1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mai 2022.
1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol? OQ58078
Prynhawn da i'r Aelod.
Llywydd, mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio'r ffordd y codir taliadau ystadau am fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau. Mae'r trefniadau presennol yn rhy gymhleth ac yn rhy aml yn annheg. Byddwn yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio, ar gyfer ystadau newydd a phresennol.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r mater penodol hwn yn dod o ardal yr ydych chi yn ei hadnabod yn dda iawn, mae'n debyg, ac mae'n debyg i chi dreulio peth amser yno yn ystod yr etholiadau diweddar—ystad y Felin yn Nhreganna. Nawr, mae'n rhaid i'r trigolion yno dalu ffi flynyddol o £102 am gynnal a chadw parc sy'n ffinio â'r ystad, priffyrdd a mannau gwyrdd heb eu mabwysiadu ac ati. Ac, wrth gwrs, mae hyn ar ben y dreth gyngor y mae angen iddyn nhw ei thalu. Nawr, rwy'n gwybod bod fy nghyfaill Hefin David wedi gwneud llawer o waith ar hyn dros y blynyddoedd, oherwydd nid yw'r trigolion hyn hyd yn oed yn cael manylion am yr hyn y mae angen iddyn nhw ei dalu, ac, wrth gwrs, maen nhw'n talu am wasanaethau y mae pobl eraill sy'n byw yn Nhreganna yn eu cael, i bob pwrpas, am ddim drwy'r awdurdod lleol.
Nawr, cafodd y Felin ei chydnabod yn enghraifft o arfer da, a hynny'n gwbl briodol, gan Lywodraeth Cymru, sef ystad gymysg gyda thai fforddiadwy a phrynu rhydd-ddaliadol. A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddod â'r arfer gwael ac annheg hwn i ben drwy annog a hwyluso'r broses o fabwysiadu gwaith cynnal a chadw gan awdurdodau lleol? Diolch yn fawr, Prif Weinidog.
Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn ychwanegol.
Llywydd, rwy'n falch iawn o safle'r Felin; rwyf wedi ymweld â hi droeon. Bydd yn creu 800 o gartrefi newydd yng nghanol Caerdydd ar safle tir llwyd. Mae'n deyrnged mewn sawl ffordd i'n cyn gyd-Aelod Edwina Hart, a lwyddodd i greu cyfundrefn ariannu arloesol sy'n golygu nad yw'r 400 o dai fforddiadwy ar y safle yn cynnwys unrhyw grant tai cymdeithasol o gwbl, ac mae Tirion yn goruchwylio hynny, cymdeithas budd cymunedol nid-er-elw sy'n gyfrifol am ddatblygu'r cartrefi cymdeithasol hynny y mae eu hangen yn ddirfawr. Mae'r safle'n gymhleth oherwydd ei ddeiliadaeth gymysg. Bydd tai sy'n eiddo preifat wedi'u gwerthu ar sail taliadau ystad a nodwyd adeg eu gwerthu. Tirion sy'n gyfrifol am yr amwynderau cymunedol sydd ar gael i'r holl ystad.
Mae gennyf newyddion gwell i'r Aelod oherwydd rwy'n gweld bod Tirion wedi ysgrifennu at drigolion yn y dyddiau diwethaf, gan ostwng y tâl o £102 i £80, gan roi bil wedi'i eitemeiddio i bob preswylydd. Ac nid ar gyfer cynnal a chadw man chwarae yn unig y mae'r taliadau, fel yr honnwyd weithiau. Yn hollbwysig, mae hefyd ar gyfer cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer y safle cyfan hwnnw. Fe'i gelwir yn 'glan afon', Llywydd; mae'r cliw yn yr enw, fel y dywedir. Mae'n ardal, yn anochel, lle mae llifogydd yn bosibilrwydd, a lle mae amddiffynfeydd rhag llifogydd felly'n bwysig iawn.
