Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 18 Mai 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gallwn agor y ddadl hon drwy restru’r ystadegau sy’n dangos yn glir yr angen i weithredu ar anghydraddoldebau iechyd a’r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno’r cynnig hwn gerbron yr Aelodau heddiw, a bod angen craffu a dadlau ynghylch y diffyg strategaeth iechyd menywod, yn enwedig o ystyried nod datganedig y Llywodraeth ei hun o ddod yn Llywodraeth ffeministaidd. Ond rwyf am arbed fy ngeiriau fy hun y prynhawn yma a gadael i eraill siarad ar fy rhan, gan fy mod am rannu adroddiadau a phrofiadau menywod a fydd yn dadlau'r achos dros ein cynnig yn rymus ac yn llwyddiannus. Mewn gwirionedd, mae rhoi'r llwyfan iddynt hwy yn Siambr y Senedd, gan sicrhau bod pob un ohonom yn clywed eu lleisiau y prynhawn yma, yn hollbwysig. Oherwydd y gwir trist yw bod stigmateiddio cyflyrau iechyd menywod fel endometriosis, y menopos, syndrom ofarïau polysystig, anhwylder dysfforig cyn mislif ac eraill yn cyfyngu ar y sgwrs ac yn ynysu menywod pan fyddant, mewn gwirionedd, yn brofiadau a ddylai ein huno a'n sbarduno i weithredu. Nid yw'r lleisiau hyn yn cael eu clywed, na’u galwad am fwy o gymorth, am y sylw y maent yn ei haeddu, am driniaeth well, oherwydd, yn hanesyddol, gyda phrinder buddsoddiad mewn ymchwil i iechyd menywod yn gyffredinol, mae cyn lleied o ymchwil wedi bod i gyflyrau fel endometriosis fel nad ydym hyd yn oed yn gwybod beth sy'n ei achosi. A heb wybod yr achos, wrth gwrs, ni ellir dod o hyd i wellhad.
Mae Kate Laska o Wynedd yn dioddef o endometriosis. Bu’n rhaid iddi deithio y tu allan i Gymru i gael cymorth arbenigol a thalu’n breifat am driniaeth, ar ôl aros am flynyddoedd i gael diagnosis a hyd yn oed yn hwy i gael triniaeth. Ac mae hi mewn poen cronig o hyd. Dyma ei geiriau hi:
'Dychmygwch eich bod yn byw mewn cryn dipyn o boen corfforol ers blynyddoedd. Rydych yn ceisio cael cymorth, ond dywedir wrthych fod y poen a deimlwch yn normal. Yn y cyfamser, rydych yn colli eich swydd, eich incwm a'ch partner. Ar ôl newid fy meddyg, cefais fy niagnosis o’r diwedd, ond nid oedd gennyf unrhyw syniad y byddwn yn treulio'r saith mlynedd nesaf yn ymladd dros fy hawl i gael triniaeth. Oherwydd y gofal a oedd yn aml iawn yn llai na delfrydol a diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y gweithwyr gofal iechyd yn ogystal â'r gymdeithas, gan gynnwys fi fy hun, gwaethygodd fy endometriosis i gam 4 ac roedd angen nifer o lawdriniaethau cymhleth arnaf. Nawr, dychmygwch nad ydych yn cael fawr o gefnogaeth ar yr adegau pan fydd ei hangen fwyaf arnoch, gan fod yna gred yn y gymdeithas mai tynged menywod yw profi poen. Mae menywod ag endometriosis yn dioddef yn dawel ac yn aml iawn ar eu pen eu hunain, gan na all unrhyw un o'u cwmpas ddychmygu eu poen. Un clinig arbenigol yn unig a geir, a hwnnw yng Nghaerdydd lle y gall menywod fel fi obeithio cael lleddfu eu poen. Fodd bynnag, mae'r clinig hwn yn llawn ar hyn o bryd. Mae amser yn hollbwysig gyda'r cyflwr cronig hwn. Dyna pam fod taer angen gwasanaeth lleol yng ngogledd Cymru.'
