ac mi fyddwn ni'n parhau i gynnig cefnogaeth er mwyn galluogi newid.