6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:28, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch yn fawr am ganiatáu imi ymateb i'r ddadl hon gan yr wrthblaid ar iechyd menywod, y gwn fod y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yn ymwybodol ei fod yn fater rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac mae'n wych gweld bod consensws llwyr ar y mater, os nad ar y cynnig ei hun.

Nawr, fel y gwyddom, menywod yw ychydig dros hanner ein poblogaeth a 47 y cant o'r gweithlu. Ond mae'r dystiolaeth yn cynyddu nad yw menywod bob amser yn cael y cymorth iechyd sydd ei angen i gyflawni'r canlyniadau gwell a ddisgwyliwn. Mae anghydraddoldebau iechyd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn sylweddol iawn. Er enghraifft, gyda chlefydau'r galon, fel y clywsom, mae menywod yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o'u risgiau a'u symptomau, yn llai tebygol o gael diagnosis cyflym, yn llai tebygol o gael y driniaeth orau bosibl, ac yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth adsefydlu. Rwy'n ddiolchgar iawn i Sefydliad Prydeinig y Galon am dynnu fy sylw at hyn mewn sesiwn friffio, gan fy arwain i gomisiynu datganiad ansawdd ar fenywod yn fuan iawn ar ôl i mi gael fy mhenodi y llynedd.

Gwyddom fod menywod wedi'u tangynrychioli mewn treialon clinigol, ac mae'r anghydraddoldebau hyn yn costio'n fawr. Mae ymchwil yn awgrymu y gellid bod wedi atal marwolaeth o leiaf 8,000 o fenywod drwy driniaeth gardiaidd deg dros gyfnod o 10 mlynedd yng Nghymru a Lloegr. 

Mae pobl wedi sôn am ymatebion gwahanol menywod, er enghraifft i awtistiaeth, i iechyd meddwl. Ond yn hollbwysig hefyd, rwy'n credu mai un peth nad yw'n cael ei drafod mewn poblogaeth sy'n heneiddio, yw effaith enfawr anymataliaeth ar fenywod hŷn—sy'n effeithio'n anghymesur, unwaith eto, ar fenywod yn hytrach na dynion. Ceir ymagwedd benodol yn 'Cymru Iachach', sef ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a holl ethos y rhaglen yw i'r gwasanaethau fod yn deg, wedi'u cynllunio o amgylch yr unigolyn ac o amgylch grwpiau o bobl, yn seiliedig ar eu hanghenion unigryw a'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Ond gydag iechyd menywod, mae gofal iechyd menywod yn y GIG yn rhy aml o lawer wedi'i gyfyngu i faterion iechyd atgenhedlol. Nawr, rwyf am gael gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n cefnogi ac yn meithrin iechyd a llesiant ehangach menywod, ac rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion i fabwysiadu'r ymagwedd ehangach hon wrth ddatblygu'r datganiad ansawdd hwnnw.