1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 24 Mai 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn amserol a gyflwynodd fy nghyd-Aelod James Evans, Prif Weinidog, dywedodd Gweinidog yr Economi fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £4.25 miliwn yn prynu fferm yn y canolbarth, yn ei eiriau ef, i sicrhau cartref parhaol yng Nghymru ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Drannoeth, dywedodd yr ŵyl nad oes unrhyw gynlluniau i symud Gŵyl y Dyn Gwyrdd o ystad Glan Wysg i Fferm Gilestone. Mae'r ddau ddatganiad hyn yn gwbl groes i'w gilydd. Pa un sy'n gywir, Prif Weinidog?
Mae'r ddau ohonyn nhw yn gywir, Llywydd, oherwydd yn sicr nid ydyn nhw'n gwbl groes i'w gilydd. Nid oes bwriad i symud yr ŵyl ei hun o'i safle llwyddiannus presennol, ond mae mwy y mae'r rhai sy'n gyfrifol am yr ŵyl yn credu y gallan nhw ei wneud i gyfrannu at economi'r rhan honno o Gymru, gan adeiladu ar lwyddiant eu busnes. Er mwyn gwneud hynny, mae angen mwy o le arnyn nhw i allu datblygu'r posibiliadau eraill hynny. Dyna sydd y tu ôl i'r trefniadau. Darllenais drawsgrifiad o ymryson fy nghyd-Aelod Vaughan Gething ar y llawr yma yr wythnos diwethaf. Dyna sy'n ysgogi hynny i gyd—mae'n adeiladu ar un o'r busnesau mwyaf llwyddiannus sydd gennym yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n synnu, Llywydd, o weld y Ceidwadwyr Cymreig mor bendant yn gwrthwynebu busnes llwyddiannus.
Dim o gwbl. Dim o gwbl, Prif Weinidog. Yn wir, os bydd y model yn llwyddiannus, ni fydd y cyntaf i'ch canmol chi am wneud hynny. Ond mae'n rhaid i lawer o fusnesau yng Nghymru sy'n gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru ddarparu cynlluniau busnes, mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu amcanestyniadau ariannol cadarn, ac, yn y pen draw, maen nhw naill ai'n cael bawd i fyny neu'n cael eu gwrthod o ran yr arian hwnnw sydd ar gael. Yr hyn a ganfuwyd gennym yr wythnos diwethaf oedd nad oes cynllun busnes oherwydd nad yw hwnnw wedi'i gyflwyno; mae'n cael ei lunio, fel y dywedodd y Gweinidog ar y Cofnod yr ydych wedi'i ddarllen, Prif Weinidog. Felly, sut y gall Gŵyl y Dyn Gwyrdd sicrhau gwerth £4.25 miliwn o gymorth gan y Llywodraeth heb gynllun busnes, pan fyddai'n rhaid i unrhyw fusnes arall yma yng Nghymru gyflwyno'r darn angenrheidiol hwnnw o wybodaeth i gael hyd yn oed ffracsiwn o'r arian hwnnw i gefnogi ei gynlluniau busnes?
