Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 18 Mai 2022.
Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw. Rydym wedi clywed am y nifer o glefydau sy'n unigryw i fenywod a llu o glefydau eraill sy'n effeithio'n anghymesur ar iechyd a llesiant menywod. Un o nodau allweddol 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol' gan Lywodraeth Cymru yw gofal iechyd ataliol, ac mae modd atal nifer o'r clefydau sy'n effeithio ar iechyd menywod i raddau helaeth, neu bydd iddynt ganlyniadau llawer gwell, os cânt ddiagnosis ar gam cynnar.
Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn enghraifft. Er mai clefyd cardiofasgwlaidd yw'r prif achos marwolaeth ymhlith menywod, mae rhai gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd yn aml yn tybio bod menywod mewn llai o berygl o'r clefyd hwn. Er bod hyn yn wir i ryw raddau, mae'r gwahaniaeth yn lleihau gydag oedran, yn enwedig dros 50 oed, a hyd yn oed yn gynharach o bosibl mewn menywod sy'n cael menopos cynnar. Felly, yma eto, mae'r menopos yn ffactor arwyddocaol yn iechyd menywod. Ategir hynny gan ymchwil, wrth gwrs, ac mae'n dangos, yn achos clefyd cardiofasgwlaidd, fod menywod yn fwy tebygol o gael diagnosis arafach neu o gael diagnosis hollol anghywir o'u cymharu â dynion. Gall hyn, wrth gwrs, gael effaith ddinistriol ar gyfradd farwolaethau ac afiachedd unigolion. Gellir atal rhai o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd, gan gynnwys dewisiadau ffordd o fyw, deiet, pwysedd gwaed uchel a cholesterol. Gyda hynny mewn golwg, credaf y gall sgrinio iechyd hefyd chwarae rhan bwysig yn atal clefydau yn y lle cyntaf. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roeddem i gyd i fod i gael sgriniad blynyddol yng Nghymru yn 50 oed—pawb. Ac rwy'n meddwl rywsut nad yw hynny wedi digwydd, yn gyntaf oll oherwydd COVID, ond nid yw wedi digwydd ar ôl COVID mewn gwirionedd oherwydd y pwysau a ddaeth i'r amlwg yn ei sgil. Mae hynny'n amlwg yn rhan o ddull gweithredu ataliol, ac rwy'n gobeithio y gallwn gael hynny'n ôl ar y trywydd iawn.
Mae addysg, wrth gwrs, yn ffactor pwysig i helpu i atal clefydau a chael diagnosis ohonynt yn gynharach. Faint o fenywod, er enghraifft, sy'n ymwybodol mai clefyd cardiofasgwlaidd yw'r bygythiad mwyaf i'w hiechyd? Dewisais hyn yn fwriadol oherwydd roeddwn bron yn rhagweld yr hyn y byddai pawb arall yn siarad amdano. Mae'n ddiddorol, onid yw, nad yw'n un o'r pethau y siaradwyd amdano. Nid oeddwn yn ymwybodol o hyn nes imi ddechrau chwilio am y pethau nad oedd pobl yn siarad amdanynt sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o fenywod. Felly, credaf fod angen lledaenu'r negeseuon hynny. Wrth gwrs, ceir nifer o afiechydon perthnasol eraill, ac mae canser yr ofari yn un o'r rheini. Mae nifer o symptomau amhenodol yn perthyn i'r canser hwnnw, fel bol chwyddedig, teimlo'n llawn ar ôl bwyta, newidiadau mewn arferion gwneud dŵr ac ysgarthu, lludded eithafol a blinder, ymhlith eraill. Ond mae llawer o'r symptomau'n debyg i gyflyrau iechyd llai difrifol, fel syndrom coluddyn llidus, ac nid ydynt yn cael sylw. Felly, mae addysg yn gwbl hanfodol, oherwydd gwyddom mai lladdwr tawel yw canser yr ofari. A fy nghwestiwn i yw hwn: pam y'i gelwir yn lladdwr tawel? Ai oherwydd nad yw pobl yn gwybod amdano ac nad ydynt yn ei adnabod, neu ai am nad yw pobl yn siarad amdano? Felly, credaf fod arnom angen ffocws gwirioneddol ar hynny.
Weinidog, rwy'n falch iawn eich bod wedi cyhoeddi eich bod yn cyflwyno cynllun iechyd menywod, ac rwy'n croesawu'r cam hwnnw'n fawr. Gobeithio y gallwch ddweud wrthym pryd y credwch y gallem drafod hynny yn y Senedd. Rwy'n falch iawn fod gennym Weinidog sydd wedi ymrwymo i iechyd menywod, i gyflwyno'r hyn a fydd yn gynllun iechyd menywod cyntaf, rwy'n credu, ac rwyf wedi eistedd yma sawl gwaith—mae eraill wedi bod yma ers 1999. Felly, mae'n gam enfawr ymlaen, a gallaf weld erbyn heddiw—ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y ddadl hon wedi'i chyflwyno heddiw—fod gennych gefnogaeth enfawr i'w chyflawni.