– Senedd Cymru am 3:31 pm ar 24 Mai 2022.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gweithredu anableddau dysgu. A galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan.
Diolch. Mae'n bleser gennyf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am un o'r meysydd gwaith hanfodol y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag ef, i hyrwyddo hawliau rhai o'r grwpiau mwyaf agored i niwed sy'n cael eu hesgeuluso'n aml yn ein cymunedau: pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Yn dilyn ein rhaglen arloesol Gwella Bywydau, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, hoffwn i dynnu sylw'r Aelodau at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud nawr i fanteisio ar y cynnydd yr ydym ni wedi'u wneud. Er ein bod ni'n cydnabod y cynnydd yr ydym wedi'i wneud o ran diwallu anghenion a dyheadau pobl ag anabledd dysgu, rhaid i ni hefyd gydnabod bod y pandemig wedi cael effaith anghymesur o niweidiol ar eu bywydau bob dydd. Nid yw hyn ond wedi amlygu'r anghydraddoldebau sy'n dal i fodoli yn y gymdeithas a'r rhwystrau i'w goresgyn os yw pobl ag anabledd dysgu eisiau byw'r bywydau y maen nhw eisiau eu byw a chael eu cydnabod fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, cael cymorth i fyw, gweithio a datblygu fel unigolion, yn eu cymunedau eu hunain, ac yn agos at y bobl sydd bwysicaf iddyn nhw.
Rwy'n cyhoeddi ein cynllun gweithredu anabledd dysgu, sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i bobl ag anabledd dysgu. Byddaf i hefyd yn tynnu sylw at y camau y byddwn ni'n eu cymryd i ymdrin ag anghydraddoldebau a'r anfanteision y mae llawer yn eu hwynebu bob dydd o'u hoes. Mae'r cynllun gweithredu, yn bwysig iawn, wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad ac ymgynghoriad â phobl ag anableddau dysgu, grŵp cynghori'r Gweinidog ar anabledd dysgu, a phartneriaid o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Gwnaethom ni hefyd gynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid chwe wythnos wedi'i dargedu.
Mae'r cynllun yn blaenoriaethu'r meysydd, y camau gweithredu a'r canlyniadau allweddol yr ydym ni eisiau eu cyflawni. Mae'n nodi'r camau y byddwn ni'n eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, cyflogaeth, tai a thrafnidiaeth. Mae'r meysydd blaenoriaeth yn cynnwys: lleihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau y mae modd eu hosgoi; lleihau'r angen i fynd i'r ysbyty ac i unedau arbenigol drwy wella mynediad at wasanaethau yn y gymuned ac atal argyfwng; lleihau arosiadau hir mewn ysbytai, ac yn arbennig, lleihau lleoliadau y tu allan i'r sir a'r wlad; gwella mynediad at ddarpariaeth gofal cymdeithasol; cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl drwy gynyddu mynediad at sgiliau a gwasanaethau eiriolaeth a hunan-eiriolaeth, ymgysylltu a chydweithredu; sicrhau mynediad i addysg sy'n diwallu anghenion unigolion; darparu gwell cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sgiliau; cynyddu tai priodol sy'n agos i'w cartrefi gyda gwasanaethau cymorth integredig; gwella'r cymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy ddatblygu dull cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau plant ledled maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ac yn benodol, gwella'r ffordd y mae gwasanaethau'n cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw ddod yn oedolion.
Yn ogystal â'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn meysydd fel cyflogaeth, addysg a thrafnidiaeth, mae'n bleser gennyf i gyhoeddi ein bod ni'n buddsoddi £3 miliwn yn ychwanegol yn ystod y tair blynedd nesaf o'n cronfa diwygio gofal cymdeithasol newydd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae datrysiadau cymunedol ataliol a datblygu gwasanaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn barhaus, yn elfennau hanfodol i alluogi pobl ag anabledd dysgu i gael eu cefnogi a byw mor annibynnol â phosibl. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol, a gafodd ei lansio ym mis Ebrill, yn darparu £144 miliwn y flwyddyn am bum mlynedd i sbarduno'r cymorth integredig hwn y mae ei angen yn ddirfawr. Rydym ni wedi sicrhau bod unigolion ag anabledd dysgu yn un o'r grwpiau poblogaeth â blaenoriaeth sydd wedi'u nodi ar gyfer cyllid y gronfa integreiddio rhanbarthol.
Bydd cynllun cyflawni manwl yn cael ei gyhoeddi mis Awst a bydd yn cynnwys y camau gweithredu penodol a fydd yn sail i gyflawni'r camau blaenoriaeth hyn yn llwyddiannus. Bydd yn ddogfen fyw a chaiff ei diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau i flaenoriaethau ac amgylchiadau sy'n dod i'r amlwg. Mae'r cynllun gweithredu strategol a'r cynllun cyflawni yn hyblyg ac yn cynnwys camau gweithredu sy'n realistig ac yn gyraeddadwy, o ystyried y canolbwyntio parhaus ar adfer pandemig, y pwysau digynsail parhaus ar wasanaethau cyhoeddus a chyfyngiadau ar yr adnoddau sydd ar gael ar lefel genedlaethol a lleol.
Bydd y cynllun gweithredu yn helpu i gyflawni ymrwymiadau rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r heriau sy'n ein hwynebu ni a gwella bywydau pobl ledled Cymru, gan adlewyrchu ein gwerthoedd o ran cymunedau, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, a'n hamcan llesiant datganedig i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb o bob math. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at gyflawni ein nodau llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru ffyniannus, fwy cyfartal a chymunedau cydlynol. Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu drwy gymhwyso'r ffyrdd cynaliadwy o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig y meysydd blaenoriaeth sy'n ceisio dull ataliol ac integreiddio gwasanaethau'n well.
Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi ethos y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gan fod llawer o'r blaenoriaethau sydd wedi'u nodi yn adlewyrchu ein nodau cyffredin o leihau'r anghydraddoldebau y mae llawer o bobl Cymru yn eu hwynebu. Mewn ymrwymiad i sicrhau cydweithio a chyd-gynhyrchu diffuant, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys pobl â phrofiad bywyd, i nodi a chytuno ar flaenoriaethau ar gyfer gweithredu. Rwy'n credu ein bod ni wedi nodi'r anghenion mwyaf dybryd yn y cynllun a byddwn ni'n gwerthfawrogi eich cefnogaeth i'r blaenoriaethau hyn.
Bydd ein grŵp cynghori gweinidogol yn monitro'r modd y caiff y cynllun ei gyflawni a byddaf i'n cael adroddiadau cynnydd yn rheolaidd. Caiff adolygiad ffurfiol ei gynnal hefyd ar ddiwedd blwyddyn 2, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn gyfredol ac yn canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i bobl ag anableddau dysgu. Byddaf i'n rhoi adroddiad cynnydd i'r Aelodau bryd hynny. Diolch.
Diolch yn fawr am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Ac, er fy mod i'n croesawu'r datganiad a chyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol ar anabledd dysgu, mae arnaf i ofn bod y cynllun unwaith eto'n gyfres o ddyheadau a geiriau cynnes, nid cynllun yn unrhyw wir ystyr y gair. Yr hyn y mae'r ddogfen yr ydych chi wedi'i chyhoeddi yn ei ddangos yw bod Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai o'r heriau y mae'r rheini sy'n byw gydag anableddau dysgu yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd, ac er bod hynny i'w groesawu'n fawr, yr hyn y mae ei angen arnom ni yw manylion ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i wella canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu, ac rwy'n derbyn mai dim ond rhan o'r cynllun yw hyn ac rwy'n edrych ymlaen at graffu ar y cynllun cyflawni pan gaiff ei gyhoeddi yn ystod yr haf. Fodd bynnag, dyma'r cynllun strategol, felly ble mae'r strategaeth?
Dirprwy Weinidog, sut y caiff cynnydd o'i gymharu â bob un o'r blaenoriaethau hyn ei fonitro, ac, yn bwysicach, ei asesu? Heb fonitro a thargedau clir, sut y byddwn ni'n gwybod ein bod ni'n gwneud y peth cywir yn y ffordd gywir? Er bod croeso i'r arian ychwanegol sydd wedi'i amlinellu yn eich datganiad, sut y bydd yn cael ei ddyrannu? A sut y byddwch chi'n asesu gwariant effeithiol? Er enghraifft, bydd y £3 miliwn o'r gronfa diwygio gofal cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gwaith o gyflawni adran 3 o'r cynllun, sy'n cynnwys 15 o gamau gweithredu penodol. Pa mor bell bydd y cyllid yn mynd i gefnogi adolygiad o ddarpariaeth gwasanaethau dydd awdurdodau lleol, gan ddatblygu haenau 2 a 3 o fodiwlau Sefydliad Paul Ridd, yn ogystal â datblygu cynlluniau hyfforddi a recriwtio ar gyfer nyrsys anabledd dysgu?
Dirprwy Weinidog, rwy'n rhannu eich uchelgais i wella bywydau pobl ag anabledd dysgu, a rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu ni i chwalu rhwystrau a dileu anghydraddoldebau, ond nid ydym ni'n gwneud hynny, ac ni fydd y cynllun hwn, fel y mae ar hyn o bryd, yn newid pethau. Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i'r adnoddau hawdd eu darllen ar gyfer archwiliadau iechyd blynyddol gael eu cynhyrchu. Nid yw'r adnoddau hyn, a gafodd eu datblygu o dan y cynllun blaenorol, ar gael yn gyffredin o hyd. Mae'n rhaid i ni wneud yn well, a chymaint yn well o ran hynny. Dyna pam y mae angen monitro'r cynllun hwn yn briodol a'r canlyniadau y mae'n eu cyflawni.
Ai grŵp cynghori'r Gweinidog ar anabledd dysgu yw'r cyfrwng cywir i fonitro'r cynllun o gofio ei fod yn ddarostyngedig i'r cynllun? Mae Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn anhryloyw ar hyn o bryd ac nid yw pobl ag anableddau dysgu a grwpiau sy'n eu cynrychioli yn gweld y grŵp yn hygyrch. Rwy'n croesawu'r bwriad i wneud y grŵp yn fwy cynhwysol—mae angen hynny. Os edrychwch chi ar y grŵp ar wefan Llywodraeth Cymru, byddech chi'n credu bod y grŵp wedi cyfarfod ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2019. Rwy'n siŵr nad yw hynny'n wir, ond sut mae pobl sy'n byw gydag anableddau dysgu i fod i wybod? Mae'r grŵp hwn i fod i eiriol drostyn nhw.
Dirprwy Weinidog, gobeithio y byddwch chi'n defnyddio'r amser rhwng nawr a chyhoeddi'r cynllun cyflawni i'w gryfhau, ac edrychaf i ymlaen at weithio gyda chi i wella'r canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu. Diolch.
Diolch yn fawr am y gymeradwyaeth lwyr honno i'r cynllun hwn. Rwy'n credu eich bod wedi ymateb fel arfer, ond, beth bynnag, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi eisiau gweithio gyda ni ar hyn.
Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi fy nghlywed i'n dweud y bydd y cynllun gweithredu manwl yn cael ei gyflwyno ym mis Awst, felly rwy'n credu efallai y byddai'n well iddo aros i weld hynny cyn iddo fynd ymhellach o lawer yn ei feirniadaeth o'r Grŵp Cynghori, yn benodol, y grŵp cynghori'r gweinidog ar anabledd dysgu, na allaf i ei ganmol yn ormodol. Caiff ei arwain ar y cyd, gydag un ohonyn nhw'n fenyw ag anableddau dysgu, ac mae'n gynrychioliadol iawn o wahanol grwpiau yn y byd anabledd dysgu ac yn y gymdeithas yn gyffredinol. Maen nhw wedi pwyso arnaf i'n gryf, wedi llunio rhestr enfawr o argymhellion, yn brwydro dros fwy o gydraddoldeb, ac rwy'n falch iawn bod gennym ni grŵp mor wych ac rydym ni eisiau ei wneud hyd yn oed yn fwy cynhwysol. Felly, rwy'n credu na fyddan nhw'n fodlon iawn o glywed eich bod chi wedi bod yn feirniadol iawn ohonyn nhw, yn enwedig gan eu bod wedi cynhyrchu'r cynllun hwn ar y cyd â grwpiau eraill.
Ond, fodd bynnag, o ran y £3 miliwn, mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at yr arian arall yr ydym ni'n ei roi i faes anabledd dysgu. Ond, mae gen i fanylion o sut y caiff y £3 miliwn hwnnw ei wario. Nid wyf i'n siŵr a ydym ni eisiau ei ystyried geiniog wrth geiniog nawr heddiw, ond yn sicr un o'r pethau pwysig yw edrych ar sut yr ydym ni'n lleihau marwolaethau y mae modd eu hosgoi oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae pobl ag anableddau dysgu yn llawer mwy tebygol o fod yn sâl. Gwnaethoch chi sôn am fater archwiliadau iechyd. Roedd hyn yn rhan bwysig iawn o'r rhaglen Gwella Bywydau, sef y dylai pobl ag anableddau dysgu, sy'n dioddef yn anghymesur o rai afiechydon, gael archwiliad iechyd blynyddol. Yn anffodus, cyrhaeddodd y pandemig ac ataliodd hynny'n llwyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, cawsant eu canslo. Rydym ni nawr yn dechrau hynny eto. Yn wreiddiol, cafodd £600,000 ei roi ar ei gyfer yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yr ydym ni'n rhoi £350,000 arall i mewn. Yn amlwg, caiff hynny ei fonitro'n ofalus gan fod yr archwiliadau iechyd yn un o'r pethau pwysig iawn yr ydym ni eisiau'i wneud.
Gwnaethoch chi sôn am Sefydliad Paul Ridd, yr addysg, ac mae'r cam cyntaf wedi'i gyflawni. Hoffwn i dalu teyrnged i Sefydliad Paul Ridd ac i'w deulu sydd wedi ymgyrchu'n ddi-baid fel y bydd gwell dealltwriaeth o bobl ag anableddau dysgu, fel eu bod yn cael y driniaeth mewn ysbytai sydd ei hangen arnyn nhw. Yn y £3 miliwn hwnnw mae arian er mwyn sicrhau bod yr ail a'r trydydd cam yn mynd yn eu blaenau. Felly, gallaf i gyfrif yn llwyr am y £3 miliwn hwnnw a sut y mae'n cael ei wario.
Y pwynt arall y soniaf amdano o'r hyn a gafodd ei grybwyll gan yr Aelod yw'r gwasanaethau dydd. Mae hwnnw'n fater yr wyf i'n pryderu'n fawr amdano, oherwydd gwn i fod llawer o'r gwasanaethau dydd—bron pob un ohonyn nhw—wedi cau yn ystod y pandemig ac nid yw pob un ohonyn nhw wedi agor eto. Felly, rwy'n awyddus iawn i ni edrych ar hyn. Rydym ni'n adolygu'r sefyllfa hon, ond yr ydym eisiau, pan fyddan nhw'n agor eto, fod yn gwbl sicr mai dyma y mae pobl ag anableddau dysgu eisiau'u cael a'u bod yn cael eu cynnwys wrth gynllunio'r gwasanaethau dydd hynny.
Mae hwn yn gynllun sy'n tynnu sylw at y materion allweddol, y materion pwysig, yr heriau, wrth gwrs, sy'n wynebu pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a gofalwyr cyflogedig. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei bod yn anodd anghytuno â'r dyheadau, ond lle mae diffyg manylion mewn elfennau o weithredu, credaf i ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n gwthio'r Llywodraeth am y manylion hynny. Un o'r elfennau sydd wir yn bwysig yw eglurder ynghylch sut y bydd cynnydd yn cael ei fonitro a'i werthuso. Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym ni heddiw y bydd grŵp cynghori'r Gweinidog yn monitro'r ddarpariaeth. Edrychaf ymlaen at yr adroddiad cynnydd y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei addo i ni cyn diwedd y flwyddyn, ond rwy'n credu bod angen mwy o dryloywder ynghylch yr hyn yn union yr ydym ni'n ei fesur yma fel ein bod ni'n gwybod pa ganlyniadau yr ydym ni'n ymdrechu i'w cael.
O ran cyllid, rydym ni wedi cael y cyhoeddiad am y £3 miliwn ar gyfer cyflawni camau gweithredu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae elfennau eraill o'r cynllun y bydd angen cyllid sylweddol ar eu cyfer, ac rwy'n credu bod bylchau o hyd yn yr union ymrwymiadau ariannu hynny y gallwn ni eu disgwyl gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r dyheadau. Efallai y gall y Dirprwy Weinidog roi mwy o syniad i ni heddiw o'r elfennau hynny o gyllid y mae Llywodraeth Cymru, efallai, yn dal i geisio'u mesur, ond o leiaf rhoi syniad i ni o'r cyfeiriad y gallem ni fod yn mynd iddo. A siarad am deithio, dim ond un cam gweithredu sydd gan drafnidiaeth yn y cynllun, ac mae cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â hyfforddiant teithio yn bwysig iawn i bobl ag anabledd dysgu. A gaf i ofyn pa gynllun sydd ar waith i wella hygyrchedd trafnidiaeth i'r sawl ag anableddau dysgu?
Rydym ni wedi trafod droeon bwysigrwydd nyrsys o fewn y gweithlu gofal iechyd yn gyffredinol, wrth gwrs. Mae'n destun pryder mawr nad yw'r cynllun hwn yn cyfeirio o gwbl at nyrsys cyswllt anabledd dysgu, sy'n chwarae rhan mor bwysig. A yw Llywodraeth Cymru yn adolygu'r anghysondeb penodol hwnnw a pha welliannau sy'n cael eu gwneud?
Cwestiwn cyffredinol i orffen efallai yn ymwneud â'r pandemig. Wrth gwrs, mae'r pwysau a ddaeth yn sgil y pandemig ar wasanaethau yn hysbys iawn. Cafodd llawer o strwythurau cymorth eu dileu neu'u lleihau'n sylweddol. Roedd sefyllfaoedd gofal heriol a chymhleth eisoes yn waeth, ond yr ydym ni'n siarad yn awr am ddychwelyd at y drefn arferol. A yw Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried effeithiau tebygol y pandemig yn y tymor hwy, yr hyn y gallen nhw fod ar bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr a pha gamau y gallai fod angen eu cymryd a pha fuddsoddi y gallai fod angen ei wneud i liniaru yn y tymor hwy?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y pwyntiau yna. Rwy'n credu bod rhai ohonyn nhw wedi'u gwneud yn dda iawn. O ran y manylion, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol, o ran cynllun gweithredu, a fydd â'r manylion, y bydd cyfle i Aelodau weld hynny. Caiff ei fonitro gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog, sydd, fel y dywedais i, â chynrychiolaeth dda o bobl ag anableddau dysgu sydd â phrofiad bywyd. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl allweddol. Yn amlwg, byddan nhw'n adrodd i mi hefyd, ac ar ddiwedd y flwyddyn, cewch chi'r cyfle hwnnw i weld sut y mae'r gweithredu'n mynd rhagddo. Yn amlwg, bydd cynnydd yn cael ei werthuso. Bydd rhai o'r meysydd yr ydym ni eisiau'u gweld yn gwella yn hawdd eu gwerthuso, er enghraifft yr archwiliadau iechyd sydd mor hanfodol. Daeth y pandemig a thorri'r rheini i ffwrdd, ond byddwn ni'n sicr yn gallu gweld sut mae'r archwiliadau iechyd blynyddol hynny'n dechrau a hefyd a ydyn nhw'n cyflawni wrth nodi rhai o'r afiechydon sy'n gysylltiedig ag anabledd dysgu yn gynharach er mwyn galluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach, yn y bôn.
Mae rhai o'r mesuriadau'n gymharol hawdd eu mesur, ac eraill yn fwy anodd, ond, yn amlwg, bydd pobl ag anableddau dysgu yn manteisio ar yr holl strategaethau eraill i bawb mewn cymdeithas a dylen nhw fod yn manteisio arnyn nhw. Yn hyn o beth, rydym ni'n anelu cymorth penodol ar gyfer bobl ag anableddau dysgu, ond os oes gennym ni gymdeithas wirioneddol integredig a chyfartal, dylen nhw fod yn manteisio ar bopeth yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru. Mae llawer o ymrwymiadau ariannu eraill ar wahân i'r £3 miliwn y gwnes i ei grybwyll; dyna'r darn newydd diweddaraf sy'n nodi pethau penodol i'w datblygu.
Yn ogystal â'r £3 miliwn hwnnw, yn amlwg, mae'r gronfa fuddsoddi ranbarthol gwerth £144 miliwn lle mae anabledd dysgu yn flaenoriaeth. Felly, rydym ni'n gobeithio gweld rhai prosiectau yn dod o hynny. Mae cyllid craidd o £700,000 ar gael i fyrddau iechyd ac i Gwelliant Cymru o gyllideb anabledd dysgu pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl. Felly, mae'r £700,000 hwnnw hefyd. Ac yna, wrth gwrs, mae'r arian yr wyf i eisoes wedi'i grybwyll sydd wedi'i roi i ddatblygu'r archwiliadau iechyd—£600,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf a £350,000 yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, mae amrywiaeth eang o fanteision ariannol yn dod i'r amlwg, ond hoffwn i wir ddweud, ein bod ni eisiau bod yn siŵr bod pobl ag anableddau dysgu yn manteisio ar yr holl bethau yr ydym ni'n eu hariannu yn Llywodraeth Cymru.
Yn sicr, mae nyrsys yn rhan bwysig iawn o'r ffordd ymlaen, ac rwy'n credu i mi grybwyll eisoes yr hyn yr oedd cronfa Paul Ridd yn ei wneud mewn ffordd ehangach o ran addysgu pobl yn y system iechyd er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth gorau posibl.
Rwy'n credu bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar bawb, ac, rwy'n credu, ei fod wedi cael effaith anghymesur ar bobl ag anableddau dysgu. Felly, rhaid i ni ystyried unigrwydd ac ynysigrwydd yn benodol, oherwydd rwy'n credu y cafwyd effaith anghymesur, gyda phobl ag anableddau dysgu'n teimlo'n unig ac yn ynysig ac yn cael problem fawr o ran ymdopi. Mae hi wedi bod yn arbennig o anodd i'w gofalwyr, oherwydd mae'n amlwg bod y gofalwyr wedi cael anawsterau mawr hefyd. Felly, rwy'n credu, yn y modd yr ydym ni'n ystyried sut y mae'r pandemig wedi cael effaith hwy ar blant a phobl hŷn, rhaid i ni gynnwys pobl ag anableddau dysgu yn hynny.
Hoffwn i dynnu sylw pawb yn gyntaf at adroddiad Estyn Teilo Sant, a ddywedodd fod anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu'n eithriadol o dda. Yn wahanol i rai ysgolion, mae disgyblion sydd angen cymorth pwrpasol yn cael cymorth pwrpasol i ffynnu a chyflawni hyd eithaf eu gallu. Gwnes i weld hynny yr wythnos diwethaf pan ymwelais i â nhw.
Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n eithriadol o ran y gefnogaeth y maen nhw'n ei rhoi i bobl ifanc i'w galluogi i bontio o'r ysgol i fyd gwaith. Mae rhai'n mynd ymlaen i ragori yn eu maes dewisol, ond yn anffodus mae'n ymddangos bod eraill o allu llai yn gweld bod dod o hyd i gyfleoedd eraill ar gyfer twf a gwneud cyfraniad i gymdeithas yn crebachu'n esbonyddol, ac mewn ffordd wir frawychus mewn rhai achosion. Felly, hoffwn i ddeall yn well sut yr ydym ni'n mynd i wella'r cyfleoedd cyflogaeth i bobl a allai fod â gallu deallusol cyfyngedig ond sydd yn sicr eisiau gwneud cyfraniad. Os oes gennym ni gynlluniau addysg unigol ar gyfer disgyblion, beth am gynlluniau cyflogaeth unigol ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu?
Yn ogystal, tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y ffordd yr ydych chi'n datblygu tai priodol yn agos i gartref, gyda gwasanaethau cymorth integredig, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod hynny'n hanfodol i ofalwyr, yn enwedig wrth i ofalwyr fynd yn hŷn a bod angen iddyn nhw ofalu amdanyn nhw eu hunain.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, am y cyfraniad yna. Mae'n wych clywed am Sant Teilo ac am Goleg Pen-y-bont ar Ogwr. Rwyf i wedi cael etholwyr o fy ardal i fy hun sydd wedi mynychu Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac, yn wir, rwy'n credu ei fod yn lle rhagorol. Rwy'n credu mai pryder ac ofn pob teulu yw'r hyn sy'n mynd i ddigwydd ar ôl i'r colegau ddod i ben, ac un o'r blaenoriaethau sydd wedi'i rhestru yma yw gwneud rhywbeth ynghylch gwell cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc ag anableddau dysgu, a dyna un o'r meysydd yr ydym ni'n bwriadu ei ddilyn yn y cynllun gweithredu manwl. Yn sicr, mae pobl ag anableddau dysgu wedi tynnu sylw ato fel un o'r meysydd pwysig iawn y mae'n rhaid eu cynnwys. Mae ymdrechion wedi bod i gysylltu â chyflogwyr i gyflogi pobl ag anableddau dysgu, ac yr oeddwn i'n falch iawn ddoe pan ymwelais i â phrosiect a chwrdd â dyn ifanc â syndrom Down a oedd yn gweithio mewn garej un diwrnod yr wythnos. Roedd wrth ei fodd. Y peth cyntaf a ddywedodd wrthyf i pan gefais i fy nghyflwyno iddo oedd, 'Rwy'n gweithio mewn garej un diwrnod yr wythnos.' Rwy'n credu bod llawer iawn o le i ymestyn y math hwnnw o ddull o ymdrin â chyflogwyr a datblygu'r cynllun sydd eisoes yn bodoli o ran cysylltu â chyflogwyr. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn.
O ran tai a gofal, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad yn ddiweddar yma yn y Siambr ynghylch yr arian ychwanegol sy'n mynd i sefydlu systemau tai a gofal, ac yr ydym ni'n gobeithio y bydd y Gronfa'n cynnig £144,000 yno. Rydym ni'n gobeithio y bydd yn cyflwyno rhai cynlluniau arloesol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Rwy'n gwybod bod gan yr Aelod rieni yn ei hetholaeth sy'n mynd yn hŷn ac sy'n pryderi, fel y maen nhw yn fy etholaeth i, am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i'r bobl ifanc hynny. Mae'n bryder enfawr, a gobeithio, gyda'r cynllun hwn, y byddwn ni'n gallu ymdrin â'r materion hynny. Yn sicr, mae'r ewyllys a'r ymrwymiad yno i wneud hynny, ac mae'n cael ei fonitro'n ofalus iawn gan bobl sydd â'r profiad bywyd hwnnw.
Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Mae cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu newydd i wella bywydau pobl yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu i'w groesawu. Mae pobl ag anableddau dysgu yn aml yn wynebu heriau bywyd ychwanegol. Maen nhw'n fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd ychwanegol, megis awtistiaeth, epilepsi a phroblemau deintyddol, i enwi dim ond rhai. Nid bob tro, ond gallan nhw fod mewn mwy o berygl o fyw bywyd anweithgar a all arwain at gymhlethdodau iechyd eraill. Gwnaethom ni sôn am COVID-19. Fel ym mron pob rhan o'n gwlad, mae COVID-19 wedi cael effaith fawr ar wasanaethau anableddau dysgu. Mae'r gwasanaethau hyn yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a rhaid iddyn nhw fod yn un o'r blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Mae hyn wedi'i waethygu gan y ffaith eu bod yn fwy tebygol o fod yn agored i dlodi, amodau tai gwael a diweithdra. Yn 2006, cyflwynodd Llywodraeth Cymru archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu er mwyn canfod yn gynharach anhwylderau sy'n datblygu. Ond nid yw llawer o feddygon teulu yn cynnig y gwasanaeth hwn oherwydd diffyg tystiolaeth am y manteision iechyd hirdymor. Rwy'n credu bod angen i chi edrych—
Mae angen i'r Aelod ofyn ei gwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.
Roeddwn i eisiau gofyn am y pethau hyn a ddylai ddigwydd. Rwy'n credu y dof i ben nawr.
Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Yn sicr, mae unigolion ag anableddau dysgu yn dueddol o gael clefyd anadlol a chlefyd y galon, diabetes, problemau cyhyrysgerbydol a chyflyrau'r ystumog, gan gynnwys rhai mathau o ganser, ynghyd â'r hyn y mae'r Aelod wedi tynnu sylw ato. Mae unigolion sydd â syndrom Down yn debygol o ddatblygu dementia yn ifanc—tua 30 mlwydd oed. Felly, mae'r archwiliadau iechyd hyn yn gwbl hanfodol. Roedd hynny'n rhan o'r rhaglen Gwella Bywydau, sef ein cynllun blaenorol ni, a oedd yn cynnwys yr archwiliadau iechyd. Ond daeth pob un ohonyn nhw i ben pan ddechreuodd y pandemig, yn yr un modd â bron pob math o archwiliad—daeth pob un ohonyn nhw i ben. Felly, mae cam mawr yn ôl wedi bod oherwydd y pandemig. Ond rydym ni'n ailfuddsoddi £350,000 eleni nawr i ddechrau'r archwiliadau hynny, a fydd yn cael eu monitro. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch pa mor agored i niwed y mae pobl ag anableddau dysgu i effaith iechyd gwael, ac mae'r archwiliadau iechyd hyn yn gwbl hanfodol.
Ac yn olaf, Hefin David.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei holl waith uniongyrchol a'i hymgysylltiad â phobl sydd ag anableddau dysgu, a hefyd gyda'r rhai sy'n eiriol ar eu rhan. Rwy'n gwybod ei bod wedi cynnal cyfarfodydd ledled Cymru gyda phobl o'r fath.
Mae'r cwestiwn sydd gennyf yn ymwneud â'r sylw a wnaiff am wasanaethau cydgysylltiedig rhwng addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn enwedig sut bydd y cynllun gweithredu'n mynd i'r afael â'r hyn a alwais yn y ddadl yr wythnos diwethaf yr effaith pinbel, pan fyddwch yn sboncio rhwng iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Gall olygu eich bod yn aros yn hwy nag efallai—. Efallai y byddwch yn aros am weithiwr gofal iechyd am gyfnod byr, ond yna mae'r effaith gronnol honno'n golygu eich bod yn aros yn hir am y canlyniad terfynol. Hoffwn ofyn sut y caiff hynny ei ystyried yn y cynllun gweithredu, a allai fod yna ffyrdd o liniaru ac a allai prosesau cyfochrog, efallai, i leihau'r amseroedd aros hynny fod yn fesur effeithiol. Ar hyn o bryd, dim ond holi barn y Gweinidog ynghylch hynny yr hoffwn ei wneud.
Diolch i Hefin David am y cyfraniad yna ac am yr holl waith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn ac mewn meysydd cysylltiedig eraill. Gyda'r llwybrau cyfochrog, mae hynny yn achosi problemau ac mae'n achosi oedi, felly mae'r cynllun gweithredu eisiau datblygu gwasanaethau anabledd dysgu gwell ac integredig i blant a phobl ifanc yn holl feysydd dysgu cynnar, ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys trosglwyddo i wasanaethau oedolion hefyd. Rydym ni wedi neilltuo £175,000 o'r £3 miliwn y soniais amdano i fapio gwasanaethau'n fanwl er mwyn nodi bylchau ac anghenion. Un o'r materion hefyd yw ein bod ni wirioneddol eisiau gwella'r broses o drosglwyddo i wasanaethau oedolion, oherwydd yn ogystal â'r llwybrau cyfochrog, mae yna rwystr mawr pan fyddwch yn trosglwyddo i wasanaethau oedolion. Felly, diolch yn fawr iddo am y sylw pwysig yna, ac mae hynny'n sicr yn un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried yn y cynllun gweithredu.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.