Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 24 Mai 2022.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad o flaen llaw. Fel y mae'r Gweinidog wedi cydnabod y prynhawn yma, mae strategaeth Cymraeg 2050 yn uchelgeisiol, ond, er mwyn diogelu dyfodol ein hiaith, rhaid inni sicrhau bod ein polisïau yn flaengar a bod ein harweinyddiaeth yn atebol.
Yn y flwyddyn dwi wedi bod yn Aelod, dwi wedi dod i sylweddoli pa mor bwysig yw chwalu'r rhwystrau a sicrhau bod ein hiaith yn un y gall pawb ei rhannu a'i dysgu, sy'n rhannol pam y croesewir y datganiad y prynhawn yma. Ond i fod yn seriws am ddatblygu ein hiaith, bydd rhaid sicrhau bod yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud yn ddigonol i gynyddu poblogaeth siaradwyr Cymraeg Cymru, nid cynnal y niferoedd presennol yn unig. Dyna fy mhryder mwyaf gyda'r polisi hwn—na fydd yn cyflawni'r hyn y mae yn bwriadu ei wneud.
Pwrpas y datganiad heddiw yw, fel y dywedodd y Gweinidog, i ddatblygu addysgu Cymraeg drwy bob lefel o addysg, a chefnogi'r addewidion uchelgeisiol a wnaed bum mlynedd yn ôl. Yn wir, yng nghynllun pum mlynedd y Gweinidog ar y pryd, yr Aelod o Flaenau Gwent, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon ysgolion cynradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg 7 y cant. Byddai hyn wedi gweld nifer yr athrawon yn cynyddu o 2,903 i 3,100. Ond, bum mlynedd ar ôl cyflwyno Cymraeg 2050, rydyn ni wedi mynd yn ôl.
Yn unol â'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, roedd 2,871 o athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg—diffyg o 7.4 y cant mewn lefelau staffio. Ond nid dyma'r unig duedd; mae lefelau recriwtio athrawon uwchradd wedi cwympo trwy'r llawr. Ym mlwyddyn academaidd 2020-21, roedd 2,395 o'r athrawon uwchradd yn addysgu yn y Gymraeg. Y targed ar gyfer y cyfnod hwn oedd 2,800—14 y cant yn is na'r targed gwreiddiol. Wrth gwrs, bydd targed uchelgeisiol fel yr un yma yn dod â'i heriau ei hun—heriau a nodwyd gyntaf bum mlynedd yn ôl. Pan lansiwyd y strategaeth hon gyntaf, rhybuddiwyd eich Llywodraeth bod ein sector addysg cyfrwng Cymraeg yn wynebu argyfwng recriwtio anodd, sefyllfa a gafodd ei chwyddo gan eich rhaglen uchelgeisiol i dyfu ein poblogaeth Gymraeg. A dyma ni, bum mlynedd yn hwyrach, gyda chynllun i fynd i'r afael â gwella'r sefyllfa. A gymerodd y Llywodraeth ei sylw oddi ar y sefyllfa?
Bum mlynedd yn ôl, rhybuddiodd pwyllgor diwylliant y Senedd fod angen 70 y cant yn fwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr. Fe wnaeth y cyn Weinidog, Alun Davies, chwalu'r pryder. A yw'r Gweinidog yn cytuno â'r sylw hwn, ynteu a yw e'n gresynu bod ei Lywodraeth wedi methu â chamu i mewn yn gynt i fynd i'r afael â'r diffygion hyn? Os ydym am fynd o ddifrif ynghylch diogelu'r iaith wych yma, yna mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth ei diogelu. Ni allwn barhau i fynd i'r afael â'r pryderon pum mlynedd oed, bum mlynedd ar ôl iddynt gael eu nodi'n gyntaf. Nid yw'r dull hwn o lywodraethu yn gynaliadwy, ac er fy mod yn fwy na chroesawu llawer o'r datganiad heddiw, rwy'n pryderu y gallai'r datganiad heddiw fod yn rhy hwyr.
Mae'n amlwg bod y pum mlynedd diwethaf wedi gweld oedi, ac os na weithredwn yn awr, mae perygl y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn llithro allan o'n dwylo, a chyda hynny, mae'r perygl y byddwn yn peryglu dyfodol ein hiaith yn y dyfodol.
Wrth edrych i'r dyfodol, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwrando ar ein sector addysg cyfrwng Gymraeg. Rwyf bob amser wedi dweud nad oes gan neb fonopoli ar syniadau da, ac eto dyma ni'n croesawu datrys problemau 2017. Ond rydych chi wedi gwrando ar ein staff addysg, Weinidog—diolch—a dyma ni nawr, dim ond pum mlynedd yn hwyr.
Rwy'n cymeradwyo'r Llywodraeth Gymraeg am gyflwyno'r datganiad hwn, ond peidiwch ag oedi cyn gweithredu'r newidiadau hyn. Gadewch inni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yn cael y gefnogaeth sylfaenol honno y mae ei hangen arnynt i ffynnu. Diolch, Dirprwy Lywydd.