Yn y cwestiwn gwreiddiol gan yr Aelod, ac yn ei gwestiwn dilynol, gofynnodd a fyddem ni'n rhoi sicrwydd y byddai awdurdodau lleol yn talu costau cynnal a chadw ystadau tai newydd. Ni fyddwn yn gwneud hynny, Llywydd. Byddai hynny'n creu perygl moesol i ddatblygwyr o fath a fyddai'n gwbl annymunol. Pe bai datblygwr yn credu, ni waeth pa mor wael yw'r gwaith, ni waeth pa mor wael yw safon y cyfleusterau cymunedol, byddai sicrwydd y byddai'r pwrs cyhoeddus yn talu am hynny ac yn ei gywiro, nid oes cymhelliad o gwbl iddyn nhw wneud y gwaith yn y ffordd yr ydym eisiau iddo gael ei wneud. Byddwn yn diwygio'r system ar gyfer ystadau tai newydd a phresennol, ond mae'r costau'n debygol o barhau i gael eu rhannu. Yr awdurdodau lleol i wneud mwy, rwy'n cytuno â hynny—mae mwy y dylai awdurdodau lleol ei wneud. Ond o ran y syniad y dylen nhw yn unig ddod yn gyfrifol, pan fo gan gwmnïau gyfrifoldebau a phan fo gan drigolion gyfrifoldebau, rwy'n credu mai system driphlyg o hyd fydd y ffordd o gynllunio system well ar gyfer y dyfodol.
Diolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am godi'r mater, ac, fel y mae'r Aelod newydd ei ddweud, mae'n bwysig bod awdurdodau lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i symud ymlaen gyda mabwysiadu ystadau tai. Ond rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth y Prif Weinidog, fod cyfrifoldeb ar y datblygwyr i gwblhau'r gwaith mewn modd priodol. Mae hefyd yn bwysig bod datblygwyr yn chwarae eu rhan hefyd, ac mae llawer o enghreifftiau o gwmnïau cyfrifol yn cyfrannu at ystadau tai newydd, yn ôl y disgwyl—drwy barciau chwarae, cyfleusterau cymunedol, ac ati. Fodd bynnag, Llywydd, mae gormod o enghreifftiau o awdurdodau lleol nad ydyn nhw'n cael y swm llawn sy'n ddyledus iddyn nhw drwy gyfraniadau adran 106. Rwy'n siŵr y gall llawer o Aelodau, ar draws y Siambr, gofio enghreifftiau o hyn yn eu hetholaethau eu hunain. Ceir achosion hefyd pan nad yw datblygwyr yn darparu'r nifer o dai cymdeithasol a addawyd yn ystod y cam ceisiadau cynllunio, ond yn hytrach yn ail-werthuso nifer yr anheddau sydd i'w hadeiladu ar y tir yn ystod y broses adeiladu ei hun, gan ddyfynnu'n aml yr angen i wneud hynny ar sail hyfywedd. Ac mae hyn yn arwain at restrau aros cynyddol am dai cymdeithasol. Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o roi hwb i'r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol i sicrhau bod pob datblygwr tai yn chwarae ei ran lawn wrth ddatgloi potensial ein cymunedau? A sut mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda datblygwyr i annog adeiladu seilwaith cymdeithasol pwysig, yn ogystal â'r tai newydd? Diolch.
