Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 18 Mai 2022.
Nid wyf yn siŵr a ydych yn cofio'r adroddiadau niferus a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y maes hwn, ond cydnabu'r un pwysicaf gennym, 'Cadernid Meddwl', fod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol mewn gwirionedd a bod angen canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar. Efallai y dylech edrych ar rai o'r adroddiadau hynny.