Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 24 Mai 2022.
Wel, ie, dyna'n union fydd mesur llwyddiant. Ac fel y gwnes i wahodd Samuel Kurtz, os oes gan yr Aelod gamau penodol i'w hawgrymu sydd ddim yn y cynllun, byddwn i, wrth gwrs, yn barod i'w clywed nhw.
Mae dau brif bwynt, dwi'n credu, yn y cwestiwn wnaeth yr Aelod ei ofyn. Hynny yw, y peth cyntaf yw rôl awdurdodau lleol a sicrwydd bod cynnydd yn digwydd o ran eu cyfrifoldebau nhw i ddarparu ar gyfer addysg Gymraeg, a'r llall yw'r dadansoddiad o beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol sydd wedi golygu dŷn ni ddim wedi gallu cyrraedd y targedau. Rwy'n credu bod y ddau yn gwestiynau cymhleth.
O ran y cyntaf, bwriad cyhoeddi'r data a'r cynlluniau yma, ynghyd â'r cynlluniau strategol, yw bod cydberchnogaeth rhyngom ni a'r sector ehangach a'r awdurdodau lleol o'r cyfrifoldeb penodol i nid jest diwallu'r angen sydd yn bodoli, ond, wrth gwrs, i gynyddu'r galw am addysg Gymraeg hefyd, a bod yn rhagweithiol wrth sicrhau bod y staff ar gael i allu cyrraedd y galw hwnnw sydd wedi cael ei greu a'i ysgogi. Felly, mae'r elfen honno yn elfen newydd; mae'n elfen bwysig, rwy'n credu.
Mae'r cynlluniau strategol yn rhai uchelgeisiol ar y cyfan. Rwyf wrthi yn edrych ar rai elfennau o reini ar hyn o bryd. Ond mae pob awdurdod lleol wedi derbyn yr her rŷn ni wedi'i gosod iddyn nhw o ran cynnydd o ran y nifer sydd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardal nhw, felly mae hynny'n gam ymlaen. Ac mae hynny wrth gwrs yn golygu patrwm o fuddsoddi yn ystâd ac adeiladau ysgol sydd yn caniatáu i hynny ddigwydd—hynny yw, bod cydbwysedd ar draws y portffolio fel bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael yr un sylw ag addysg cyfrwng Saesneg er mwyn sicrhau bod yr her mae'r Aelod yn ei gosod yn cael ei hateb. Mae'n iawn: ddylen ni ddim gweld sefyllfa lle mae diffyg cydbwysedd, os hoffech chi, mewn buddsoddiad yn y ffordd mae hi'n awgrymu sydd yn gallu bodoli o bryd i'w gilydd.
O ran yr heriau sydd wedi digwydd mor belled, rwy'n credu bod mwy i ddysgu o allu ceisio gwneud mwy i ysgogi pobl i edrych ar yrfa dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynharach. Mae mwy o waith y gallwn ni ei wneud ac sydd yn y cynllun o ran sicrhau bod mynediad at lefel A yn y Gymraeg yn haws. Hynny yw, mae elfennau o ran ariannu hynny'n bosib; mae elfennau o ran darparu hynny pan nad oes niferoedd mawr mewn un ysgol, o ran y gwaith gallwn ni ei wneud gydag e-sgol ac ati. Mae ambell beth efallai sydd yn fwy creadigol oherwydd bod yr her yn amlycach, os hoffech chi. Felly, un o'r pethau byddwch chi wedi'i gweld yn y cynllun yw'r bwriad i weithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu cysylltiadau gyda myfyrwyr efallai sydd wedi gadael Cymru sy'n medru'r Gymraeg sydd yn meddwl am ddysgu a'u hannog nhw i ddod yn ôl i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghymru—felly pethau sydd, byddwn i'n awgrymu, yn greadigol ac yn arloesol yn y ffordd honno.
Mae heriau wedi bod, dwi'n credu, o ran y llwybr i gymhwyso. Felly, mae cynigion yn y cynllun o ran ehangu'r ddarpariaeth ran-amser o ran hyfforddi a hyfforddi tra'n gyflogedig, a hefyd edrych eto ar y cymwysterau TGAU sydd eu hangen er mwyn cymhwyso yma yng Nghymru a'u cysoni nhw, os hoffech chi, gyda phob rhan arall o'r Deyrnas Gyfunol. Felly, os ewch chi i unrhyw ysgol, byddwch chi'n clywed penaethiaid yn aml yn dweud, 'Pam fod angen B arnaf mewn mathemateg i ddysgu Ffrangeg neu i ddysgu'r Gymraeg?' Felly, mae trafodaeth a review o hynny yn amserol hefyd.
A'r pwynt diwethaf—a dyma'r pwynt roedd UCAC yn ei wneud, rwy'n credu ichi gyfeirio ato fe, a diolch iddyn nhw ac eraill am eu cyfraniad i'r cynllun hwn, wrth gwrs, hefyd—yw bod y pwysau ar y sector, wrth gwrs, yn ehangach na'r sector addysg Gymraeg, ond efallai bod her ychwanegol, wrth gwrs, yn y cyd-destun hwn. Rŷn ni'n edrych ar amryw o bethau yn y maes hwn. Un yw beth yw rôl bwrsariaethau i allu cynnal pobl yn dysgu drwy'r Gymraeg. Beth yw'r cyfle inni allu denu pobl yn ôl i ddysgu sydd wedi gadael y proffesiwn? Rŷn ni'n edrych ar ffyrdd creadigol o wneud hynny. Dwi wedi gofyn hefyd i'r corff sy'n ein cynghori ni ar delerau, tâl ac amodau'r proffesiwn i edrych ar yr her benodol i addysg cyfrwng Cymraeg mewn rhannau o Gymru i weld a oes achos i adlewyrchu hynny yn y math o gyngor maen nhw'n ei roi i ni o ran telerau a thermau'n fwy cyffredinol. Felly, byddwn ni'n gofyn iddyn nhw roi'r cyngor hwnnw i mi maes o law.