Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 24 Mai 2022.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n galonogol iawn eich gweld yn canolbwyntio ar recriwtio athrawon sy'n siarad Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysgu presennol.
Os ydym ni am gyflawni ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna mae buddsoddi yn ein gweithlu addysgu yn gwbl hanfodol. Gweinidog, fe wnaethoch chi gyhoeddi cynllun yn ddiweddar i hybu'r broses o recriwtio gweithwyr gofal plant proffesiynol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer ein rhwydwaith cynyddol o gylchoedd meithrin. A gaf i ofyn a ydych chi wedi ystyried cynllun tebyg er mwyn denu siaradwyr Cymraeg i'r gwaith allweddol o fod yn gynorthwywyr addysgu ar gyfer ein hysgolion cyfrwng Cymraeg?
Yn ail, gan droi at fater darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, cyhoeddodd cyngor Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar y byddai ei ddosbarth anghenion dysgu ychwanegol ar wahân cyfrwng Cymraeg cyntaf yn agor. Mae hwn yn gam pwysig iawn i sicrhau mynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg, ond deallaf y gall recriwtio athrawon arbenigol anghenion dysgu ychwanegol Cymraeg eu hiaith fod yn her. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y caiff mwy o athrawon sy'n siarad Cymraeg eu hyfforddi mewn darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, neu y caiff mwy o athrawon anghenion dysgu ychwanegol eu hannog i ymgymryd â hyfforddiant iaith Gymraeg i ddod yn hyfedr wrth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg?
Ac yn olaf, gan droi at y mater o drosglwyddo o ofal plant Cymraeg i leoliad addysg, yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut mae gwaith cylch meithrin ffyniannus yn rhannu gwybodaeth allweddol gyda'r ysgol gynradd Gymraeg leol a chynnal digwyddiadau pontio trefnus iawn wedi arwain at gynnydd cyson yn nifer y rhieni sy'n penderfynu cymryd y cam nesaf hwnnw a chofrestru eu plant ar gyfer darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ehangu'r arferion gorau hyn a bod staff o gylchoedd meithrin ac ysgolion cynradd Cymraeg yn cael eu hannog i gydweithio'n agos er mwyn i fwy o rieni ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant?