Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 18 Mai 2022.
A hyn gwta ddeufis ar ôl adroddiad arall ar y gwasanaethau fasgwlaidd. Wyddoch chi, dau wasanaeth yn unig yng Nghymru a ddisgrifiwyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fel gwasanaethau sydd angen eu gwella'n sylweddol. Mae'r ddau ohonynt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr—yn unman arall, dim ond ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae angen i'r bwrdd iechyd wella, Weinidog. Nid wyf yn gwybod, a dweud y gwir, a yw newid strwythurol yn briodol. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o hynny eto—