Mae’r diffyg buddsoddiad mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd menywod fel endometriosis wedi arwain at gytundebau trawsffiniol ar gyfer triniaethau—er enghraifft, mae menywod fel Kate, sy’n byw yng ngogledd Cymru, yn mynychu'r ganolfan endometriosis arbenigol yn Lerpwl. Ond nid yw hyn yn digwydd bob amser. Mae un o fy etholwyr, Becci Smart, wedi bod yn byw gydag anhwylder dysfforig cyn mislif, PMDD, er pan oedd yn 14 oed, ond ni wnaed diagnosis o'r cyflwr tan oedd yn 30 oed. Mae PMDD yn fath difrifol iawn o syndrom cyn mislif, a all achosi amrywiaeth o symptomau emosiynol a chorfforol bob mis yn ystod yr wythnos neu ddwy cyn eich mislif. Yn ei phrofiad ei hun, ac o brofiadau pobl eraill â PMDD y mae hi wedi siarad â hwy, dywed fod prinder difrifol o gymorth iechyd meddwl ar gael a diffyg dealltwriaeth o’r cyflwr ymhlith meddygon teulu. Yn wir, dywed fod dioddefwyr PMDD yn cael eu troi ymaith gan wasanaethau iechyd meddwl, gan y dywedir wrthynt, yn anghywir, mai cyflwr gynaecolegol yn unig yw hwn, yn hytrach na chyflwr iechyd meddwl. Wrth gwrs, mae'r ddau beth yn wir. Yn hytrach, dywedir wrthynt fynd i weld eu meddyg teulu, nad ydynt yn arbenigwyr ar iechyd meddwl, bob tro y bydd PMDD yn effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd meddwl, ac mae'n gwneud hynny am wythnos neu ddwy bob mis.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw brofion gwaed na phoer na sganiau a all wneud diagnosis o PMDD. Yr unig ffordd i wneud diagnosis ohono yw drwy olrhain symptomau ochr yn ochr â chylchred y mislif am o leiaf ddeufis llawn. Nid oes gwellhad, dim ond rheoli symptomau. Mae diagnosis yn cymryd 12 mlynedd ar gyfartaledd, ac mae'n rhaid mynd at chwe gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gwahanol ar gyfartaledd. Hyn, tra bo PMDD yn effeithio ar un o bob 20 unigolyn o oedran atgenhedlu sy'n cael mislif, ac mae'r rheini sydd â PMDD yn wynebu risg 7 y cant yn uwch o hunanladdiad na phobl nad ydynt yn cael anhwylderau cyn mislif. Mae 72 y cant yn cael syniadau hunanladdol gweithredol yn ystod pob cylchred PMDD, hynny yw, ym mhob cylchred mislifol. Mae 34 y cant wedi gwneud ymdrechion hunanladdol gweithredol yn ystod wythnosau PMDD. Mae 51 y cant wedi hunan-niweidio mewn ffordd nad yw'n hunanladdol yn ystod wythnosau PMDD. Rwy’n siŵr y byddwn yn clywed llawer mwy o’r hanesion brawychus hyn yn rhan o gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma. Rwy’n falch fod ein cynnig yn golygu y cânt eu clywed, gan fod y dioddefaint hwn yn anfaddeuol, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ar waith yma.
Er bod gan fenywod yng Nghymru ddisgwyliad oes hirach na dynion, mae’n glir eu bod yn treulio llai o’u bywydau mewn iechyd da, ac mae hyn yn deillio o ddiffyg ymchwil feddygol i iechyd menywod, sy’n golygu nad yw ymchwilwyr yn cael cyfle i nodi ac astudio gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn clefydau. Ac mae’n creu rhagdybiaethau y bydd triniaethau meddygol tebyg yn gweithio i ddynion a menywod. Er enghraifft, mae diabetes, trawiadau ar y galon ac awtistiaeth yn gyflyrau a all edrych yn wahanol mewn dynion a menywod. Ceir cred hollbresennol hefyd mewn rhannau o’r gymuned feddygol sy’n deillio o batriarchaeth gymdeithasol, ac i ryw raddau, o gasineb at fenywod, fod menyw, pan fydd yn cwyno am ei hiechyd, naill ai’n hormonaidd, yn emosiynol neu’n afresymol, ac yn aml, caiff ei fframio o amgylch eu gweithrediadau atgenhedlol fel menywod.
Ceir bwlch iechyd rhwng y rhywiau y mae’n rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael ag ef. Pam arall y gwnaed pum gwaith cymaint o waith ymchwil i anhawster codiad ymhlith gwrywod, sy'n effeithio ar 19 y cant o ddynion, nag a wnaed i syndrom cyn mislif, sy'n effeithio ar 90 y cant o fenywod? Beth arall a all egluro pam, pan fo pryderon nad oedd rhai menywod ledled y DU yn gallu cael eu presgripsiynau oherwydd prinder cynhyrchion therapi adfer hormonau, HRT, ddwy flynedd yn ôl, y bu methiant i fynd i'r afael â’r prinder? Ac mae hyn, ynghyd ag effaith problemau cyflenwi byd-eang sy’n gysylltiedig â COVID, yn golygu y bydd oddeutu 1 filiwn o fenywod yn y DU, sy’n defnyddio HRT i leddfu symptomau’r menopos, yn cael eu heffeithio, ac felly hefyd nifer o fenywod yng Nghymru sy’n dibynnu ar y driniaeth hon.
Mae’n hollbwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r methiannau ym maes iechyd menywod, fel y gallwn agor y sgwrs a newid ei natur gul. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth iechyd menywod bwrpasol i Gymru, a ddylai ganolbwyntio ar iechyd gydol oes menywod; gwasanaethau o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol; a buddsoddiad mewn gwell hyfforddiant a hyfforddiant o ansawdd uchel ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl bwysig hon, ac rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi’r cynnig. Ein dyletswydd i'r menywod sydd wedi dweud wrthym am eu poen a'u rhwystredigaeth yw gwrando a gweithredu. Diolch.