Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 18 Mai 2022.
A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi, gadewch inni fod yn onest, nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig unrhyw atebion ynghylch sut i ddatrys y cwestiwn ynglŷn â ffin Gogledd Iwerddon, nid oes ganddynt unrhyw atebion ynglŷn â sut i ddatrys y materion cyfansoddiadol sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ac mewn gwirionedd, fod eu gweithredoedd eu hunain yn prysur gyflymu tranc eu hundeb gwerthfawr?