Llywydd, wrth gwrs, nid yw Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cael £4.25 miliwn o gwbl. Yr hyn sydd yma yw ased sydd gan Lywodraeth Cymru sy'n werth mwy na'r swm hwnnw o arian ac sydd, am y tymor byr, yn cael ei brydlesu'n ôl i'r perchennog gwreiddiol er mwyn iddo allu cwblhau'r archebion sydd ganddo yn ei fusnes lletygarwch twristiaeth a sicrhau bod y cnydau sydd wedi'u plannu ar y fferm honno'n cael eu cynaeafu eleni. O'r cychwyn cyntaf, gwyddem y byddai'r cynllun busnesau gan y rhai sy'n gyfrifol am yr ŵyl yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin eleni, a dyna yr ydym ni'n dal i ddisgwyl bydd yn digwydd. Rydym yn gweithio, Llywydd, gyda phartner y gellir ymddiried ynddo. Rydym yn gweithio gyda chwmni y mae Llywodraeth Cymru wedi'i adnabod ac wedi gweithio ochr yn ochr ag ef dros gyfnod estynedig, gan fod yr ŵyl wedi tyfu i fod y bumed ŵyl fwyaf llwyddiannus o'i math yn unman yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn dal y tir yn erbyn y cynllun busnes a byddwn yn parhau i graffu ar y cynllun busnes i weld a ellir cyflawni'r amcanion y mae'r cwmni wedi'u trafod gyda ni, drwyddo. Yn y cyfamser, mae gan y cyhoedd ased, y gall ei waredu, naill ai yn y ffordd yr ydym yn gobeithio, drwy gefnogi'r busnes hwnnw i wneud mwy, neu, os na allwn wneud hynny yn y ffordd honno, mae'r ased hwnnw'n aros a gellir ei wireddu mewn ffyrdd eraill.
Prif Weinidog, roedd yr ymateb a roddodd Gweinidog yr Economi yr wythnos diwethaf yn dangos bod y Dyn Gwyrdd yn denant neu'n brynwr unigryw—roedd yn dibynnu ar y cynllun busnes a ddaeth drwodd. Dyna oedd ei eiriau, ac maen nhw wedi'u cofnodi. Felly, nid oedd proses dendro gystadleuol arall, nid oedd unrhyw un arall yn mynd i'r farchnad i gynnig cyfleusterau eraill i weithredwyr eraill yn y canolbarth—darparwyd £4.25 miliwn i Ŵyl y Dyn Gwyrdd, i bob pwrpas i sicrhau cartref parhaol iddyn nhw. Nawr, rwy'n credu bod yr ŵyl yn ŵyl lwyddiannus, ac rwyf eisiau ei gweld yn ffynnu. Ond pan fydd busnesau eraill sydd wedi dod i chwilio am gymorth gan Lywodraeth Cymru yn cysylltu â mi—cymorth ariannol—ac mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r wybodaeth honno'n briodol gyda chynlluniau busnes i sicrhau'r cymorth hwnnw, mae'n rhaid i mi holi nawr: a yw cylch gwaith Llywodraeth Cymru wedi newid, ac os ydych yn cael eich ystyried yn gwmni neu'n ŵyl y gellir ymddiried ynddi, byddwch yn cael yr arian hwnnw? Oherwydd dyna'r argraff yr ydych chi wedi'i rhoi yma heddiw, os ydych chi'n fusnes neu'n drefnydd gŵyl dibynadwy, byddwn yn rhoi miliynau ar y bwrdd i chi ac yn caniatáu i chi gyflwyno'r cynllun busnes yn ddiweddarach. Allwch chi mo'i chael hi bob ffordd, Prif Weinidog. Pa ffordd felly?
Wel, Llywydd, rwyf wedi hen arfer, dros yr wythnosau lawer o wneud hyn, â'r ffaith mai anaml iawn y bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwrando ar unrhyw ateb a roir, gan rygnu ymlaen gyda pha gwestiwn bynnag sydd ganddo wedi'i baratoi ymlaen llaw o'i flaen, oherwydd dywedais yn union i'r gwrthwyneb i'r hyn y mae newydd ei awgrymu. Fe wnes i fy ngorau glas i egluro wrtho—fe geisiaf eto—nad oes arian o gwbl wedi mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd. Ond oes rhaid i mi ddweud hynny wrthych chi eto, fel nad ydych yn ei gamddeall am y trydydd tro? Does dim arian o gwbl wedi mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd. Felly, Llywydd, a yw hynny'n ddigon clir, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n helpu arweinydd yr wrthblaid i ddatrys ei gamddealltwriaeth?
