7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd meddwl plant a'r glasoed

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 5:45, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae gan lawer o bobl yn y Siambr hon brofiad personol o ymdrin â phroblemau iechyd meddwl. Rwyf wedi dioddef problemau iechyd meddwl fy hun yn y gorffennol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod mwy o bobl yn siarad am broblemau iechyd meddwl, er mwyn inni allu dadstigmateiddio iechyd meddwl a chaniatáu i bobl ofyn am y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae'r problemau sy'n wynebu pobl ifanc heddiw'n wahanol iawn i'r rhai a wynebai genedlaethau blaenorol. Mae ieuenctid heddiw yn byw yn y byd go iawn a'r byd digidol. Gall sefydliadau a busnesau nad ydynt erioed wedi clywed amdanynt ddylanwadu arnynt a chysylltu â hwy, ar gyfryngau cymdeithasol a fforymau ar-lein, gan greu, iddynt hwy, ganfyddiad camystumiedig o beth yw bywyd. Mae llawer o bobl ifanc yn agored i niwed ac i gael eu dylanwadu fel hyn, ac os cânt eu sugno ar hyd y llwybr anghywir, gallent ei chael yn anodd dod o hyd i ffordd allan neu ofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt.

Rwy'n siarad â phobl ifanc yn rheolaidd. Rwyf hyd yn oed yn ystyried fy hun yn berson ifanc, Ddirprwy Lywydd, felly rwy'n deall y trafferthion y mae llawer o fy nghenhedlaeth i yn eu hwynebu. Mae llawer yn pryderu'n fawr na allant ennill digon o arian i fodloni'r safonau sydd gan gymdeithas ar eu cyfer yn eu barn hwy. Mae llawer yn ceisio dangos eu bod yn byw bywyd hudolus ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu argraff ar eraill ar lwyfannau. Yn anffodus, mae hyn wedi dod yn gyffredin iawn, gyda phobl ond yn rhannu'r amseroedd da heb fod eisiau dangos yr adegau gwael, tra byddant yn eistedd gartref yn dioddef mewn distawrwydd. Canfu arolwg gan Mind Cymru fod 75 y cant o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod misoedd cyntaf y pandemig. Byddwn yn dweud mai'r rheswm am hyn yw'r cyfryngau a dewisiadau gwleidyddol a'r cyfyngiadau symud a ddeilliodd o hynny, a welodd gynnydd enfawr yn y dirywiad yn iechyd meddwl pobl.

Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef o anhwylderau bwyta, gyda gwasanaethau cymorth wedi'u dileu dros nos bron iawn a llawer yn cael eu gadael i ddioddef ar eu pen eu hunain. Mae angen inni sicrhau bod mwy o staff yn cael eu hyfforddi i nodi a chefnogi plant sy'n dioddef o anhwylderau bwyta. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr meddygol yn cael llai na dwy awr o hyfforddiant ar anhwylderau bwyta, ac mae hynny dros bedair i chwe blynedd o astudio israddedig. Mae llawer o bobl ifanc sydd angen gwasanaethau arbenigol yn cael eu symud o'u cymunedau, i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd heb rwydwaith cymorth. Felly, mae angen inni archwilio'r posibilrwydd o sefydlu uned anhwylderau bwyta yma yng Nghymru.

Mae ein hysgolion hefyd yn chwarae rhan bwysig yn atal ac yn ymdrin â'r mater hwn. Dylai ysgolion fod yn adeiladu poblogaeth o bobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol. Yn anffodus, mae UNICEF yn amcangyfrif bod mwy nag un o bob saith unigolyn ifanc rhwng 10 a 19 oed yn byw gyda diagnosis o anhwylder iechyd meddwl. Os ychwanegwn y rhai nad ydynt wedi cael diagnosis, mae hwn yn ddarlun sy'n peri pryder mawr wrth symud ymlaen. Mae ein gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y maes hwn. Yn anffodus, ar ôl bod yn Weinidog yr wrthblaid dros iechyd meddwl ers dros flwyddyn bellach, mae llawer o bobl ifanc wedi dweud wrthyf eu bod wedi cael cam gan y gwasanaethau hyn, gyda gormod yn aros am apwyntiad heb unman arall i droi, ac yn teimlo'n ynysig ac yn unig. Felly, mae angen diwygio CAMHS ar fyrder i sicrhau bod eu cymorth ar gael pan fydd ei angen.

Gallai un o'r diwygiadau hynny gynnwys cynyddu nifer y timau cymorth mewn ysgolion, ac rwy'n credu, a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn credu, y dylai fod gan bob ysgol aelod penodol o staff sy'n ymdrin ag iechyd meddwl mewn ysgolion, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi. Peth arall y mae'r Dirprwy Weinidog a minnau'n cytuno yn ei gylch yw defnyddio'r trydydd sector fel bod y bwlch rhwng atgyfeirio ac apwyntiad yn cael ei lenwi, er mwyn i'r unigolyn ifanc gael ei weld ar unwaith ac nad yw'n cael ei adael i ddioddef gartref.

Mae llenwi swyddi CAMHS arbenigol sy'n wag ers amser maith hefyd yn fater rwy'n siŵr fod pawb yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n un y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys yn awr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, dywedwyd wrthyf droeon fod hyn yn flaenoriaeth, ond nid yw pethau'n gwella; maent yn gwaethygu. Mae hwn yn fater sy'n rhy fawr i wleidyddion ddatgan ei fod yn flaenoriaeth a methu darparu'r adnoddau sydd eu hangen i ategu'r datganiadau. Mae rhagor o arian yn rhywbeth i'w groesawu, ac wedi'i groesawu, ond mae angen inni sicrhau bod yr arian hwnnw'n cyflawni'r canlyniadau a ddymunwn i'n pobl ifanc yng Nghymru.

Mae llawer o heriau'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru, ac yn anffodus, bydd yr heriau hynny'n parhau i waethygu oni bai bod gwleidyddion yn y fan hon yn gwneud rhagor. Ceir llawer o sbardunau a all achosi iechyd meddwl niweidiol mewn plant a phobl ifanc, boed yn fwlio yn yr ysgol, ffurfiau ar fethu gwybod lle rydych chi am fod mewn bywyd, methu cael tai priodol, pwysau ysgol. Mae'n rhestr ddiddiwedd, a gallwn siarad am hynny am oriau. Rhaid inni sicrhau bod cymorth priodol ar gael i blant a phobl ifanc, a chymryd camau yn ogystal i fynd i'r afael â'r sbardunau a all achosi iechyd meddwl niweidiol. Felly, mae angen inni sefydlu gwasanaethau argyfwng 24 awr i blant a phobl ifanc ledled Cymru, er mwyn gallu darparu cymorth pan fyddant yn gofyn am gymorth. Mae gormod o bobl ifanc yn aros yn rhy hir o lawer am apwyntiad ac mae llawer yn cyrraedd pwynt argyfwng cyn i unrhyw beth gael ei wneud, ac ni all hyn barhau.

Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau llawer o Aelodau i'r ddadl hon heddiw. Mae'n drueni fod y Llywodraeth wedi gwneud eu 'dileu popeth' arferol—fel y gwnânt bob wythnos—i'n cynnig. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw. Nid yw'n ddiwrnod i ganmol Llywodraeth Cymru, ond yn hytrach, i wneud ein gwaith yn y lle hwn, i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif a chael adolygiad brys ar y gweill o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yma yng Nghymru. Mae'n bryd gweithredu, ac rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw.