5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 24 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:02, 24 Mai 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Er mwyn gwireddu'n huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg newydd erbyn 2050, rhaid gwneud newidiadau a chymryd camau sylweddol. Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi'r Gymraeg wrth galon dysgu yng Nghymru, ond os ydym ni am greu cenedl lle mae pobl yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd, mae cynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn hanfodol. Er mwyn gwneud hynny, wrth gwrs, mae angen gweithlu cryf a medrus arnom.

Rwy'n falch iawn, felly, o allu cyhoeddi'r cynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg heddiw, sy'n amlinellu'r camau y byddwn ni yn eu cymryd dros y 10 mlynedd nesaf, mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid. Mae'r cynllun yn nodi ein camau gweithredu yn erbyn pedwar prif nod: cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc, neu drwy gyfrwng y Gymraeg; cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n cefnogi dysgwyr; datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg; a sicrhau bod y wybodaeth a'r sgiliau gan ein harweinwyr i gynllunio a datblygu'r Gymraeg yn strategol yn ein hysgolion.

Rŷn ni eisoes wedi gosod sylfeini cryf gyda datblygiadau yn y blynyddoedd diwethaf, sy'n cynnwys: cyflwyno cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, sy'n rhoi hyd at £5,000 i fyfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu pynciau uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg, neu'r Gymraeg fel pwnc; cefnogi athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg i newid i addysgu yn y sector uwchradd—hyd yma, mae 24 o athrawon wedi bod yn rhan o'r rhaglen beilot ar draws Cymru; ac ehangu amrywiaeth o gyrsiau'r cynllun sabothol iaith Gymraeg. Cam nesaf y daith fydd gwella a sefydlu rhai o'n polisïau allweddol a sicrhau bod pob rhanddeiliad yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni ein hamcanion.

Mae athrawon, arweinwyr a staff cymorth gwych gennym ni yn ein hysgolion. Fodd bynnag, gall recriwtio staff fod yn heriol i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn arbennig. Ar hyn o bryd rwy'n adolygu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yr awdurdodau lleol. Bydd y rhain yn ein galluogi i ddeall a chynllunio yn well ar gyfer gofynion y gweithlu, i fodloni'r twf arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y degawd nesaf.

Yn y cyfamser, does dim amser i'w wastraffu. Rŷn ni eisoes wedi cychwyn datblygu'r camau byrdymor a hirdymor er mwyn cynyddu nifer yr athrawon. Rwyf wedi gwahodd ysgolion i geisio am grantiau i greu mwy o gapasiti mewn rhai rhannau o'r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23. Rwy'n gobeithio y bydd ysgolion yn gallu datblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o'r heriau o ran recriwtio staff.

Mae ymgyrch i annog mwy o'n pobl ifanc i ddewis y Gymraeg fel pwnc lefel A hefyd ar waith. Mae'r ymgyrch yn rhan allweddol o'r llwybr i sicrhau y bydd gyda ni ddigon o athrawon y Gymraeg fel pwnc yn y dyfodol. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion ystyried sut gallai taliadau cymell a bwrsariaethau ddenu mwy o bobl i ddewis addysgu mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg fel gyrfa.

Rhaid inni hefyd barhau i geisio datblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu addysg, er mwyn gwella'r addysg Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Roeddwn yn falch o gyhoeddi ym mis Chwefror y bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darparu cyrsiau am ddim i ymarferwyr o fis Medi ymlaen. Bydd y cyrsiau hyn, yn ogystal â chyrsiau'r cynllun sabothol a'r dysgu proffesiynol sy'n cael eu darparu gan ein consortia rhanbarthol a'n hawdurdodau lleol, yn darparu amrywiaeth o ddarpariaeth i'n hymarferwyr.

Mae sicrhau bod gyda ni ddigon o arweinwyr ar gyfer y twf yn nifer o'n hysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau y gall ein harweinwyr gefnogi'n gweledigaeth i bob dysgwr allu defnyddio'r iaith pan fydd yn gadael yr ysgol.

Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf er mwyn rhoi'r cynllun ar waith. Fel y nodwyd yn y gyllideb ddrafft, mae £1 filiwn arall yn cael ei ddyrannu yn 2022-23, gyda chynnydd dangosol pellach o £500,000 yn 2023-24 a £2 filiwn yn 2024-25. Mae'r cyllid newydd yn ychwanegol at gyllid presennol, sydd yn cynnwys £785,000 ar gyfer Iaith Athrawon Yfory, £6.35 miliwn ar gyfer y cynllun sabothol a chymorth rhanbarthol neu leol ar gyfer dysgu proffesiynol yn Gymraeg, £700,000 ar gyfer y rhaglen drosi, a £145,000 i gefnogi gweithgareddau i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc. Mae hyn yn dod â'r cyfanswm i bron i £9 miliwn yn 2022-23, sydd yn fuddsoddiad sylweddol.

Rŷn ni wedi trafod yn helaeth â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol er mwyn deall y materion yn llawn, ac i ddatblygu'r atebion sydd eu hangen arnon ni. Hoffwn i ddiolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r cynllun hwn, yn enwedig y grŵp gorchwyl a gorffen sydd wedi gweithio gyda ni i awgrymu, datblygu a gwella'r camau gweithredu.

Mae llawer iawn o waith i'w wneud. Rŷn ni am barhau i ddenu a chefnogi'r athrawon, y cynorthwywyr a'r arweinwyr gorau ar gyfer ein hysgolion. Mae ymroddiad, brwdfrydedd ac ymrwymiad anhygoel ein partneriaid wedi creu argraff fawr arnaf i, ac rwy'n hyderus y byddwn yn gallu cyflawni'r camau a nodir yn y cynllun er lles cenedlaethau'r dyfodol.