Ar sail cynllun busnes, yr oeddem wedi cytuno arno o'r cychwyn cyntaf ac a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin eleni, byddwn yn craffu ar y cynllun busnes ac yn penderfynu a ellir sicrhau bod y safle hwnnw ar gael i'r busnes hwnnw ar gyfer ei gynlluniau ehangu yn y dyfodol. Os gwnaiff hynny, yna bydd sail gyfreithiol i'r cwmni ddefnyddio'r safle hwnnw, a'r seiliau amgen oedd y rhai yr oedd fy nghyd-Aelod yn eu nodi i chi yr wythnos diwethaf. Nid yw'r naill na'r llall wedi'u cytuno, oherwydd, fel y dywedodd, mae proses i'w chwblhau o hyd. Yn y cyfamser, nid oes arian wedi mynd i'r cwmni, nid oes tir wedi mynd i'r cwmni, nid oes unrhyw drefniant wedi'i gwblhau gyda'r cwmni. Nawr, gobeithio, Llywydd—gobeithio; nid wyf yn credu bod y grŵp Ceidwadol yma'n gobeithio—gobeithio y bydd modd cwblhau hynny yn llwyddiannus, oherwydd mae hwn yn llwyddiant mawr i Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r llwyddiant hwnnw, ac ni fyddwn yn goddef y rhai sy'n ceisio ei danseilio drwy geisio awgrymu bod cytundeb wedi'i wneud, pan fyddaf wedi gwneud fy ngorau glas i nodi i'r Aelod y prynhawn yma y sail wirioneddol ar gyfer cyflawni'r trefniadau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bu'n rhaid i Raheem Bailey, bachgen 11 oed a ddylai fod yn teimlo'n ddiogel yn ei ysgol ei hun, gael triniaeth i dynnu ei fys yn dilyn achos o fwlio. Mae ei fam, Shantal, wedi esbonio sut y bu Raheem yn dioddef cam-drin hiliol a chorfforol. Nawr, er bod achos Raheem, yn naturiol, wedi ein syfrdanu ni i gyd yng Nghymru ac wedi arwain at lif o gefnogaeth iddo o bob cwr o'r byd, yn anffodus nid yw ei brofiad yn unigryw o bell ffordd yng Nghymru. Canfu adroddiad Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ar ragfarn yn system addysg Cymru yn 2020 fod 25 y cant o athrawon wedi gweld, ymateb i, neu wedi cael cwyn gan ddisgybl am wahaniaethu ar sail hil yn ystod y 12 mis blaenorol. Dywedodd 63 y cant o ddisgyblion eu bod nhw neu rywun yr oedden nhw'n ei adnabod wedi bod yn darged hiliaeth. A yw'n bryd cael y math o ymchwiliad eang i hiliaeth yn ysgolion Cymru a awgrymodd yr adroddiad hwnnw, gan adolygu, er enghraifft, hyfforddiant gwrth-hiliaeth, adnoddau i addysgwyr, casglu data, polisïau bwlio a rhan Estyn yn y gwaith o fonitro?
Llywydd, rwy'n cytuno ag Adam Price fod yr achos, fel yr ydym wedi clywed amdano, wedi bod yn un brawychus, ac mae ein meddyliau wrth gwrs gyda'r bachgen ifanc hwnnw a'i deulu. Nid oes unrhyw achosion o fwlio, beth bynnag fo'u cymhelliant, yn dderbyniol mewn ysgolion yng Nghymru, ac mae Heddlu Gwent bellach yn ymchwilio i'r digwyddiad ei hun, gyda chymorth yr awdurdod lleol ac eraill, a rhaid i ni ganiatáu i'r broses honno gael ei chwblhau.
Yn ogystal â meddwl am y bachgen ifanc hwnnw a'i amgylchiadau, rwy'n credu ei bod yn iawn i ni feddwl am y gymuned ysgol ehangach honno hefyd. Mae pobl ifanc yn sefyll arholiadau yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri heddiw; bydd pobl ifanc eraill eisiau dychwelyd at y gyfres honno o drefniadau ar gyfer eu haddysg. Mae'n gymuned ddysgu, Llywydd, lle mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth wedi ymgysylltu'n weithgar iawn yn ddiweddar iawn drwy sicrhau bod yr hyfforddiant, yr ymwybyddiaeth, yr adnoddau ac ati—rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd yr Aelod am hynny—yn hysbys a'u bod yn cael eu dilyn yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri.
Bydd ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol yn cael ei gyhoeddi fis nesaf. Bydd yn cynnwys adran sylweddol sy'n ymdrin â gweithredu gwrth-hiliol yng nghyd-destun addysg. Mae gennyf i fy hun fwy o ddiddordeb mewn sicrhau y gallwn ni gymryd y camau hynny—y camau yr ydym wedi cytuno arnyn nhw, gyda chymaint o leisiau â phrofiad bywyd sydd wedi ein helpu ni i greu'r cynllun hwnnw—nag yr oes gennyf mewn ymchwiliad arall eto.
Pan ofynnwyd iddyn nhw beth yw'r heriau wrth addysgu disgyblion am wrth-hiliaeth yn yr adroddiad, ymatebodd 51 y cant o athrawon mai eu diffyg hyder nhw oedd yr her, a honnodd 61 y cant mai diffyg amser yn yr ystafell ddosbarth ydoedd. Mae addysgwyr o dan bwysau eithafol, ac mae llwyth gwaith wedi'i godi fel problem, er enghraifft o ran cadw athrawon. Mae addysg gwrth-hiliaeth yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd drwy'r math o weithdai a geir gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth y mae'r Prif Weinidog newydd gyfeirio atyn nhw. Ond gyda hanner yr ysgolion uwchradd bellach yn oedi cyn gweithredu'r cwricwlwm newydd tan fis Medi 2023, a yw pryderon ehangach ynghylch llwyth gwaith a straen athrawon hefyd yn dechrau cael effaith ar lesiant nid yn unig athrawon ond hefyd disgyblion nad ydyn nhw'n cael y gefnogaeth a'r math o amgylchedd hapus, cefnogol ac, yn wir, diogel y maen nhw'n ei haeddu, o ganlyniad?
Llywydd, rwy'n deall yn iawn pan fydd athrawon yn dweud efallai nad oes ganddyn nhw hyder i wybod sut i ymateb yn yr hyn sy'n feysydd cymhleth, a phryd y gallech fod yn pryderu y byddech yn dweud y peth anghywir yn anfwriadol ac ymateb yn anghywir, a bod angen i chi gael gwell gwybodaeth a hyfforddiant er mwyn sicrhau y gallwch wneud hynny. Mae'n rhan o'n bwriad fel Llywodraeth i sicrhau y gall yr holl staff rheng flaen, nid yn unig mewn addysgu ond mewn mannau eraill, gael hynny, fel y gellir mynd i'r afael â'r mater o hyder.
Rwy'n ymateb â llai o gydymdeimlad i fater amser. Nid yw ymdrin ag ymddygiad hiliol neu ymddygiad bwlio yn rhywbeth yr ydych yn ei wneud yn ychwanegol, yn ogystal â'ch swydd arferol, a bod angen awr arall arnoch ar ddiwedd y dydd i wneud hynny; mae'n rhan o'r hyn y mae athro yn ei wneud drwy'r amser ym mhob ystafell ddosbarth bob dydd yng Nghymru. Rhaid iddo fod yn rhan o'r ffordd y byddem yn disgwyl i unrhyw un sy'n wynebu rhywbeth sy'n amlwg yn annerbyniol ac na ddylai fod yn digwydd—rhaid iddyn nhw fod mewn sefyllfa lle gallen nhw ymateb iddo fel y bydd yn digwydd o'u blaenau nhw. Dyna'r math o hinsawdd yr ydym eisiau ei chreu yn ein hystafelloedd dosbarth yng Nghymru, pryd y mae pawb yn gallu cael yr amgylchedd diogel a chefnogol hwnnw, lle mae ein holl bobl ifanc yn teimlo'n hyderus i fod yno, lle mae athrawon yn barod i ymyrryd pan fo angen iddyn nhw wneud hynny, er mwyn unioni pethau pan fyddan nhw'n gweld pethau'n mynd o chwith. Dylai hynny gael ei ymgorffori drwy'r diwrnod ysgol cyfan o'r dechrau i'r diwedd, ac nid wyf yn credu ei bod yn bosibl cael dadl ynghylch cael digon o amser i'w wneud.
Prif Weinidog, mae achos cyntaf o'r frech mwnci yn yr Alban ddoe yn dod â chyfanswm niferoedd y DU i fyny i 57. Er bod arbenigwyr iechyd wedi pwysleisio bod y risg yn parhau'n isel ac y gellir rheoli'r clefyd, i rai, bydd y lluosi anarferol hwn o'r feirws yn gyfarwydd ac yn ymddangos fel adlais o ddechrau 2020. Mae asiantaeth Cyd-raglen y Cenhedloedd Unedig ar HIV/AIDS wedi mynegi pryder bod rhywfaint o'r adroddiadau a'r sylwebaeth ar y frech mwnci wedi defnyddio iaith a delweddau sy'n wahaniaethol, gan atgyfnerthu stereoteipiau homoffobig a hiliol sydd nid yn unig yn anghywir, ond sydd hefyd yn tanseilio ein gallu i ymateb. A wnewch chi nodi'r mesurau cyhoeddus yr ydych yn eu cymryd fel Llywodraeth, gan bwysleisio, er y gall unrhyw un gael y clefyd, na ddylid atal neb rhag dod ymlaen i gael y cymorth meddygol sydd ei angen arnyn nhw a'n helpu ni i atal trosglwyddiad oherwydd eu bod yn ofni cael eu beio neu eu stigmateiddio? Mae'n rhaid i ni wrthod rhagfarn ym maes iechyd, yn sicr, mor gadarn ag y mae'n rhaid i ni ei wneud ym maes addysg.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi'i ddweud yna, Llywydd. Nid ydym wedi cael unrhyw achosion wedi'u cadarnhau eto yng Nghymru, ond, pan drafodais i hyn ddoe gyda'r Gweinidog iechyd a'r dirprwy brif swyddog meddygol, yr oedd yn glir iawn mai dim ond mater o amser oedd hyn. Nid yw Cymru'n ddiogel rhag clefyd o'r math hwn. Rydym yn y sefyllfa ffodus, os mai dyna'r ffordd gywir o'i roi, ein bod, gydag achosion yn digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ein bod wedi gallu rhoi ein hymateb ar waith cyn i achosion ddod i Gymru, a dyna'n union yr oeddem ni yn ei drafod ddoe: y camau sy'n cael eu cymryd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ein byrddau iechyd, ysgogi ymateb iechyd y cyhoedd i ymdrin ag achosion o'r frech mwnci os a phan fyddan nhw'n codi yng Nghymru. Pan fyddan nhw'n gwneud hynny, nid yw'r ffaith y gall y rhan fwyaf o achosion godi mewn un rhan o'r boblogaeth yn gwarantu o gwbl na fyddan nhw'n codi mewn rhannau eraill o'r boblogaeth, ac ni ddylai neb deimlo eu bod yn cael eu rhwystro rhag dod ymlaen i gael y cymorth y bydd ei angen arnyn nhw ar gyfer yr hyn sydd, fel y dywedir wrthym, yn brin ac nid fel arfer yn gyflwr eithriadol o ddifrifol, ond yn un annymunol ac annifyr iawn. Ni ddylai unrhyw un gael ei atal rhag dod ymlaen i gael cymorth gan unrhyw adroddiadau gwael.