4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 24 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:31, 24 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'n bleser gennyf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am un o'r meysydd gwaith hanfodol y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag ef, i hyrwyddo hawliau rhai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed sy'n cael eu hesgeuluso'n aml yn ein cymunedau: pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Yn dilyn ein rhaglen arloesol Gwella Bywydau, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud nawr i fanteisio ar y cynnydd yr ydym ni wedi'u wneud. Er ein bod ni'n cydnabod y cynnydd yr ydym wedi'i wneud o ran diwallu anghenion a dyheadau pobl ag anabledd dysgu, rhaid i ni hefyd gydnabod bod y pandemig wedi cael effaith anghymesur o niweidiol ar eu bywydau bob dydd. Nid yw hyn ond wedi amlygu'r anghydraddoldebau sy'n dal i fodoli yn y gymdeithas a'r rhwystrau i'w goresgyn os yw pobl ag anabledd dysgu eisiau byw'r bywydau y maen nhw eisiau eu byw a chael eu cydnabod fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, cael cymorth i fyw, gweithio a datblygu fel unigolion, yn eu cymunedau eu hunain, ac yn agos at y bobl sydd bwysicaf iddyn nhw.

Rwy'n cyhoeddi ein cynllun gweithredu anabledd dysgu, sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i bobl ag anabledd dysgu. Byddaf i hefyd yn tynnu sylw at y camau y byddwn ni'n eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau a'r anfanteision y mae llawer yn eu hwynebu bob dydd o'u hoes. Mae'r cynllun gweithredu, yn bwysig iawn, wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad ac ymgynghoriad â phobl ag anableddau dysgu, grŵp cynghori'r Gweinidog ar anabledd dysgu, a phartneriaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Gwnaethom ni hefyd gynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid chwe wythnos wedi'i dargedu.

Mae'r cynllun yn blaenoriaethu'r meysydd, y camau gweithredu a'r canlyniadau allweddol yr ydym ni eisiau eu cyflawni. Mae'n nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, cyflogaeth, tai a thrafnidiaeth. Mae'r meysydd blaenoriaeth yn cynnwys: lleihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau y mae modd eu hosgoi; lleihau'r angen i fynd i'r ysbyty ac i unedau arbenigol drwy wella mynediad at wasanaethau yn y gymuned ac atal argyfwng; lleihau arosiadau hir mewn ysbytai, ac yn arbennig, lleihau lleoliadau y tu allan i'r sir a'r wlad; gwella mynediad at ddarpariaeth gofal cymdeithasol; cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl drwy gynyddu mynediad at sgiliau a gwasanaethau eiriolaeth a hunan-eiriolaeth, ymgysylltu a chydweithredu; sicrhau mynediad i addysg sy'n diwallu anghenion unigolion; darparu gwell cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sgiliau; cynyddu tai priodol sy'n agos i'w cartrefi gyda gwasanaethau cymorth integredig; gwella'r cymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy ddatblygu dull cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau plant ledled maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ac yn benodol, gwella'r ffordd y mae gwasanaethau'n cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw ddod yn oedolion.

Yn ogystal â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn meysydd fel cyflogaeth, addysg a thrafnidiaeth, mae'n bleser gennyf i gyhoeddi ein bod ni'n buddsoddi £3 miliwn yn ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf o'n cronfa diwygio gofal cymdeithasol newydd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae datrysiadau cymunedol ataliol a datblygu gwasanaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn barhaus, yn elfennau hanfodol i alluogi pobl ag anabledd dysgu i gael eu cefnogi a byw mor annibynnol â phosibl. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol, a gafodd ei lansio ym mis Ebrill, yn darparu £144 miliwn y flwyddyn am bum mlynedd i sbarduno'r cymorth integredig hwn y mae ei angen yn ddirfawr. Rydym ni wedi sicrhau bod unigolion ag anabledd dysgu yn un o'r grwpiau poblogaeth â blaenoriaeth sydd wedi'u nodi ar gyfer cyllid y gronfa integreiddio rhanbarthol.

Bydd cynllun cyflawni manwl yn cael ei gyhoeddi mis Awst a bydd yn cynnwys y camau gweithredu penodol a fydd yn sail i gyflawni'r camau blaenoriaeth hyn yn llwyddiannus. Bydd yn ddogfen fyw a chaiff ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau i flaenoriaethau ac amgylchiadau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r cynllun gweithredu strategol a'r cynllun cyflawni yn hyblyg ac yn cynnwys camau gweithredu sy'n realistig ac yn gyraeddadwy, o ystyried y canolbwyntio parhaus ar adfer pandemig, y pwysau digynsail parhaus ar wasanaethau cyhoeddus a chyfyngiadau ar yr adnoddau sydd ar gael ar lefel genedlaethol a lleol.

Bydd y cynllun gweithredu yn helpu i gyflawni ymrwymiadau rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r heriau sy'n ein hwynebu ni a gwella bywydau pobl ledled Cymru, gan adlewyrchu ein gwerthoedd o ran cymunedau, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, a'n hamcan llesiant datganedig i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb o bob math. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at gyflawni ein nodau llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru ffyniannus, fwy cyfartal a chymunedau cydlynol. Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu drwy gymhwyso'r ffyrdd cynaliadwy o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig y meysydd blaenoriaeth sy'n ceisio dull ataliol ac integreiddio gwasanaethau'n well.

Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi ethos y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gan fod llawer o'r blaenoriaethau sydd wedi'u nodi yn adlewyrchu ein nodau cyffredin o leihau'r anghydraddoldebau y mae llawer o bobl Cymru yn eu hwynebu. Mewn ymrwymiad i sicrhau cydweithio a chyd-gynhyrchu diffuant, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd, i nodi a chytuno ar flaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Rwy'n credu ein bod ni wedi nodi'r anghenion mwyaf dybryd yn y cynllun a byddwn ni'n gwerthfawrogi eich cefnogaeth i'r blaenoriaethau hyn.

Bydd ein grŵp cynghori gweinidogol yn monitro'r modd y caiff y cynllun ei gyflawni a byddaf i'n cael adroddiadau cynnydd yn rheolaidd. Caiff adolygiad ffurfiol ei gynnal hefyd ar ddiwedd blwyddyn 2, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn gyfredol ac yn canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i bobl ag anableddau dysgu. Byddaf i'n rhoi adroddiad cynnydd i'r Aelodau bryd hynny. Diolch.