Llywydd, mae pob un o'r rheina'n bwyntiau pwysig iawn y mae Peter Fox yn eu gwneud, a gwn y bydd yn siarad o brofiad o orfod negodi'r cytundebau hyn. Mae'n iawn—mae llawer o gwmnïau adeiladu cyfrifol ar gael, gyda Tirion y cyfeiriais ato yng nghyd-destun safle'r Felin yng Nghaerdydd yn un ohonyn nhw. Ond mae gormod o enghreifftiau, y bydd yn eu hadnabod, a gallem ni i gyd ddyfynnu o'n cyfrifoldebau etholaethol ein hunain, pan nad yw datblygwyr yn cwblhau'r fargen y maen nhw eu hunain wedi ymrwymo iddi gydag awdurdodau lleol. Mae fy nghyd-Aelod Julie James yn ymwybodol iawn o'r angen i sicrhau bod cytundebau a wneir yn wirfoddol, a chaniatâd cynllunio a ddarperir ar sail y cytundebau hynny, yn cael eu hanrhydeddu, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer tai fforddiadwy a chymdeithasol yma yng Nghymru. Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd rhan uniongyrchol a gweithredol iawn wrth lunio'r llwyfan polisi ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y cyfrifoldebau hynny'n cael eu cyflawni'n briodol.
Os caf ddod yn ôl at gynsail y cwestiwn, sef rheoleiddio cwmnïau rheoli ystadau, nid yw'r cwmnïau hyn yn cael eu rheoleiddio'n dda—mewn gwirionedd, prin eu bod yn cael eu rheoleiddio o gwbl. Nid oes unrhyw gap ar y taliadau y mae pobl yn eu hwynebu, ac, yn aml iawn, mae'r gwaith yn wael, a lle nad yw tir yn cael ei fabwysiadu, caiff ei werthu i'r cwmni rheoli ystadau, sydd wedyn yn codi tâl ar breswylwyr ar ben eu treth gyngor. Mae'r tâl yng Nghwm Calon yn Ystrad Mynach yn £162, sy'n uwch nag yng Nghaerdydd, ar gyfer ardaloedd o dir gwyrdd y gallai'r cyngor, mewn gwirionedd, ei wneud. Cefais gyfarfod gyda'r Gweinidog Julie James a dywedodd ei bod yn aros i Lywodraeth y DU weithredu, ac yna bydd yn cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i fynd i'r afael â'r bylchau a allai fod yn y ddarpariaeth honno. Mae gwir angen gweithredu yma. A fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried gweithredu drwy bwerau deddfu Llywodraeth Cymru os bydd Llywodraeth y DU yn methu â mynd i'r afael â hyn mewn da bryd?
Llywydd, diolch i Hefin David am godi'r pwyntiau hynny ac am y dyfalbarhad y mae wedi'i ddangos wrth ddilyn y mater hwn yn ystod tymor y Senedd flaenorol ac i mewn i hon. Mae'n iawn i ddweud y gwelir arferion annerbyniol ac annheg mewn rhannau o Gymru, sy'n bosibl oherwydd natur anrheoleiddiedig cwmnïau rheoli ystadau a'r taliadau y gallant eu codi. Gall Llywodraeth Cymru geisio mynd i'r afael â'r materion hyn mewn dwy ffordd. Yr ydym, yn wir, yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU. Dywedir wrthym y bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno'n ddiweddarach yn y Senedd bresennol er mwyn gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar ddiwygio cyfraith lesddaliad, a bydd hynny'n darparu hawliau cyfartal i rydd-ddeiliaid, sy'n cyfateb i'r rhai y mae lesddeiliaid yn eu mwynhau ar hyn o bryd, a fydd yn rhoi'r hawl iddyn nhw wneud cais i dribiwnlys i herio tegwch taliadau ystadau neu i benodi rheolwr newydd i reoli'r ddarpariaeth o wasanaethau a gwmpesir gan daliadau rent ystadau. Ond, ar yr un pryd, byddwn hefyd, yn ein deddfwriaeth diogelwch adeiladu ein hunain, y bwriadwn ei chyflwyno yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon, yn cynnwys cwmnïau rheoli ystadau yn y cynllun cofrestru a thrwyddedu arfaethedig ar gyfer cwmnïau rheoli eiddo preswyl, a bydd hynny'n helpu i ddileu rhai o'r achosion o gamddefnyddio'r system bresennol y cyfeiriodd Hefin David ati.