Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch, Weinidog. Cyn imi symud ymlaen, a gaf fi atgoffa’r Aelodau, os gwelwch yn dda, pan fydd gennym fater angerddol fel hwn—ac mae’n ennyn angerdd ac emosiwn ymhlith yr Aelodau, gan eich bod yn cynrychioli eich etholwyr—i barchu'r Cadeirydd pan fydd y Cadeirydd yn gofyn ichi ofyn cwestiynau a dim areithiau hir. Mae’n bwysig inni gyrraedd y cwestiynau fel y gall yr Aelodau eu gofyn a’r Gweinidogion eu hateb. Canolbwyntiwch ar hynny.